Drwy gofrestru ar gyfer cwrs i raddedigion, fe allwch ailhyfforddi fel athro/athrawes, gweithiwr/wraig cymdeithasol, neu ddilyn gyrfa ym maes gofal iechyd.
I fod yn athro/athrawes cwbl gymwysedig yn ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru a Lloegr, rhaid i chi feddu ar Statws Athro/awes Cymwysedig (SAC) yn gyntaf.
I raddedigion, mae dwy brif ffordd o gael SAC:
Mae cyrsiau i raddedigion fel arfer yn gyrsiau blwyddyn amser llawn neu'n gyrsiau dwy flynedd rhan-amser. Mae'r hyfforddiant llwybr drwy waith yn cymryd rhwng tri mis a blwyddyn, dibynnu ar faint o brofiad blaenorol sydd gennych.
Os nad oes cysylltiad rhwng eich gradd gyntaf a gwaith cymdeithasol ac yr hoffech ailhyfforddi, cewch wneud cais am gwrs diploma dwy flynedd i raddedigion neu Meistr yn y Gwyddorau (MSc) tair blynedd mewn gwaith cymdeithasol. Mae'r ddau gymhwyster hyn yn caniatáu i chi weithio fel gweithiwr/wraig cymdeithasol. Fe allwch gael cymorth ariannol drwy bwrsari nad oes angen ei ad-dalu.
I gael gwybod mwy am ariannu, gweler ‘Myfyrwyr y GIG a Gwaith Cymdeithasol'.
Mewn ambell faes yn y byd gofal iechyd, megis therapi lleferydd, therapi celf, therapi cerdd a chwnsela, mae cyfle i chi astudio ar gyfer diploma i raddedigion os yw eich gradd gyntaf yn gysylltiedig â'r celfyddydau, yn hytrach nag yn gysylltiedig â gofal iechyd.
I hyfforddi fel meddyg, deintydd neu nyrs, os nad yw eich gradd gyntaf yn gysylltiedig â meddygaeth, bydd rhaid i chi astudio am radd gyntaf neu ddiploma arall, a bydd hynny'n cymryd rhwng tair a chwe blynedd.
Does dim cynlluniau llwybr cyflym ffurfiol ar gael i raddedigion. Fodd bynnag, mewn pynciau megis nyrsio, fe allech gael credyd am astudio ar lefel gradd, ac mae'n bosib na fydd rhaid i chi ddilyn ambell fodiwl mynediad.
I gael gwybod mwy am ariannu i ofalwyr mewn gofal iechyd, gweler 'Myfyrwyr y GIG a Gwaith Cymdeithasol'.