Gwneir y rhan fwyaf o geisiadau am leoedd amser llawn mewn prifysgol neu goleg drwy gyfrwng UCAS. Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r dyddiad cau perthnasol - rhaid ymgeisio am rai cyrsiau a cholegau'n gynt nag eraill.
Dim ond ar-lein y ceir gwneud ceisiadau i UCAS. Er mwyn cofrestru trwy ysgol, goleg neu sefydliad gyrfaoedd, bydd yn rhaid i chi gael eu 'gair hud'. Os ydych chi'n gwneud cais fel unigolyn, nid oes angen un arnoch chi. Ar ôl cofrestru, fe gewch chi enw defnyddiwr a chyfrinair.
Gallwch gofrestru yn yr haf cyn i chi wneud eich cais ar-lein. Y cynharaf y gallwch gyflwyno cais wedi'i orffen yw'r mis Medi cyn i chi ddechrau eich cwrs, oni bai eich bod yn gwneud cais am fynediad wedi'i ohirio (er enghraifft, gwneud cais yn ystod cylch 2008 ar gyfer mynediad yn 2009).
Hyd yn oed os dewiswch ohirio eich lle tan 2009, bydd angen i chi fodloni unrhyw amodau (er enghraifft, graddau cymhwyso) erbyn diwedd mis Awst 2008.
Mae saith adran i'r ffurflen gais: manylion personol; gwybodaeth ychwanegol (i ymgeiswyr o'r DU yn unig); dewisiadau; addysg; cyflogaeth; datganiad personol a geirda. Yn yr adran dewisiadau, cewch restru hyd at bump o gyrsiau.
Mae naidlenni ar y ffurflen gais sy'n rhestru prifysgolion a cholegau addysg uwch yn nhrefn yr wyddor, yn ogystal â chodau'r cyrsiau, felly'r cyfan y bydd rhaid i chi ei wneud yw clicio a dewis.
I gael manylion llawn am sut i wneud cais, gweler gwefan UCAS.
Cyrsiau celf a dylunio
Os byddwch chi'n gwneud cais am gwrs celf a dylunio, bydd y drefn ymgeisio'n wahanol ar gyfer rhai ohonynt.
Dylai eich datganiad personol egluro pam fod gennych ddiddordeb yn y cyrsiau rydych wedi gwneud cais amdanynt, a’r hyn rydych yn gobeithio ei wneud ar ôl i chi orffen astudio.
Yn yr adran swyddi, gallwch restru eich swyddi rhan-amser neu swyddi haf.
Wedi i chi lenwi pob adran o'ch ffurflen gais, cliciwch ar 'Anfon at ganolwr' er mwyn i'r sawl sy'n rhoi geirda i chi edrych i weld bod eich manylion yn gywir ac ychwanegu eu datganiad nhw. Os nad ydych chi yn yr ysgol neu’r coleg a'ch bod yn gwneud cais annibynnol, pastiwch ddatganiad eich canolwr ar y ffurflen gais ar-lein.
Mae'n costio £15 i wneud cais drwy UCAS neu £5 os mai dim ond am un cwrs y byddwch chi'n gwneud cais. Os byddwch chi'n gwneud eich cais drwy'r ysgol neu’r coleg, bydd eich athro/athrawes neu ddarlithydd yn dweud wrthych a oes angen i chi dalu ar-lein gyda cherdyn credyd, neu ddod â siec gyda chi. Os ydych chi'n gwneud cais ar-lein fel unigolyn, cewch dalu gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd.
Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau, bydd angen i chi anfon eich cais at UCAS erbyn 15 Ionawr er mwyn cael eich ystyried ‘ar amser’. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi wneud cais erbyn 15 Hydref os ydych yn astudio meddygaeth, deintyddiaeth, meddygaeth filfeddygol, gwyddoniaeth filfeddygol, neu os ydych yn gwneud cais i Rydychen neu Gaergrawnt.
Y dyddiad cau ar gyfer rhai cyrsiau celf a dylunio yw 24 Mawrth.
Pa gwrs bynnag y byddwch chi'n gwneud cais amdano, mae UCAS yn cynghori myfyrwyr i ymgeisio mewn da bryd cyn y dyddiad cau.
Unwaith y bydd UCAS wedi prosesu eich cais, byddwch yn cael Rhif eich Cais. Gallwch ddefnyddio hwn, ynghyd â’ch enw defnyddiwr a chyfrinair, i olrhain hynt eich cais. Cewch hefyd lythyr croeso yn y post.
Wedi i chi gyflwyno'ch cais i UCAS, gallwch wneud cais am help ariannol cyn gynted ag y bydd ceisiadau am gyllid myfyrwyr yn agor. Does dim rhaid i chi aros am gynnig.
Gweler ’Cyllid myfyrwyr’ i gael rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol, a’r ‘Canllaw ar dderbyniadau i addysg uwch drwy UCAS’ i gael manylion am yr hyn sy’n digwydd unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais.