Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Safon UG a Safon Uwch

Os hoffech astudio pwnc penodol yn fanwl, efallai y bydd cymwysterau Safon UG a Safon Uwch yn addas i chi. Maent yn cael eu hystyried yn bwysig iawn gan ysgolion, colegau a chyflogwyr.

Safon UG a Safon Uwch: beth ydyn nhw

Mae cymwysterau Safon UG (Uwch Gyfrannol) a Safon Uwch yn canolbwyntio ar sgiliau astudio traddodiadol. Fel arfer, byddant yn cymryd dwy flynedd i'w cwblhau ar sail amser llawn yn yr ysgol neu'r coleg, er eu bod hefyd ar gael i'w hastudio ar sail rhan amser.

Gallwch ddewis o amrywiaeth eang o bynciau academaidd, yn ogystal â rhai pynciau 'cymwysedig' (cysylltiedig â gwaith).

Mae nifer o bobl yn defnyddio Safon UG a Safon Uwch i fynd ymlaen i addysg uwch, ond maent hefyd yn ddefnyddiol os ydych am fynd yn syth i mewn i swydd.

Mae cyrsiau Safon UG a Safon Uwch ar lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.

Safon Uwch: UG ac A2

Mae'r cyrsiau Safon Uwch yn cynnwys y cwrs Safon UG a'r A2. Mae'r ddwy ran yn 50 y cant o gyfanswm y radd Safon Uwch.

Safon UG

Gall y cwrs Safon UG fod yn gymhwyster sy'n sefyll ar ei ben ei hun, neu gellir ei ystyried yn hanner cyntaf y cwrs Safon Uwch llawn.

Ar ddiwedd blwyddyn Safon UG, bydd gennych ddau ddewis (yn dibynnu ar ddewis eich ysgol neu'ch coleg):

  • dilyn y cymhwyster Safon UG yn unig

neu:

  • barhau i'r ail flwyddyn a mynd am y Safon Uwch llawn

Blwyddyn dau: yr A2

Ym mlwyddyn dau cwrs Safon Uwch llawn, byddwch yn dilyn yr A2 - nid cymhwyster ar wahân yw hwn, ond ail hanner y cwrs Safon Uwch. Mae'r A2 wedi'i gynllunio i edrych yn ddyfnach ar y wybodaeth a gawsoch yn ystod Safon UG.

Dyfarniadau Uwch Estynedig

Os ydych chi'n disgwyl cael gradd A mewn cwrs Safon Uwch, efallai y byddai'n werth hefyd i chi ystyried cyflawni Dyfarniad Uwch Estynedig (DUE).

Pwy all eu dilyn

Mae nifer o fyfyrwyr yn dilyn cymwysterau Safon Uwch ac UG ym Mlynyddoedd 12 a 13, ar ôl cwblhau eu cyrsiau TGAU. Fodd bynnag, caiff oedolion eu dilyn hefyd.

Mae rhai ysgolion hefyd yn cynnig cyrsiau Safon UG mewn rhai pynciau penodol ar gyfer myfyrwyr galluog a thalentog ym Mlynyddoedd 10 ac 11 (14 i 16 mlwydd oed).

Gofynion mynediad

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i chi fod wedi pasio o leiaf pum pwnc TGAU gyda graddau A*-C. Weithiau, bydd arnoch angen TGAU gradd B neu uwch mewn pwnc penodol er mwyn ei ddilyn ar lefel Safon UG neu Safon Uwch.

Mae rhai ysgolion a cholegau hefyd yn gofyn bod gennych TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a mathemateg.

Pynciau sydd ar gael

Mae oddeutu 80 o bynciau Safon UG a Safon Uwch ar gael. Gallwch barhau i astudio pynciau a gymerir ym Mlynyddoedd 10 ac 11 a/neu ddilyn rhai newydd.

Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer Safon Uwch yn dilyn tri neu bedwar Safon UG yn eu blwyddyn gyntaf. Trwy wneud hyn, bydd gennych fwy o ddewis o ran pa bynciau i'w hastudio ar gyfer Safon Uwch llawn.

Cyrsiau Safon Uwch Galwedigaethol

Hefyd, ceir amrywiaeth o gyrsiau Safon Uwch galwedigaethol, dan y teitl 'TAGau mewn pynciau cymwysedig'.

Mae 10 pwnc, sy'n cynnig cyflwyniad eang i faes galwedigaethol megis busnes neu dwristiaeth.

Sut cewch chi eich asesu

Mae Safon UG ac A2 yn cynnwys tair rhan yr un.

Fel arfer, cewch eich asesu ar gymysgedd o 70 y cant arholiadau ysgrifenedig a 30 y cant gwaith cwrs. Ceir asesiad o sgiliau ymarferol mewn rhai pynciau megis gwyddoniaeth neu gelf.

Rhaid i bob cwrs Safon Uwch hefyd gynnwys peth 'asesu synoptig' fel rhan o'r A2. Mae hyn yn golygu profi eich dealltwriaeth o'r pwnc cyfan, ac fel arfer bydd yn cyfrannu 20 y cant at y Safon Uwch llawn.

Graddau, marciau a 'setlo'

Graddau

Rhoddir graddau A-E am Safon UG a Safon Uwch. Cyhoeddir y canlyniadau ym mis Awst a mis Mawrth bob blwyddyn.

Marciau

Bydd eich papur canlyniadau hefyd yn dangos sgôr ar rywbeth a elwir yn 'raddfa marciau unffurf' (GMU). Caiff y cwrs Safon UG ei sgorio allan o 300 marc GMU, a'r cwrs Safon Uwch allan o 600 marc.

'Setlo'

Pan fyddwch wedi cwblhau tair uned y cwrs Safon UG, ac yn hapus gyda'ch dyfarniad, gadewch i'r bwrdd arholi wybod. Gelwir hyn yn 'setlo'. Os ydych chi'n anhapus, cewch ddewis ail-sefyll uned.

Os nad yw'r arholiad yn mynd yn dda

Os, ar ddiwrnod yr arholiad, y digwydd rhywbeth y tu hwnt i'ch rheolaeth i effeithio ar eich perfformiad, efallai y byddwch yn gymwys am ystyriaeth arbennig. Siaradwch â'ch athrawon cyn gynted ag sy’n bosibl.

Ail-sefyll arholiadau

Gallwch hefyd ddewis ail-sefyll unedau unigol (er bod terfynau amser yn bodoli, ac nid yw rhai ar gael ym mis Ionawr). Bydd y corff sy'n dyfarnu'n cyfri'r marc uchaf o'ch dau gynnig.

Ailfarcio ac ailgyfrif

Os credwch y gallai rhywbeth fod wedi mynd o'i le wrth farcio eich arholiad, gall eich ysgol neu goleg ofyn am ei ailfarcio neu ei ailgyfrif.

Apeliadau

Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, gall eich ysgol neu goleg apelio gerbron y corff sy'n dyfarnu, ac yna'n derfynol, os oes angen, gerbron y Bwrdd Apeliadau Arholiadau annibynnol.

Ble gallant eich arwain

Cyrsiau Safon Uwch a Safon UG yw un o'r prif lwybrau i gyflogaeth neu addysg uwch.

Pwyntiau UCAS

Os ydych chi'n gwneud cais i brifysgol neu i goleg, maent yn ennill y pwyntiau canlynol yn y 'Tariff UCAS':

Gradd Safon Uwch Safon UG
A 120 60
B 100 50
C 80 40
D 60 30
E 40 20


Fel arfer, bydd arnoch angen o leiaf dau Safon Uwch llawn neu gymwysterau cyfwerth er mwyn dilyn cwrs addysg uwch.

Mwy o help a chyngor

Cyngor i bobl ifanc

I gael cyngor am Safon UG a Safon Uwch ac am gymwysterau eraill ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, cysylltwch â Connexions Direct.

  • Ffoniwch gynghorydd: 080 800 13 2 19

Mae'r adran 'Dewisiadau yn 16' yn cynnwys gwybodaeth am ddewisiadau ar ôl Blwyddyn 11.

Cyngor i oedolion sy'n dysgu

Cael cyngor am gymwysterau i oedolion sy'n dysgu gan learndirect advice.

  • llinell gymorth learndirect advice: 0800 100 900

Newidiadau i Safon Uwch

Cyflwynir newidiadau i Safon Uwch o fis Medi 2008. Pwrpas y newidiadau yw rhoi mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr sy'n cyflawni i safon uwch i ddangos eu gallu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU