Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymwysterau: beth yw ystyr y gwahanol lefelau

Bydd gwahanol fathau o gymwysterau'n cael eu rhoi mewn grwpiau er mwyn cynrychioli gwahanol 'lefelau'. Gall hyn eich helpu chi (a chyflogwyr) i weld sut mae gwahanol gymwysterau'n cymharu â'i gilydd, a sut y gall un math o gymhwyster arwain at un arall.

Dewis y cymhwyster cywir ar eich cyfer chi

Os oes gennych ddiddordeb mewn ennill cymhwyster, gall ceisio dewis o'r amrywiaeth anferth sydd ar gael fod yn ddigon i godi braw ar rywun. Peidiwch â chynhyrfu: mae digon o gymorth a chyngor ar gael i'ch helpu i ddewis cymhwyster sy'n addas i chi.

Cyngor i bobl ifanc

I gael cyngor am ddysgu ac am gymwysterau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, cysylltwch â Connexions Direct.

  • Ffoniwch gynghorydd: 0808 001 3219

Prifysgolion ac addysg uwch

Os ydych chi'n ystyried rhoi cynnig ar ennill cymhwyster addysg uwch, ceir llawer o gyngor a gwybodaeth yn yr adran 'Prifysgolion ac addysg uwch'.

Cyngor i oedolion sy'n dysgu

Cael cyngor am gymwysterau i oedolion sy'n dysgu gan learndirect advice.

  • llinell gymorth learndirect advice: 0800 100 900

Sut mae cymwysterau gwahanol yn cymharu

Efallai y clywch bobl yn sôn am 'lefelau' cymwysterau. Mae'r lefelau hyn wedi'u cynnwys mewn dau 'fframwaith' cymwysterau.

  • Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol
  • Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch

Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol

Mae'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol yn nodi ar be lefel y gosodir cymhwyster yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae'r fframwaith yn rhoi cymwysterau tebyg, o ran beth a ddisgwylir gennych chi fel dysgwr, mewn grwpiau. Fodd bynnag, hyd yn oed os ydynt ar yr un lefel, gall y cymwysterau ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, a gall yr amser a gymerir i'w cwblhau amrywio hefyd.

Gall y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol eich helpu hefyd i weld sut y gall un math o gymhwyster arwain at gymwysterau eraill - cymwysterau sydd ar lefelau uwch.

Dim ond cymwysterau sydd wedi'u hachredu gan y tri rheolydd dros Gymry, Lloegr a Gogledd Iwerddon y gellir eu cynnwys yn y Fframwaith. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl gymwysterau yn y fframwaith o safon uchel, a'u bod yn diwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr.

 Lefel y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Enghreifftiau o gymwysterau  Beth maen nhw'n eu rhoi i chi

 Mynediad

- Tystysgrifau lefel mynediad

- Sgiliau Bywyd ar lefel mynediad

- gwybodaeth a sgiliau sylfaenol

- gallu defnyddio'r hyn a ddysgir mewn sefyllfaoedd bob dydd

- ddim wedi'u hanelu at alwedigaethau penodol

 1

- TGAU graddau D-G

- Diplomâu a Thystysgrifau BTEC Cyflwyniadol

- Cymwysterau Cenedlaethol OCR

- Sgiliau Allweddol lefel 1

- Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs)

- Sgiliau Bywyd

- gwybodaeth a sgiliau sylfaenol

- gallu defnyddio'r hyn a ddysgir dan oruchwyliaeth neu dan arweiniad

- gallai fod yn gysylltiedig â chymhwysedd mewn swydd

 2

- TGAU graddau A* - C

- Diplomâu a Thystysgrifau BTEC Cyntaf

- Cymwysterau Cenedlaethol OCR

- Sgiliau Allweddol lefel 2

- NVQs

- Sgiliau Bywyd

 

- gwybodaeth a dealltwriaeth dda o bwnc

- gallu cyflawni ystod o dasgau gyda rhywfaint o oruchwyliaeth neu arweiniad

- addas ar gyfer amryw o swyddi

 3

- Safon Uwch

- Dyfarniadau Uwch Estynedig

- TAG mewn pynciau cymwysedig

- Bagloriaeth Ryngwladol

- Sgiliau Allweddol lefel 3

- NVQs

- Diplomâu, Tystysgrifau a Dyfarniadau BTEC

- Cymwysterau BTEC Cenedlaethol

- Cymwysterau Cenedlaethol OCR

- gallu meithrin gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth, a'u defnyddio'n fanwl

- addas os ydych chi'n bwriadu mynd i'r brifysgol, gweithio'n annibynnol, neu (mewn rhai achosion) goruchwylio a hyfforddi eraill yn eu maes gwaith

 4

- Sgiliau Allweddol lefel 4

- NVQs

- Diplomâu, Tystysgrifau a Dyfarniadau BTEC Proffesiynol

- dysgu arbenigol, yn cynnwys dadansoddi gwybodaeth o lefel uchel mewn maes gwaith neu faes astudio

- addas ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn swyddi technegol a phroffesiynol, ac/neu'n rheoli ac yn datblygu eraill

 5

- HNCs a HNDs

- NVQs

- Diplomâu, Tystysgrifau a Dyfarniadau BTEC Proffesiynol

- gallu edrych ar wybodaeth yn fanylach a chael mwy o ddealltwriaeth o faes gwaith neu faes astudio, er mwyn gallu ymateb i broblemau a sefyllfaoedd cymhleth

- yn ymwneud â lefel uchel o arbenigedd a chymhwysedd ym maes gwaith wrth reoli a hyfforddi eraill

- addas ar gyfer pobl sy'n gweithio fel technegwyr lefel uwch, pobl broffesiynol neu reolwyr

6

- Diploma Genedlaethol mewn Sgiliau Cynhyrchu Proffesiynol

- Diplomâu, Tystysgrifau a Dyfarniadau BTEC Proffesiynol Uwch

- gwybodaeth lefel uchel arbenigol o faes gwaith neu faes astudio, i'ch galluogi i ddefnyddio'ch syniadau eich hun ac i ymchwilio er mwyn ymateb i broblemau a sefyllfaoedd cymhleth

- addas ar gyfer pobl broffesiynol sy'n gweithio mewn meysydd sy'n dibynnu ar wybodaeth neu bobl sydd mewn swyddi rheoli proffesiynol

7

- Diploma mewn Cyfieithu

- Diplomâu, Tystysgrifau a Dyfarniadau BTEC Proffesiynol Uwch

- lefelau gwybodaeth cymhleth ac wedi'u datblygu i safon uchel, er mwyn eich galluogi i ddatblygu ymatebion gwreiddiol i broblemau a sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld

- addas ar gyfer uwch weithwyr proffesiynol a rheolwyr

8

- dyfarniadau arbenigol

- cyfle i feithrin dulliau gweithredu newydd a chreadigol sy'n ymestyn neu'n ailddiffinio gwybodaeth neu arfer proffesiynol sy'n bodoli eisoes
- addas ar gyfer prif arbenigwyr neu ymarferwyr mewn maes penodol



Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch

Cynlluniwyd y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch gan y sector addysg uwch, ac mae'n cynnwys disgrifiadau o bob un o'r prif gymwysterau addysg uwch. Mae'n berthnasol i raddau, diplomâu, tystysgrifau a dyfarniadau academaidd eraill a roddir gan brifysgol neu goleg addysg uwch arall (heb law am raddau er anrhydedd ac uwch ddoethuriaethau).

Mae'r Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn fras yn cyfateb â lefelau 4 i 8 o'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, o ran y gofynion y mae'r cymwysterau'n eu rhoi ar y dysgwyr.

Lefel Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch Enghreifftiau o gymwysterau

Tystysgrif

- tystysgrifau addysg uwch

 Canolradd

- graddau sylfaen

- graddau cyffredin (baglor)

- diplomâu addysg uwch ac addysg bellach

- diplomâu cenedlaethol uwch

- diplomâu uwch eraill

Anrhydeddau

- graddau baglor gydag anrhydedd

- tystysgrifau graddedigion a diplomâu graddedigion

Gradd Meistr

- graddau meistr

- tystysgrifau ôl-radd

- diplomâu ôl-radd

Doethur

- doethuriaethau



Chwilio am gymwysterau achrededig

Gallwch chwilio am gymhwyster achrededig yng nghronfa ddata OpenQuals yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (QCA).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU