Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dyfarniadau Uwch Estynedig

Os ydych chi'n astudio cyrsiau Safon Uwch ac yn disgwyl cael gradd A, efallai y byddai'n werth hefyd mynd am Ddyfarniad Uwch Estynedig (DUE). Mae'n rhoi cyfle i chi ddangos pa mor ddwfn yr ydych yn deall pwnc.

Dyfarniadau Uwch Estynedig: beth ydyn nhw

Mae Dyfarniadau Uwch Estynedig yn gofyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth a gawsoch yn ystod eich astudiaethau Safon Uwch, a'i defnyddio'n ehangach ac yn fwy beirniadol nag yn yr arholiad Safon Uwch.

Oherwydd bod DUEau wedi'u cynllunio ar gyfer y 10 y cant uchaf o ddisgyblion, maent hefyd yn galluogi prifysgolion i wahaniaethu rhwng yr ymgeiswyr mwyaf galluog, yn enwedig mewn pynciau lle bydd nifer o ddisgyblion yn cael graddau A.

Mae'r DUE ar lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.

Pwy all eu gwneud

Fel arfer, disgyblion sy'n astudio Safon Uwch sy'n gwneud DUEau, felly does dim angen mynychu dosbarthiadau ychwanegol na dysgu pynciau newydd. Fodd bynnag, mae'n bosib gwneud y DUE heb y cwrs Safon Uwch ei hun.

Pynciau sydd ar gael

Mae'r DUEau ar gael mewn 19 pwnc. Yn y rhan fwyaf o achosion, argymhellir eich bod yn astudio (neu wedi gorffen astudio) cwrs Safon Uwch yn yr un pwnc.

Sut cewch chi eich asesu

Byddwch yn sefyll arholiad ysgrifenedig a asesir gan arholwyr allanol.

Bydd disgwyl i chi ddangos eich bod yn gallu:

  • dadansoddi'n feirniadol
  • gwerthuso'n dda
  • dod â gwahanol bynciau at ei gilydd

Graddau

Ceir dwy radd pasio ar gyfer DUE:

  • rhagoriaeth
  • clod

Os nad ydych yn cyrraedd y safon ar gyfer clod, cewch radd annosbarthedig.

Pwyntiau UCAS

O 2006 ymlaen, bydd DUEau yn cyfrif yn swyddogol tuag at 'Dariff UCAS' i gael lle mewn addysg uwch. Cewch 40 pwynt am ragoriaeth, ac 20 pwynt am glod. Mae hyn yn ychwanegol i'r pwyntiau a gewch am eich pynciau Safon Uwch.

Pryd y byddwch yn eu sefyll

Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn sefyll DUEau tua'r un adeg ag y maent yn sefyll arholiadau Safon Uwch, sef diwedd mis Gorffennaf fel arfer. Cyhoeddir y canlyniadau ar yr un diwrnod â chanlyniadau Safon Uwch.

Os ydych am wella eich perfformiad yn y DUE, gallwch gofrestru i wneud y cymhwyster eto yr haf canlynol.

Ble gallant eich arwain

Bydd nifer o bobl sy'n sefyll DUE yn mynd ymlaen i addysg uwch, i astudio ar gyfer gradd er enghraifft. Fodd bynnag, gall y sgiliau a ddysgwch fod yn ddefnyddiol yn y gweithle hefyd.

I gael mwy o wybodaeth a chyngor am barhau â'ch astudiaethau, gweler yr adran 'Prifysgolion ac addysg uwch'.

Cymorth a chyngor

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefyll DUE, siaradwch â'ch athro i gael mwy o wybodaeth.

Cyngor i bobl ifanc

I gael cyngor am ddysgu ac am gymwysterau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, gallwch hefyd gysylltu â Connexions Direct.

  • Ffoniwch gynghorydd: 0808 001 3219

Cyngor i oedolion sy'n dysgu

Cael cyngor am gymwysterau i oedolion sy'n dysgu gan learndirect advice.

  • llinell gymorth learndirect advice: 0800 100 900

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU