Mae llywodraethwyr yn gwneud cyfraniad pwysig at fywyd coleg a'i fyfyrwyr. Maent yn helpu i sicrhau fod y coleg yn cael ei reoli'n dda ac yn diwallu anghenion pobl leol. Gall dod yn llywodraethwr coleg hefyd fod yn ffordd o ennill sgiliau newydd a meithrin y math o brofiad sy'n aml yn werthfawr yng ngolwg cyflogwyr.
Mae rôl colegau addysg bellach yn hanfodol gan eu bod yn helpu miliynau o bobl i ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i ddringo'r ysgol yrfa.
Mae rhai yn arbenigo mewn pynciau penodol, o gelf a dylunio i amaeth a garddwriaeth. Mae eraill yn cynnig ystod eang o gyrsiau i bob math o bobl sydd am wella eu sgiliau a chael cymhwyster efallai - o bobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol i oedolion sy'n awyddus i ailafael yn yr addysg na chawsant yn gynharach yn eu bywyd.
Felly mae'n bwysig bod colegau'n darparu'r cyfleoedd y mae ar bobl leol a chyflogwyr lleol eu hangen - a dyna lle mae llywodraethwyr colegau'n bwysig. Gwirfoddolwyr o'r gymuned leol yw'r llywodraethwyr, a hwy fydd yn helpu i benderfynu ar gyfeiriad y coleg ac yn sicrhau ei fod yn cael ei redeg yn dda.
Mae'n bwysig bod corff llywodraethu coleg yn deall anghenion myfyrwyr a chyflogwyr, yn cynrychioli'r gymuned y mae'r coleg yn ei chynrychioli ac yn cynnwys aelodau sy'n meddu ar y sgiliau i ddarparu arweinyddiaeth ar gyfer y coleg.
Felly bydd colegau'n chwilio am lywodraethwyr o bob math o gefndiroedd - pobl broffesiynol a phobl fusnes yn ogystal â myfyrwyr, rhieni a staff y coleg.
Nid oes un math arbennig o unigolyn sy'n gwneud llywodraethwr da: y rhinweddau pwysicaf yw diddordeb mewn addysg bellach a dyhead i gyfrannu at fywyd y coleg.
Pennaeth y coleg sy'n gyfrifol am reoli'r coleg o ddydd i ddydd, a'r corff llywodraethu sy'n diffinio strategaeth y coleg ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth.
Mae'r corff llywodraethu'n cynnwys rhwng 12 ac 20 o lywodraethwyr, a'r rheini wedi'u penodi am hyd at bedair blynedd ar y tro. Mae dyletswyddau’r corff yn cynnwys:
Mae hyn yn golygu bod y corff llywodraethu'n atebol am sefyllfa ariannol y coleg ac am y ffordd y mae'r coleg yn defnyddio arian cyhoeddus, safon yr addysg y mae'n ei darparu a'i gyfraniad ehangach i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu.
Mewn cyd-destun ymarferol, bydd angen i chi fynychu cyfarfodydd y bwrdd llywodraethu o leiaf unwaith y tymor. Efallai y gofynnir i chi hefyd ymuno â phwyllgor i edrych ar fater arbennig - er enghraifft, cyllid, staff, y cwricwlwm neu eiddo'r coleg.
Gall llywodraethwyr newydd ddisgwyl cael cefnogaeth a fydd yn eu helpu yn eu rôl newydd, gan ddechrau gyda chyflwyniad i'r rôl.
Gallai hyn gynnwys mynd i ddigwyddiad hyfforddi, arsylwi rhai cyfarfodydd neu 'gysgodi' un o'r llywodraethwyr presennol. Bydd rhai llywodraethwyr profiadol yn fentoriaid i lywodraethwyr newydd.
Dylech hefyd gael y cyfle i ddilyn hyfforddiant er mwyn helpu i gadw'ch gwybodaeth a'ch sgiliau'n gyfredol - gan gynnwys hyfforddiant ar y datblygiadau diweddaraf ym mholisïau'r llywodraeth ac yn strategaeth y coleg.
Mae'n bosib y bydd gennych hawl i amser 'rhesymol' o'r gwaith i ymgymryd â'ch dyletswyddau fel llywodraethwr. Byddwch yn gymwys os ydych yn dechnegol yn 'gyflogai' ac nad ydych yn gweithio yn un o'r gyrfaoedd eithriedig.
Does dim rhaid i'ch cyflogwr eich talu am yr amser a gymerwch o'r gwaith, ond gall ddewis gwneud hynny.
Gwirfoddolwyr ydy llywodraethwyr colegau, felly ni fyddant yn cael eu talu. Ond bydd gan eich coleg lleol gynllun i helpu llywodraethwyr â'r costau sy'n gysylltiedig â mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau'r coleg - er enghraifft, teithio a gofal plant.
Edrychwch ar wefan eich coleg lleol, neu cysylltwch â'ch coleg lleol gan roi gwybod iddo fod gennych ddiddordeb mewn dod yn llywodraethwr. Bydd yn gallu dweud wrthych a oes ganddynt leoedd gwag a sut y gallwch wneud cais.
Os nad oes sedd wag ar y bwrdd llywodraethwyr ar hyn o bryd, efallai y gallwch gyfrannu drwy fynd ar un o bwyllgorau'r coleg.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich coleg lleol ar wefan EduBase.