TGAU yw'r prif gymhwyster ar gyfer plant 14 i 16 mlwydd oed, ond maent ar gael i unrhyw un sy'n dymuno astudio pwnc sydd o ddiddordeb iddynt. Gallwch ddilyn TGAU mewn amrywiaeth eang o bynciau academaidd a 'chymhwysol' (cysylltiedig â gwaith).
Mae TGAU yn sefyll am 'Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd'. Mae ysgolion, colegau a chyflogwyr yn rhoi gwerth mawr arnynt, ac felly byddant yn ddefnyddiol beth bynnag yr ydych yn bwriadu ei wneud wedi hynny.
Mae'r cymhwyster yn golygu astudio theori pwnc, ynghyd ag ychydig o waith ymchwiliol. Bydd rhai pynciau'n cynnwys gwaith ymarferol hefyd. Fel arfer, astudir TGAU ar sail amser llawn mewn ysgol neu goleg, a bydd yn cymryd pum tymor i'w gwblhau.
Mae TGAU ar lefelau 1 a 2 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, yn dibynnu ar y radd a gewch. Er mwyn cael graddau uchel, bydd disgwyl i chi fel arfer ddangos lefelau da o gyrhaeddiad gyda darllen ac ysgrifennu.
Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.
Mae TGAU ar gael mewn dros 40 pwnc academaidd ac wyth pwnc 'cymhwysol'. Mae'r pynciau cymwysedig yn ymwneud â maes eang o waith, megis peirianneg neu dwristiaeth. Gallwch hefyd astudio sawl TGAU fel cyrsiau byr.
Gall eich ysgol neu goleg eich cynghori am y pynciau sydd ar gael i chi.
I fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 (rhwng 14 a 16 oed), mae'n rhaid astudio rhai pynciau fel rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Felly efallai y byddai'n werth dilyn TGAU er mwyn cael rhywbeth o werth ar ddiwedd y ddwy flynedd.
Gallwch chwilio am gyrsiau TGAU yn eich ardal chi ar wefan Directgov.
Gyda TGAU, cewch eich asesu ar arholiadau ysgrifenedig yn bennaf, ynghyd ag elfennau o waith cwrs y byddwch yn eu cwblhau trwy gydol y cwrs. Gall gwaith cwrs gynnwys prosiectau, gwaith maes, gwaith celf, arbrofion neu ymchwiliadau. Mewn rhai pynciau, fel celf a dylunio, gall fod mwy o waith cwrs a llai o arholiadau.
Bydd rhai TGAU yn cynnwys unedau; ar gyfer y rhain, byddwch yn sefyll arholiadau ar ddiwedd pob uned. Bydd gan eraill arholiadau ar ddiwedd y cwrs.
Gyda rhai pynciau, bydd pawb yn sefyll yr un arholiad. Gyda phynciau eraill, ceir dewis o ddwy haen: 'haen uwch' neu 'haen sylfaenol'. Bydd pob haen yn arwain at ystod wahanol o raddau. Fel arfer, eich athro pwnc fydd yn penderfynu pa haen sydd orau i chi.
Fel rheol, cynhelir arholiadau ym mis Ionawr a mis Mai/Mehefin bob blwyddyn.
Bydd arholwyr yn cyfrifo faint o 'farciau crai' fydd eu hangen arnoch i gael gwahanol raddau. Os ydych wedi dilyn TGAU sy'n cynnwys unedau, mae'n bosib y bydd eich papur canlyniadau yn dangos sgôr pwyntiau ar y raddfa marciau unffurf. Mae arholwyr yn defnyddio'r raddfa i gyfuno marciau gwahanol unedau er mwyn cyfrifo'ch gradd TGAU.
Caiff TGAU eu graddio o A*-G ac U (di-ddosbarth):
Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi ym mis Mawrth a mis Awst bob blwyddyn.
Os, ar ddiwrnod yr arholiad, y digwydd rhywbeth y tu hwnt i'ch rheolaeth i effeithio ar eich perfformiad, efallai y byddwch yn gymwys am ystyriaeth arbennig. Siaradwch â'ch athrawon cyn gynted ag sy’n bosibl.
Os yw'r TGAU yn seiliedig ar unedau, gallwch ddewis ailsefyll unedau unigol. Bydd y corff sy'n dyfarnu'n cyfri'r marc uchaf o'ch gwahanol gynigion. Fodd bynnag, mae ailsefyll yn golygu llai o amser i astudio ar gyfer unedau eraill, ac nid yw'n opsiwn hawdd o bell ffordd.
Os credwch y gallai rhywbeth fod wedi mynd o'i le wrth farcio eich arholiad, gall eich ysgol neu goleg ofyn am ei ail-farcio neu ei ail-gyfrif.
Os credwch y gallai rhywbeth fod wedi mynd o'i le wrth farcio eich arholiad, gall eich ysgol neu goleg ofyn am ei ail-farcio neu ei ail-gyfrif.
Gall ennill TGAU arwain at sawl llwybr: er enghraifft, gwaith, astudio pellach neu Brentisiaeth.
Os byddwch yn cwblhau TGAU ar lefel 1, gallwch fynd ymlaen i wneud cyrsiau eraill neu hyfforddiant yn y gwaith ar lefelau 1 neu 2.
Gall cwblhau TGAU ar lefel 2 arwain ar gyrsiau lefel 2 eraill a chyrsiau lefel 3 o bob math. Fodd bynnag, weithiau, os ydych yn dymuno dilyn cwrs lefel 3 (megis Safon Uwch), bydd disgwyl i chi fod wedi gwneud TGAU yn yr un pwnc.
Os ydych chi'n meddwl am addysg uwch, efallai y bydd angen TGAU mewn pynciau penodol arnoch. Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau yn gofyn am bump TGAU gyda graddau A*-C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (yn ogystal â chymwysterau Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol).
I gael gwybod mwy am y gwahanol TGAU sydd ar gael yn eich ardal chi, siaradwch â'ch athro neu cysylltwch â'ch coleg lleol.
I gael cyngor am ddysgu ac am gymwysterau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, gallwch hefyd gysylltu â Connexions Direct.
Gall oedolion sy'n dysgu gael cyngor am TGAU a chymwysterau eraill gan learndirect Careers Advice.
Nid yw cyrsiau TGAU mathemateg a ddechreuodd ar ôl mis Medi 2007 yn cynnwys gwaith cwrs, ac fe geir newidiadau i elfen gwaith cwrs pynciau TGAU eraill dros y blynyddoedd nesaf.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am y newidiadau mewn gwaith cwrs TGAU, a'r 'sgiliau swyddogaethol' a fydd yn ffurfio rhan o gyrsiau TGAU Saesneg, mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) o 2010 ymlaen.