Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am bynciau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â maes gwaith, neu os ydych yn dda ym mhynciau ymarferol, gall TGAU 'cymhwysol' fod yn ddewis da i chi. Gallwch hefyd ddewis dilyn rhai TGAU fel 'cyrsiau byr', sy'n gyfwerth â hanner TGAU llawn.
Mae TGAU cymhwysol wedi'u cynllunio i gynnig dulliau mwy ymarferol na TGAU traddodiadol, ac maent yn eich annog i ddefnyddio'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o bwnc mewn ffordd ymarferol. Efallai eich bod wedi clywed pobl yn cyfeirio atynt fel TGAU 'galwedigaethol' hefyd.
O ran maint, mae nifer o'r TGAU cymhwysol yn gyfwerth â dau TGAU traddodiadol. Gallwch ddilyn TGAU cymhwysol a TGAU traddodiadol ar yr un pryd.
Maen nhw ar lefelau 1 a 2 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.
Gallwch ddewis o wyth pwnc cymhwysol gwahanol, sydd wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad eang i chi o'r pwnc:
Mae pynciau eraill wrthi'n cael eu datblygu hefyd, gan gynnwys lletygarwch ac arlwyo, adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, addysg gorfforol cymhwysol a Ffrangeg cymhwysol.
Caiff TGAU cymhwysol eu hasesu ar yr un safon a TGAU traddodiadol, ond bydd mwy o bwyslais ar waith ymarferol yn yr hyn a gynhyrchir. Byddwch yn cynnal eich ymchwiliadau eich hun ac yn cynhyrchu portffolio o waith.
Bydd y cymhwyster yn cynnwys tair uned gyfwerth. Fel arfer, asesir dwy ran o dair o'ch gwaith gan eich athrawon, a'r traean arall gan arholwyr allanol.
Os ydych chi yn yr ysgol, mae'n bosib y cynhelir unrhyw wersi TGAU cymhwysol mewn coleg lleol.
Gan fod sawl TGAU cymhwysol yn ddwbl maint TGAU traddodiadol, cânt eu graddio fel A*A*-GG ac U (di-ddosbarth):
Gall TGAU cymhwysol arwain at lwybrau tebyg i TGAU traddodiadol: er enghraifft, gwaith, astudio pellach neu Brentisiaeth.
Os ydych yn dymuno parhau â'ch astudiaethau, mae'n bosib i chi wneud NVQ mewn pwnc tebyg, neu gymhwyster lefel 3 megis TAG mewn pwnc cymhwysol.
Pwrpas cyrsiau TGAU byr yw cynnig mwy o ddewisiadau i chi ynghylch beth fyddwch chi'n astudio, a sut.
Maent yn cyfateb i hanner TGAU llawn, felly gellir eu cwblhau yn hanner yr amser (tua thri tymor). Fodd bynnag, os ydych chi'n dysgu'n arafach nag eraill, gallwch ddewis astudio cwrs byr dros yr un cyfnod â TGAU traddodiadol.
Mae cyrsiau byr hefyd yn galluogi myfyrwyr mwy galluog ddilyn pynciau ychwanegol, fel ail iaith dramor. Yn ogystal, gallant fod yn ddefnyddiol os bydd eich amserlen yn yr ysgol neu'r coleg yn eich rhwystro rhag dilyn cwrs TGAU llawn.
Mae cyrsiau byr ar gael mewn amrywiaeth o bynciau TGAU traddodiadol. Fe'u hasesir yn debyg i TGAU llawn, ac maent yn arwain at yr un graddau: A*-G ac U (di-ddosbarth).
Gall cyrsiau byr arwain at lwybrau tebyg i TGAU traddodiadol. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno mynd ymlaen i gymwysterau lefel 3 (megis Safon Uwch), gall rhai pynciau fod angen TGAU llawn yn y pwnc hwnnw.
Siaradwch â'ch athro neu cysylltwch â'ch coleg lleol am yr amrywiaeth o TGAU cymhwysol a chyrsiau byr sydd ar gynnig.
Gallwch chwilio am TGAU cymhwysol a chyrsiau byr yn eich ardal chi ar wefan Directgov.
I gael cyngor am ddysgu ac am gymwysterau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, gallwch gysylltu â Connexions Direct.
Gall oedolion sy'n dysgu gael cyngor am TGAU a chymwysterau eraill gan learndirect advice.