Os mai cwrs i ôl-raddedigion a ddysgir ynteu gyfle i wneud ymchwil yw eich dewis, bydd rhaid i chi feddwl am sut i dalu am eich astudiaethau. Mae ambell grant ar gael ond mae'n bosib y gwelwch chi y bydd rhaid i chi dalu am eich astudiaethau eich hun.
Mae'r ffioedd hyfforddi ar gyfer astudiaethau ôl-radd yn amrywio o'r naill sefydliad i'r llall ac o gwrs i gwrs, ond fel arfer, byddan nhw'n filoedd o bunnoedd.
Gwelir y ffioedd diweddaraf yn y prosbectysau i raddedigion. Bydd angen i chi ystyried costau llety a chostau byw hefyd.
Bydd rhai myfyrwyr yn gweithio am flwyddyn rhwng gwneud eu gradd gyntaf a chwrs ôl-radd i gael arian tuag at eu hastudiaethau. Dewis arall yw astudio'n rhan-amser tra'n gwneud swydd llawn amser, er bydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn gallu trefnu'ch amser yn dda rhwng eich wythnos waith a'ch gwaith cwrs.
Os yw'r cwrs y bwriadwch ei ddilyn yn gysylltiedig â'ch swydd, fe allech ofyn i'ch cyflogwr eich noddi. Os na allan nhw'ch helpu gyda ffioedd eich cwrs, holwch am amser o'r gwaith i astudio ar gyfer eich arholiadau neu i baratoi traethodau.
Bydd rhai cyflogwyr yn cynnig cynlluniau dysgu yn y gwaith fel dewis hyblyg er mwyn eich helpu i ddringo yn eich gyrfa.
Bydd llawer o raddedigion yn gwneud cais am arian tuag at eu cwrs. Bydd rhai cyrsiau'n cael eu hysbysebu yn y wasg genedlaethol gan ddweud bod arian ar gael ar ei gyfer.
Weithiau, fe gewch gymorth ariannol gan y brifysgol sy'n cynnal y cwrs ôl-radd; weithiau bydd angen i chi wneud cais i gorff allanol. Mae grantiau ar gael ar gyfer amrywiaeth o bynciau, ar gyfer cyrsiau a ddysgir ac ar gyfer rhaglenni ymchwil.
Mae'r grantiau hynny'n amrywio'n fawr. Bydd gofyn i chi holi ynghylch y canlynol:
Mae rheolau caeth iawn ynghylch pwy sy'n gymwys, y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ac mae'r gystadleuaeth am arian yn llym.
Mae nifer o gyrff yn gynnig arian ar gyfer astudiaethau ôl-radd.
Ar wahân i edrych ar wefannau cyrff dyfarnu unigol, fe allwch chwilio am ysgoloriaethau ôl-radd ym mhob cwr o'r DU ar wefan Hot Courses. Mae'n bosib bod cyfeiriaduron yn rhestru ffynonellau grantiau i ôl-raddedigion yn eich llyfrgell gyfeirio leol.
Os ydych chi'n dal i fod yn y coleg, bydd eich gwasanaeth gyrfaoedd yn gallu cynnig cyngor i chi am ffynonellau nawdd. Dewis arall yw tanysgrifio i gronfa ddata ffynonellau nawdd Atodiad Addysg Uwch y Times.
Gallech ystyried Benthyciad Datblygu Gyrfa, sef benthyciad banc gohiriedig. Mae hwn yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer addysg neu hyfforddiant galwedigaethol. Gallwch fenthyg hyd at 80% o ffioedd y cwrs yn ogystal â chostau cysylltiedig eraill. Fel arall, gallwch wneud cais am fenthyciad astudio yn eich banc lleol ar y stryd fawr.
Os ydych chi'n gwneud MBA, gall y Gymdeithas Meistri Gweinyddiaeth Fusnes drefnu benthyciadau.
Yn gyffredinol, dim ond israddedigion gaiff wneud cais i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ond cewch wneud cais os ydych yn cynllunio ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) neu Ddiploma Addysg Uwch (DipHE).