Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Clirio: llefydd munud olaf mewn prifysgol neu goleg

Os na chewch chi'r graddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich dewisiadau cadarn neu wrth gefn, bydd gennych gyfle arall i sicrhau lle mewn sefydliadau gyda llefydd gwag munud olaf yn ystod y broses 'Clirio'.

Canlyniadau eich arholiadau

Bydd y drefn glirio'n mynd rhagddi o ddiwrnod cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch (lefel A) tan ganol mis Medi

Bydd UCAS yn rhoi canlyniadau arholiadau i brifysgolion a cholegau, er mwyn iddyn nhw weld a ydych chi wedi ennill y graddau angenrheidiol.

Os mai dim ond o fymryn bach rydych chi wedi methu cael y graddau angenrheidiol, mae'n bosib y bydd y brifysgol neu'r coleg sy'n ddewis cyntaf i chi'n dal i fod yn barod i gadarnhau eich lle.

Mae'n bosib y gwelwch chi fod eich dewis cyntaf wedi'ch gwrthod ond eich bod wedi cael eich derbyn gan eich dewis wrth gefn. Os nad ydych chi'n awyddus i dderbyn eich dewis wrth gefn, fe allech chi ystyried tynnu'ch cais yn ôl a gwneud cais eto'r flwyddyn wedyn.

Trafodwch eich dewisiadau gyda'r bobl sy'n eich 'nabod chi orau - eich teulu, eich ffrindiau a'ch athrawon neu ddarlithwyr.

Sut mae Clirio'n gweithio

Os bydd eich dewis cyntaf a'ch dewis wrth gefn yn eich gwrthod, gallwch ddefnyddio 'Clirio' i ddod o hyd i le arall.

Os ydych chi'n gymwys, fe welwch eich Rhif Clirio ar eich sgrin Olrhain, ac anfonir Pasport Clirio atoch yn y post. Os nad ydych chi wedi cyflwyno cais UCAS eto, bydd rhaid i chi wneud hynny cyn y cewch ddefnyddio Clirio.

Chwilio am gwrs prifysgol drwy’r drefn Glirio

O'r diwrnod pan gyhoeddir canlyniadau arholiadau safon Uwch ym mis Awst, bydd llefydd gwag ar gyrsiau'n cael eu hysbysebu ar wefan UCAS ac yn y wasg genedlaethol.

Ar ôl edrych ar lefydd gwag, dylech siarad â staff derbyniadau unrhyw brifysgol neu goleg â llefydd ar gael ar gyrsiau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Bydd y staff yn gallu dweud wrthych a ydynt yn fodlon cynnig lle i chi. Os ydynt, ac os dewiswch dderbyn y cynnig, rhowch eich Rhif Clirio iddynt fel eu bod yn gwybod nad oes gennych le eisoes. Yna, gwnewch nodyn o enw'r brifysgol neu'r coleg ac enw'r cwrs yr ydych yn ymgeisio ar ei gyfer, ynghyd â'i god cwrs UCAS, a llofnodwch a dyddiwch y Pasport.

Nesaf, anfonwch eich Pasport Clirio i'r coleg neu'r brifysgol. Ar ôl iddynt ei dderbyn, byddant yn penderfynu'n ffurfiol a ydynt am gynnig lle i chi ai peidio. Os cewch gynnig, dylech gysylltu â'r brifysgol neu'r (nid UCAS), gan nodi a ydych am dderbyn neu wrthod y lle.

Os byddwch yn derbyn y cynnig, bydd y brifysgol neu'r coleg yn rhoi gwybod i UCAS, a bydd UCAS yn ysgrifennu atoch i gadarnhau eich lle. Yna, byddwch wedi ymrwymo i gymryd y lle hwnnw ac ni allwch geisio lle yn rhywle arall.

Diwrnodau agored

Mae'n bosib y bydd gan brifysgolion a cholegau ddiwrnodau agored neu gyfleoedd eraill i chi ymweld, gweld y cyfleusterau a chyfarfod â'r staff.

Mae'n werth cymryd y cyfleoedd hyn; mae angen i chi sicrhau y byddwch chi'n hapus i dreulio'r ychydig flynyddoedd nesaf o'ch bywyd yn astudio yno.

Cymorth ariannol

Os derbyniwch le drwy'r broses Clirio, dylech ddweud wrth y bobl sy'n delio gyda'ch cais am gyllid myfyrwyr.

Eich awdurdod lleol fydd y rhain gan amlaf. Yna, gallant wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer unrhyw gymorth ariannol y mae gennych hawl ei gael.

Rhagor o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU