Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth yw addysg i ôl-raddedigion?

Gall cymhwyster ôl-radd eich rhoi ar ben y ffordd ar gyfer gyrfa newydd neu wella'ch cyfle o gael swydd mewn maes cystadleuol. Os ydych chi am fwrw ymlaen â phwnc eich gradd, neu ddilyn llwybr gwahanol, bydd rhaid i chi ystyried pa gymhwyster sydd ei angen arnoch ac i ble y bydd y cymhwyster hwnnw'n eich arwain.

A yw astudio ôl-radd yn addas i chi?

Mae addysg i ôl-raddedigion ar agor i unrhyw un sydd â gradd gyntaf dda. Mae amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael o gwmpas y wlad, a'r rheiny'n amrywio o weinyddu busnes i astudiaethau chwaraeon.

Dyma rai o'r rhesymau pam y gallech fod yn dymuno dilyn astudiaeth bellach:

  • astudio pwnc eich gradd mewn mwy o ddyfnder, er mwynhad personol
  • gwella'ch rhagolygon ar gyfer swydd yn eich dewis yrfa
  • ailhyfforddi mewn maes gwahanol
  • dilyn cymhwyster ôl-radd fel cam nesaf eich gyrfa, er enghraifft yn y gyfraith, i fod yn athro/athrawes neu ym maes llyfrgellyddiaeth

Ceir dau brif fath o gwrs ôl-radd: cyrsiau a ddysgir a gwaith ymchwil

Cyrsiau a ddysgir

Cyrsiau yw'r rhain lle byddwch chi'n gweithio drwy fodiwlau ac unedau, gan ddysgu mewn ffordd ddigon tebyg i'ch gradd gyntaf. Mae'n bosib y bydd trefn asesu barhaus ac arholiadau, ac efallai y bydd rhaid i chi wneud traethawd hir ar ddiwedd y cwrs.

Bydd cyrsiau a ddysgir fel arfer yn gyrsiau blwyddyn amser llawn, er bod rhai sefydliadau'n cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio'n rhan-amser, gan daenu'r modiwlau dros ddwy neu dair blynedd.

Mae rhai cyrsiau'n berthnasol i fath arbennig o waith, i fyfyrwyr sydd wedi astudio pynciau eraill yn y coleg ac sy'n awyddus i ailhyfforddi mewn TG, er enghraifft.

Gall cyrsiau a ddysgir arwain at amrywiaeth o gymwysterau, gan gynnwys Meistr yn y Celfyddydau (MA), Meistr yn y Gwyddorau (MSc), Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes (MBA), Diploma ôl-radd (PGDip) neu Dystysgrif ôl-radd (PGCert). Gall y rhain hefyd fod yn gam cyntaf tuag at Ddoethuriaeth (PhD).

Cyfleoedd ymchwil

Os ydych chi'n awyddus i astudio'ch pwnc gradd mewn mwy o ddyfnder, dylech chwilio am brifysgol neu goleg sy'n cynnig rhaglen ymchwil. Bydd disgwyl i chi fod ag o leiaf gradd 2 (ii), ac weithiau 2 (i).

Cewch gyfle i wneud darn o waith ymchwil gwreiddiol, dan gyfarwyddyd goruchwylydd. Bydd eich goruchwylydd yn sicrhau bod eich gwaith ymchwil ar y trywydd iawn a'ch bod yn cwblhau'r gwaith mewn pryd.

Gweler ‘Cymwysterau ôl-radd’ i gael gwybod mwy.

Dysgu a'r gyfraith

Un o'r llwybrau y gellir ei dilyn i fynd yn athro/athrawes yw'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), sy'n para blwyddyn amser llawn, ac sy'n gwrs y gallwch gael cymorth ariannol gan y llywodraeth i'w ddilyn. Gallwch hefyd astudio cwrs rhan-amser ar gyfer TAR mewn rhai prifysgolion.

Gall myfyrwyr sydd heb astudio'r gyfraith ac sy'n dymuno ailhyfforddi yn y maes hwnnw, ddilyn Diploma blwyddyn mewn Astudiaethau Cyfreithiol i Raddedigion a elwir hefyd yn Arholiad Proffesiynol Cyffredin. Dyma'r cam cyntaf tuag at yrfa yn y gyfraith.

Os ydych wedi dilyn cwrs gradd tair blynedd yn y Gyfraith, y cam nesaf yw'r cymhwyster galwedigaethol a elwir yn Ymarfer Cyfreithiol, ac mae hwnnw'n para blwyddyn amser llawn.

Gyrfaoedd i lyfrgellwyr, gweithwyr cymdeithasol a phobl broffesiynol ym maes iechyd

Cynigir diploma blwyddyn i raddedigion a graddau Meistr mewn pynciau megis Rheoli Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth i fyfyrwyr sy'n dymuno gweithio fel llyfrgellwyr.

Os hoffech ailhyfforddi fel gweithiwr cymdeithasol, gallwch ddilyn diploma dwy flynedd i raddedigion, neu MSc tair blynedd mewn gwaith cymdeithasol.

I ailhyfforddi fel gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd, mae'n bosib cyflymu'r broses ddysgu. Cysylltwch â Gyrfaoedd y GIG, y Gwasanaeth Derbyn ar gyfer Nyrsio a Bydwreigiaeth neu UCAS am fwy o wybodaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU