Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

BTEC, Cymwysterau Cenedlaethol OCR a chymwysterau galwedigaethol eraill

Os ydych chi'n dymuno dysgu mwy am swydd neu faes gwaith penodol, mae nifer o gymwysterau galwedigaethol i ddewis o'u mysg. Mae enghreifftiau'n cynnwys cymwysterau BTEC a Chymwysterau Cenedlaethol OCR.

Cymwysterau galwedigaethol

Gall cymwysterau galwedigaethol amrywio o gymwysterau cyffredinol lle byddwch yn dysgu sgiliau sy'n berthnasol i amrywiaeth o swyddi, i gymwysterau arbenigol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer sector penodol.

Maent ar gael gan sawl corff dyfarnu, megis City and Guilds, Edexcel ac Arholiadau OCR, a gellir eu dilyn ar nifer o wahanol feintiau a lefelau.

Gallwch ddarganfod mwy am gymwysterau galwedigaethol ar wefan yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm.

Cymwysterau BTEC a Chymwysterau Cenedlaethol OCR: beth ydyn nhw

Mae cymwysterau BTEC a Chymwysterau Cenedlaethol OCR yn fathau penodol o gymwysterau sy'n ymwneud â gwaith, ac maent ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau.

Gallwch ddilyn un os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am sector neu ddiwydiant penodol. Mae nifer ohonynt wedi'u cynllunio ar y cyd gyda diwydiant, felly gallant roi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Mae'r cymwysterau'n cynnig cymysgedd o ddamcaniaeth ac ymarfer, a gallant hefyd gynnwys elfen o brofiad gwaith. Gallant fod ar ffurf tystysgrif dechnegol, neu fod yn rhan o un, sy'n un o elfennau allweddol Prentisiaeth.

Beth y gallwch chi ei astudio

Mae cymwysterau BTEC a Chymwysterau Cenedlaethol OCR ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys:

  • celf a dylunio
  • busnes
  • iechyd a gofal cymdeithasol
  • technoleg gwybodaeth
  • cyfryngau
  • gwasanaethau cyhoeddus
  • gwyddoniaeth
  • chwaraeon

Fel arfer, cânt eu hastudio ar sail amser llawn yn y coleg, neu weithiau mewn ysgol (neu ar y cyd rhwng ysgol a choleg). Gallwch hefyd eu hastudio ar sail rhan amser yn y coleg.

Fel arfer, fe'u dilynir gan ddysgwyr dros 16 mlwydd oed, er bod rhai ysgolion yn eu cynnig i blant rhwng 14 ac 16 oed, fel arfer ar y cyd â chymwysterau eraill megis TGAU neu Sgiliau Allweddol.

Lefelau a meintiau

Mae cymwysterau BTEC ar gael ar amrywiaeth o lefelau ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Cynigir Cymwysterau Cenedlaethol OCR ar lefelau 1 i 3. Mae'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.

Mae'r cymwysterau ar gael mewn amrywiaeth o feintiau o fewn pob lefel, ac yn cymryd gwahanol gyfnodau o amser i'w cwblhau.

Gofynion mynediad

Gall cymwysterau ar wahanol lefelau gael gwahanol ofynion mynediad.

Er enghraifft, os dymunwch astudio ar gyfer cymhwyster lefel 2, fel rheol, bydd arnoch angen TGAU gyda graddau D-G, neu gymhwyster lefel 1 mewn pwnc cyffelyb.

I astudio cymhwyster lefel 3, fel rheol, bydd arnoch angen TGAU gyda graddau A*-C, neu gymhwyster lefel 2 mewn pwnc cysylltiedig.

Cyrsiau byr a chyrsiau arbenigol

Mae cyrsiau byr a chyrsiau arbenigol BTEC hefyd ar gael mewn gwahanol feintiau ac ar wahanol lefelau ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Sut cewch chi eich asesu

Yn gyffredinol, cewch eich asesu gan eich athro neu'ch hyfforddwr yn eich man astudio. Yn dibynnu ar y cymhwyster a ddewiswch, efallai y bydd arholwyr allanol yn cyflawni peth o'r gwaith asesu hefyd.

Byddwch yn cwblhau amrywiaeth o aseiniadau, astudiaethau achos a gweithgareddau ymarferol, yn ogystal â phortffolio o dystiolaeth sy'n dangos y gwaith yr ydych wedi'i gwblhau.

Graddau

Caiff cymwysterau BTEC a Chymwysterau Cenedlaethol OCR eu graddio fel a ganlyn:

  • pasio
  • clod
  • rhagoriaeth

Pwyntiau UCAS

Os dilynwch gymhwyster ar lefel 3, gallwch ennill pwyntiau ar y 'Tariff UCAS' ar gyfer mynediad i addysg uwch.

Gall cymwysterau BTEC a Chymwysterau Cenedlaethol OCR ennill yr un faint o bwyntiau i chi â chyrsiau Safon Uwch a Safon UG. Er enghraifft, gwerth Diploma Cenedlaethol BTEC gyda chyfanswm o dair gradd clod yw 240 pwynt UCAS (mae un Safon Uwch gyda gradd A yn 120 pwynt UCAS).

Ail-sefyll

Os ydych chi'n anhapus gyda'ch canlyniad mewn adran benodol o'r cwrs (neu 'uned'), ceir cyfle i wella'ch perfformiad. Siaradwch â'ch hyfforddwr neu athro. Os ydych yn dal i fod yn anhapus ar ôl hynny, gall eich athro eich cynghori ynglŷn ag apelio.

Ble gallant eich arwain

Gall cymwysterau BTEC neu Gymwysterau Cenedlaethol OCR arwain at swydd neu at astudio pellach.

Er enghraifft, gallech fynd ymlaen o gymhwyster ar un lefel o'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol i lefelau uwch yn yr un maes astudio, neu mewn maes cysylltiedig. Gallai hyn arwain yn y pen draw at gymwysterau proffesiynol.

Gallech hefyd ddefnyddio cymhwyster lefel 3 fel llwybr i mewn i addysg uwch, megis dilyn cwrs HNC neu HND.

Cymorth a chyngor

Cynigir cymwysterau BTEC gan y corff dyfarnu Edexcel; cynigir Cymwysterau Cenedlaethol OCR gan y corff dyfarnu Arholiadau OCR. Ewch i'w gwefannau i ganfod pa gymwysterau penodol sydd ar gael.

Gallwch gael cyngor hefyd gan eich ysgol, eich coleg, eich cyflogwr neu eich cynghorydd gyrfa.

Cyngor i bobl ifanc

I gael cyngor am ddysgu ac am gymwysterau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, gallwch hefyd gysylltu â Connexions Direct.

  • Ffoniwch gynghorydd: 0808 001 3219

Mae'r adran 'Dewisiadau yn 16' yn cynnwys gwybodaeth am ddewisiadau ar ôl Blwyddyn 11.

Cyngor i oedolion sy'n dysgu

Cael cyngor am gymwysterau i oedolion sy'n dysgu gan learndirect advice.

  • llinell gymorth learndirect advice: 0800 100 900

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU