Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dysgu ar gyfer gwaith

Os ydych chi'n chwilio am swydd neu'n awyddus i ddringo yn eich gyrfa, gall gwella'ch sgiliau agor drysau newydd i chi. Mae ystod eang iawn o gyrsiau ar gael. Mae rhai am ddim, ac fe allech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol. Ceir hefyd ddigonedd o gyngor am ddim i'ch helpu i ddewis beth sy'n iawn ar eich cyfer chi.

Dringo yn y gwaith

Lle bynnag ydych chi arni yn eich bywyd, gall dysgu sgiliau newydd wella rhagolygon eich gyrfa.

Mae ymchwil yn rhagweld y bydd llai o swyddi yn y dyfodol i bobl sydd heb sgiliau - sy'n golygu bod sgiliau'n debygol o ddod yn fwyfwy pwysig ymhen hir a hwyr.

Mae help a chymorth ar gael am ddim pa un ai ydych yn gweithio ar hyn o bryd ai peidio. Ceir cynlluniau gwahanol i fodloni anghenion gwahanol bobl.

Cyngor am wella'ch sgiliau gwaith

Cael cyngor am eich gyrfa am ddim dros y ffôn neu drwy e-bost

Pa un ai ydych chi'n chwilio am swydd newydd, am ddyrchafiad neu am newid llwyr yn eich gyrfa, gallwch gael cyngor am ddim gan learndirect.

  • Ffoniwch gynghorydd gyrfaoedd a dysgu: 0800 100 900

Mae galwadau'n rhad ac am ddim, ac mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 10.00 pm, saith niwrnod yr wythnos.

Cael cyngor yn bersonol am ddim: cam nesaf

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl y cewch gymorth yn bersonol gan eich gwasanaeth cam nesaf lleol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Gloywi'ch sgiliau gwaith: dechrau arni

Mae digonedd o ddewisiadau ar gael os ydych chi am loywi'ch sgiliau.

Os ydych chi'n chwilio am swydd, ceir sawl cynllun i'ch helpu. Bydd y mwyafrif ohonynt yn rhoi cyfle ichi ddysgu tra ydych yn chwilio. Gweler yr adran 'Cynlluniau i'ch helpu i ddod o hyd i waith' isod i gael mwy o fanylion.

Os ydych chi'n gweithio, efallai y gallwch gael hyfforddiant drwy eich cyflogwr. Gweler yr adran 'Cymorth os ydych eisoes yn gweithio' isod i gael manylion.

Wrth gwrs, does dim byd yn eich rhwystro rhag trefnu i gael hyfforddiant eich hun. Mae cyrsiau a allai eich helpu i hybu rhagolygon eich gyrfa ar gael ledled y wlad. Mae nifer yn cynnig dewisiadau dysgu rhan-amser neu ddysgu o bell - a fydd yn eich caniatáu i drefnu'ch dysgu o amgylch eich bywyd. I gael mwy o syniadau, dilynwch y ddolen isod i'r adran 'Dechreuwch ddysgu'.

Mae cymorth ariannol ar gael mewn sawl achos. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybodaeth am y Grant Dysgu i Oedolion ac am gymorth ariannol ychwanegol i oedolion sy'n dysgu.

Cynlluniau i'ch helpu i ddod o hyd i waith

Os ydych chi'n ddi-waith, ceir nifer o gynlluniau cenedlaethol i'ch helpu i ddod o hyd i waith neu gael profiad gwaith.

Y Fargen Newydd a rhaglenni eraill

Mae'r Fargen Newydd yn helpu pobl i ymgymryd â gwaith. Bydd cynghorwr yn eich holi am eich profiadau, eich diddordebau a'ch amcanion, ac yn eich helpu i baratoi cynllun.

Os byddwch yn cymryd rhan, mae'n bosibl y cewch lwfans ar ben eich budd-daliadau. Mae'n bosibl y bydd ffioedd eich cwrs yn cael eu talu ac fe allech gael help gyda chost llyfrau, teithio, offer neu ofal plant.

Mae cynlluniau eraill i'ch helpu i ddod o hyd i waith yn cynnwys:

  • Treial Gwaith
  • Cyflogi ar Brawf
  • Llwybrau at Waith

Prentisiaethau

Mae Prentisiaeth yn caniatáu ichi ddysgu wrth ichi weithio, ac ennill cymhwyster wrth ichi ennill arian. Mae Prentisiaethau ar gael mewn sawl gwahanol faes, o weinyddu busnes i beirianneg, o therapi harddwch i iechyd a gofal cymdeithasol.

Os oes gennych anabledd

Os oes gennych chi anabledd, ceir cynlluniau ychwanegol i'ch helpu i ddod o hyd i waith.

Cael hyfforddiant os ydych eisoes yn gweithio

Os ydych chi'n awyddus i ennill sgiliau newydd sy'n berthnasol i fyd gwaith - ac mae gennych swydd yn barod - bydd siarad â'ch cyflogwr yn aml yn gam cyntaf da.

Cael gwybod mwy am rai o'r cyfleoedd hyfforddi a all fod ar gael drwy eich cyflogwr yn 'Cael hyfforddiant yn y gwaith'.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU