Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch a Diplomâu Cenedlaethol Uwch

Os ydych chi am fynd yn eich blaen i addysg uwch ac ennill cymhwyster cydnabyddedig er mwyn gwneud swydd benodol, efallai mai BTEC, HNC neu HND yw'r peth i chi. Mae Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC) a Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND) yn canolbwyntio ar 'ddysgu trwy wneud' a gallant eich arwain at yrfa neu eich helpu i ddatblygu yn eich gyrfa bresennol.

HNC a HND: beth ydyn nhw

Mae Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC) a Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND) yn gymwysterau addysg uwch sy'n ymwneud â gwaith (galwedigaethol). Tra bo graddau baglor yn dueddol o ganolbwyntio ar ennill gwybodaeth, pwrpas HNC a HND yw rhoi'r sgiliau i chi er mwyn rhoi'r wybodaeth honno ar waith yn effeithiol mewn swydd benodol.

Mae cyflogwyr yn y DU a thramor fel ei gilydd yn rhoi gwerth mawr ar y rhain, a gallant hefyd gyfrif tuag at fod yn aelod o gyrff proffesiynol a sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig â chyflogwyr.

Darperir cyrsiau HNC a HND gan dros 400 o golegau addysg uwch a cholegau addysg bellach. Mae HNC yn gwrs blwyddyn amser llawn a dwy flynedd rhan-amser (neu mewn sefyllfaoedd eraill megis dysgu o bell). Mae HND yn gwrs dwy flynedd amser llawn ac mae modd ei ddilyn rhan-amser hefyd (sy'n cymryd mwy o amser).

Mae HNC a HND ar lefel 5 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.

Pynciau sydd ar gael

Mae HNC a HND ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys:

  • amaethyddiaeth
  • cyfrifiaduron a thechnoleg gwybodaeth
  • adeiladu a pheirianneg sifil
  • peirianneg
  • iechyd a gofal cymdeithasol
  • busnes a rheolaeth
  • gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff
  • y celfyddydau perfformio
  • adwerthu a dosbarthu
  • rheolaeth ym maes croeso

Pwy all eu dilyn

I astudio HNC neu HND, bydd angen i chi gael rhywfaint o gymwysterau blaenorol. Mae angen un Safon Uwch (neu gymhwyster cyfatebol) er mwyn dilyn y rhan fwyaf o gyrsiau HND.

Chwilio am gyrsiau ar-lein

Gallwch chwilio am gyrsiau HNC neu HND yn eich ardal chi ar Directgov, gan gynnwys manylion unrhyw ofynion mynediad penodol ar gwrs arbennig.

Gallwch hefyd chwilio am gyrsiau ar wefan y Gwasanaeth Mynediad Prifysgolion a Cholegau (UCAS).

Sut cewch chi eich asesu

Asesir HNC a HND yn bennaf trwy aseiniadau, prosiectau a thasgau ymarferol y byddwch chi'n eu cwblhau drwy gydol y cwrs.

Graddau

Os byddwch chi'n llwyddo i gwblhau HNC neu HND, dyma sut y dangosir y graddau ym mhob uned pwnc:

  • pasio
  • clod
  • rhagoriaeth

Ail-sefyll

Os ydych chi'n anhapus gyda'ch canlyniad mewn prosiect neu dasg ymarferol penodol, ceir cyfle i wella'ch perfformiad. Siaradwch â'ch athro/athrawes neu diwtor i ddechrau.

Apeliadau

Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r marc neu'r radd a gawsoch, gallwch ddilyn trefn apelio. Unwaith eto, siaradwch â'ch athro/athrawes neu diwtor i gael rhagor o gyngor.

Ble gallant eich arwain

Gan mai diben HNC a HND yw rhoi'r sgiliau i chi ar gyfer maes gwaith penodol, gallant eich arwain yn syth at yrfa. Gallwch hefyd ddefnyddio'r cymwysterau i fynd yn eich blaen yn eich gyrfa bresennol, er enghraifft, yn gam i ennill statws proffesiynol.

Gallwch hefyd drosi eich HNC neu HND yn radd baglor gyda mwy o astudio. Ar ôl i chi orffen eich cwrs, gall HNC ganiatáu i chi fynd i ail flwyddyn gradd tra bo HND yn caniatáu i chi fynd i'r ail neu'r drydedd flwyddyn.

Diploma addysg uwch

Mae diplomâu addysg uwch yn debyg i HND. Cymwysterau proffesiynol achrededig ydynt ac mae parch mawr iddynt ymhlith cyflogwyr yn y DU a thramor fel ei gilydd.

Cyrsiau dwy flynedd ydy'r rhain fel arfer a chynigir pynciau megis cyfrifeg, adeiladu, peirianneg, nyrsio, gwyddoniaeth, technoleg a dylunio tecstiliau.

Fel arfer, gallwch drosi eich diploma addysg uwch yn radd gyda blwyddyn arall o astudio. Mae'r diplomâu ar lefel 'ganolradd' ar y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ).

Tystysgrif addysg uwch

Cymwysterau academaidd, yn hytrach na rhai galwedigaethol, yw tystysgrifau addysg uwch. Maent yn cyfateb yn fras i HNC, ac fel arfer yn cymryd blwyddyn o astudio ar raddfa amser llawn i'w cwblhau. Maent ar y lefel 'tystysgrif' ar y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.

Sut i wneud cais a chael gwybod mwy

I gael gwybod mwy am sut i wneud cais am HNC, HND a thystysgrifau neu ddiplomâu addysg uwch, gweler 'Gwneud cais am gyrsiau addysg uwch'.

Y corff dyfarnu Edexcel sy'n cynnig HNC a HND; ymwelwch â'u gwefan i gael manylion y cymwysterau sydd ar gael.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU