Daw aelodau panel 2007/2008 o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd, sy'n darparu safbwynt eang ar addysg bellach. Dewch i wybod mwy am aelodau'r panel – yn eu geiriau eu hunain.
Cymerir aelodau'r panel o bob rhan o'r sector addysg bellach, o golegau i ddysgu yn y gwaith.
Mae rhai o'r aelodau newydd adael yr ysgol, mae rhai wedi dychwelyd at ddysgu'n hwyrach yn eu bywydau i gynyddu eu cyfleoedd gyrfa ac mae eraill sydd wedi ymddeol ac yn dysgu er pleser.
"Fy enw i yw James Short, ac rwy'n 17 oed. Rwy'n astudio Saesneg, hanes a daearyddiaeth yng Ngholeg Cadbury yn Birmingham, lle rwy'n byw erioed. Fy uchelgais ar hyn o bryd yw mynd ymlaen i astudio ar gyfer gradd mewn hanes. Rwy'n aelod gweithgar o Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain, yn ogystal â bod yn aelod o Mensa."
"Rwy'n foi hwyliog, sy'n gweithio'n galed ac mae fy agwedd tuag at waith yn un syml. Rwy'n gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Lerpwl. Mae gen i gariad mawr tuag at gerddoriaeth erioed, a chwaeth go eclectig. Addysg yw sylfaen cymdeithas, a dyna yw fy mhleser a'm dewis lwybr. Rydw i hefyd yn hoff o farddoniaeth...ychydig rhy hoff!"
"Gyrfa yn y diwydiant gweithgynhyrchu fu gen i, gan ddechrau fel prentis mewn ystafell offer a chodi trwy'r rhengoedd i ddod yn rheolwr uned busnes. Chefais i mo'r cyfle i gael addysg pan oeddwn i'n ifanc, ac rwyf wedi ceisio parhau â'm dysgu wrth ddod yn oedolyn ac yn ystod fy ymddeoliad, gan helpu eraill i ddysgu. Derbyniais y Wobr Llwyddiant Eithriadol yng Ngwobrau Wythnos Addysg Oedolion eleni."
"Ers ymuno â Chyllid a Thollau EM, rwyf wedi cyflawni swyddogaeth y Cydlynydd Dysgu, sy'n swydd yr wy'n ei chymryd o ddifrif. Bûm yn ysgogi ac yn trefnu'r Diwrnod Dysgu yn y Gwaith. Trwy gynnal trafodaethau, rwyf wedi sicrhau y bydd pennaeth Adnoddau Dynol Cyllid a Thollau EM yn dod i'r digwyddiad, gan hybu'r diwylliant dysgu sydd bellach i'w ganfod yn ein gweithle."
"Bûm yn mynychu Coleg Chichester am dair blynedd, ac roeddwn yn ymwneud yn gyson ag undeb y myfyrwyr. Yn fy nhrydedd flwyddyn fe'm penodwyd yn llywodraethwr myfyrwyr y coleg. Ym mis Mawrth 2007, cefais fy ethol yn Is-Lywydd (AB) Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. O fewn fy ngorchwylion, rwyf wedi datblygu diddordeb neilltuol mewn darparu cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), a ffydd o fewn addysg bellach."
"Mae gennyf brofiad amrywiol ac eang o addysg a dysgu. Rwyf wedi bod yn fam llawn amser, yn ofalwraig ac yn addysgwraig. Rwy'n credu mewn rhoi grym yn nwylo plant, dysgu oedolion, a gweithio yn y gymuned. Mae gen i angerdd dros bobl ac rwy'n credu mewn cymryd agwedd iach, gytbwys at fywyd."
"Rwy'n dilyn uwch Brentisiaeth mewn busnes a gweinyddu. Oddi allan i hynny, rwy'n gweithio gyda Gwirfoddolwyr y Mileniwm fel llysgennad ac rwy'n sefydlydd/Is-Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Dunstable, sydd wedi llwyddo i gael arian gan gronfeydd cyfleoedd ieuenctid er mwyn prynu offer ar gyfer canolfan taro mewn i ieuenctid. Fel hyn rydw i'n ei gweld hi: wyddoch chi ddim beth allwch chi ei gyflawni nes i chi roi cynnig arni!"
"Bûm yn brifathro ac yn arolygydd ysgolion cyn ymddeol. Fe ddychwelais i'r brifysgol yn ystod fy ymddeoliad, ac ennill PhD mewn Addysg yn 1999 ym Mhrifysgol Southampton. Bu raid i mi dalu fy ffioedd fy hun drwy gydol fy nghyfnod yno gan nad oedd unrhyw grantiau i rai o'm grŵp oedran i. Bellach rwy'n nofelydd."
"Rwy'n dad anabl ac mae gennyf brofiad o'r anawsterau sy'n wynebu grwpiau lleiafrifol. Yn fwy na dim, rwy'n ymgyrchwr dros gydraddoldeb, ac rwy'n credu yng ngallu AB i newid bywydau. Rwyf wedi elwa o'r ail gyfle y mae'n ei gynnig, gan i mi adael addysg pan oeddwn yn 16 oherwydd iechyd meddyliol gwael."