Mae chwe cham i’w dilyn wrth fynd ati i gael lle mewn prifysgol neu goleg drwy UCAS.
Fel arfer, byddwch yn gwneud cais yn y flwyddyn academaidd cyn y bwriadwch fynd i'r coleg. Y cynharaf y gallwch gyflwyno cais wedi'i gwblhau yw'r mis Medi cyn i chi ddechrau eich cwrs (oni bai eich bod yn gwneud cais am ohirio'ch lle tan y flwyddyn ganlynol).
Os nad ydych wedi cwblhau’ch arholiadau erbyn hyn, bydd eich cais yn cael ei seilio ar y graddau y mae’ch athrawon neu’ch darlithwyr yn rhagweld y byddwch yn eu hennill.
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau
I gael y cyfle gorau o fynd ar y cwrs o’ch dewis, fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno’ch cais erbyn 15 Ionawr. Ond mewn rhai achosion gall y dyddiad cau fod yn gynt neu’n hwyrach na hyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd mae'r dyddiadau cau perthnasol, a dechreuwch baratoi'ch cais ddigon ymlaen llaw.
Ar ôl i chi wneud cais i UCAS, bydd eich cais yn cael ei drosglwyddo i'r sefydliadau a ddewiswyd gennych.
Bydd gan bob prifysgol neu goleg eu trefn ymgeisio'u hunain. Fe all rhai ofyn i chi ddod am gyfweliad ac mae'n bosib hefyd y gofynnir i chi sefyll prawf.
Efallai y bydd eraill yn cynnig lle i chi ar sail y wybodaeth sydd ar eich cais.
Wedi i chi gyflwyno'ch cais i UCAS, gallwch wneud cais am gymorth ariannol cyn gynted ag y bydd eich ceisiadau am gyllid myfyrwyr yn agor. Does dim angen i chi aros am gynnig.
I gael gwybod faint allech chi ei gael - a sut mae gwneud cais ar-lein - gweler adran 'Cyllid myfyrwyr'.
Os byddwch chi'n cyflwyno'ch ffurflen gais i UCAS erbyn 15 Ionawr, sef y dyddiad cau, fel arfer, byddwch yn cael cynigion gan eich prifysgolion erbyn diwedd mis Mawrth. Er hynny, gyda rhai cyrsiau poblogaidd, mae'n bosib na chlywch chi ddim tan fis Mai.
Os cewch gynnig gan sefydliad nad ydych wedi ymweld ag ef, fe allai diwrnod agored fod o fudd i chi benderfynu a ydych am astudio yno ai peidio.
Os na chewch chi gynnig
Os na chewch chi gynnig gan y prifysgolion neu'r colegau ar eich rhestr, neu os byddwch chi'n gwrthod neu'n canslo'ch dewisiadau, gallai gwasanaeth UCAS Extra roi ail gyfle i chi sicrhau lle.
Bydd y gwasanaeth Extra yn cael ei gynnig o ddiwedd Chwefror hyd ddiwedd Mehefin. I fod yn gymwys, mae’n rhaid eich bod eisoes wedi defnyddio pob un o’ch pump dewis. Bydd UCAS yn rhoi gwybod i chi os yw’r gwasanaeth Extra ar gael i chi.
Os na chewch chi gynnig drwy'r gwasanaeth Extra, fe allwch fynd drwy'r drefn Glirio, lle bydd prifysgolion a cholegau'n hysbysebu llefydd gwag hwyr ar gyrsiau.
Bydd y cynigion naill ai'n amodol (yn dibynnu ar gael graddau penodol ar eich cwrs cyfredol) neu'n ddiamod (os ydych eisoes wedi ennill y cymwysterau y mae'n rhaid eu cael).
Os nad ydych wedi sefyll eich arholiadau eto, gallwch wneud un dewis pendant ac un dewis ‘wrth gefn’.
Os cewch chi'r graddau y mae eu hangen arnoch ar gyfer cynnig amodol, bydd eich prifysgol neu'ch coleg yn cadarnhau eich lle. Bydd UCAS yn anfon llythyr cadarnhau ffurfiol atoch.
Os na chewch chi'r graddau y mae eu hangen arnoch ar gyfer cynnig amodol, mae'n bosib na fydd eich prifysgol neu'ch coleg yn gallu cadarnhau eich cynnig. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y gwnaiff eich ail ddewis eich derbyn. Os na fydd yn eich derbyn, fe gewch gyfle arall i gael lle drwy'r drefn Glirio.
Y Drefn Glirio
Bydd y drefn glirio'n dechrau ar ôl cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch (lefel A) ac Addysg Uwch yr Alban ym mis Awst a bydd yn mynd yn ei blaen tan ganol mis Medi. Dyma'r adeg pan fydd y prifysgolion a'r colegau'n hysbysebu llefydd sydd ar ôl ar gyrsiau yn y wasg genedlaethol ac ar wefan UCAS.
Bydd UCAS yn rhoi gwybod i chi a ydych chi'n gymwys ar gyfer y drefn Glirio ai peidio. Mae dros 30,000 o fyfyrwyr yn cael lle fel hyn bob blwyddyn.
Pan fydd eich lle wedi’i drefnu, gallwch ddechrau paratoi ar gyfer bywyd myfyriwr.