Mae gwirfoddoli'n ffordd wych o ddefnyddio'ch sgiliau i helpu pobl eraill, ac ar yr un pryd, byddwch chi'n dysgu rhywbeth newydd a all arwain at gymhwyster. Mae llu o gyfleoedd ar gael i wirfoddoli felly mae'n werth meddwl beth rydych chi'n awyddus i'w wneud a pha fudd rydych chi'n awyddus i'w gael ohono.
Os ydych chi'n awyddus i wirfoddoli er mwyn rhoi hwb i'ch gyrfa, meddyliwch yn ofalus am y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch. Peidiwch â bod ag ofn dweud hyn yn blaen pan fyddwch yn gwneud cais am gyfleoedd - cyn belled â'ch bod yn barod i ddangos ymrwymiad i'ch gwaith gwirfoddol, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau'n falch o'ch gweld chi'n cael budd o'r peth hefyd.
Gall gwirfoddoli gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu i chi:
bydd llawer o leoliadau gwirfoddoli'n cynnig cyfle i chi astudio a datblygu eich 'sgiliau allweddol' y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn eich blaen yn y gweithle, wrth ddysgu ac yn eich bywyd
Bydd rhai gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant galwedigaethol mewn meysydd arbenigol megis gofal cymdeithasol, gweithio gyda'r henoed, neu weithio gyda phlant
mewn rhai swyddi, bydd angen hyfforddiant penodol megis gwirfoddoli fel cwnstabl arbennig gyda'ch heddlu lleol
Fel arfer, bydd y sefydliad rydych chi'n gweithio iddo'n talu am eich costau hyfforddi a'ch treuliau yn gyfnewid am eich amser a'ch ymrwymiad.
Os ydych chi'n awyddus i wirfoddoli er mwyn rhoi hwb i'ch gyrfa, meddyliwch yn ofalus am y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch. Peidiwch â bod ag ofn dweud hyn yn blaen pan fyddwch yn gwneud cais am gyfleoedd - cyn belled â'ch bod yn barod i ddangos ymrwymiad i'ch gwaith gwirfoddol, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau'n falch o'ch gweld chi'n cael budd o'r peth hefyd.
Gall gwirfoddoli gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu i chi:
Fel arfer, bydd y sefydliad rydych chi'n gweithio iddo'n talu am eich costau hyfforddi a'ch treuliau yn gyfnewid am eich amser a'ch ymrwymiad.
Unwaith i chi benderfynu y byddech yn hoffi gwirfoddoli, gallwch chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal.
Bydd rhai mathau o waith gwirfoddol yn fwy addas i chi na mathau eraill felly mae'n werth meddwl pam eich bod chi'n awyddus i wirfoddoli, faint o amser sydd gennych i'w roi a pha sgiliau sydd gennych i'w cynnig.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig llu o gyfleoedd i wirfoddoli gan gynnwys gwirfoddoli amser llawn, gwyliau gweithio a gwirfoddoli gan gyflogeion.
Os ydych chi'n awyddus i ehangu'ch gorwelion, gallwch wirfoddoli dramor drwy'r Gwasanaeth Gwirfoddoli Dramor.