Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais am astudio ôl-radd

Mae gan bob sefydliad ei drefn ymgeisio'i hun felly bydd rhaid i chi roi sylw i ddyddiadau cau, gan y gall y rhain fod yn wahanol i bob cwrs. Gallwch chwilio am gwrs ôl-radd a gwneud cais ar-lein.

Dod o hyd i gwrs

Mae prosbectysau ôl-radd mewn prifysgolion a cholegau yn rhestru'r cyfleoedd i wneud ymchwil a chyrsiau a ddysgir. Os nad ydych chi'n siur pa gwrs rydych am ei wneud, neu ba goleg y dymunwch astudio ynddo, man cychwyn da yw gwefan Prospects, lle gallwch chwilio am gyrsiau drwy'r DU.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwaith ymchwil, cofrestrwch ar wefan Prospects i ofyn iddyn nhw anfon gwybodaeth am lefydd ymchwil atoch dros yr e-bost. Hefyd, edrychwch ar y wefan Cyfleoedd Addysg Uwch ac Ymchwil

Bydd rhai colegau'n cynnal diwrnod agored i raddedigion, sy'n gyfle i chi gyfarfod â'ch darpar diwtoriaid neu oruchwylwyr.

Edrychwch i weld beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs. Fel arfer bydd angen i chi fod â gradd 2(ii) o leiaf.

Sut i wneud cais am gwrs ôl-radd

Rhaid i chi wneud cais yn syth i'r brifysgol, oni bai eich bod am wneud cwrs ôl-radd mewn gwaith cymdeithasol. Os felly, byddwch chi'n gwneud cais drwy UCAS. Bydd rhai prifysgolion a cholegau'n cynnig cyfle i chi wneud cais ar-lein ar gyfer cyrsiau a ddysgir a chyfleoedd ymchwil.

Gallwch wneud hyn ar wefan y coleg neu ar wefan Prospects. Mantais defnyddio gwefan Prospects yw ei bod yn cadw eich manylion personol, felly os byddwch chi'n gwneud mwy nag un cais, bydd yn llenwi adrannau'n awtomatig drosoch chi, gan arbed amser.

Y ffurflen gais

Bydd gan bob prifysgol neu goleg ei ffurflen gais ar-lein ei hun, felly rhaid i chi lenwi ffurflen newydd ar gyfer pob cais.

Yn yr adran ar gyllid, bydd rhaid i chi ddweud sut y byddwch yn cynnal eich hun yn ariannol. Os ydych chi'n gwneud cais am ysgoloriaeth, rhaid i chi ddweud pa un, felly mae'n syniad da cadw golwg ar ffynonellau arian posib wrth i chi chwilio am gwrs.

Os byddwch chi'n gwneud cais am gyfle i wneud ymchwil, bydd rhaid i chi lunio cynnig ar gyfer eich ymchwil hefyd. Bydd un o academyddion yr adran rydych yn ymgeisio am le ynddi'n gallu dweud wrthych pa mor fanwl ddylai'r cynnig hwn fod.

Rhaid i chi lwytho ffurflen oddi ar y we i'ch canolwyr academaidd ei llenwi. Yna, byddan nhw'n postio'u datganiadau i'r brifysgol neu'r coleg.

Mae'n bosib hefyd y bydd rhaid i chi roi prawf o'ch cymwysterau. Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi ymgeisio.

Pryd mae'r cyrsiau'n dechrau?

Gall cyrsiau a ddysgir ddechrau ym mis Hydref neu ym mis Ionawr. Ym mis Hydref y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr ymchwil yn dechrau. Gallwch wneud cais am gwrs hyd at flwyddyn ymlaen llaw a, gan fod y gystadleuaeth yn ffyrnig am rai cyrsiau, gorau po gyntaf yr anfonwch chi'ch cais.

Gan fod y dyddiad cau'n amrywio ar gyfer pob cwrs, mae'n well edrych yn y prosbectws i wneud yn siur.

Os yw'n fwriad gennych wneud cais am grant, dylech sicrhau bod eich cais am gwrs yn cael ei brosesu'n gynnar fel bod gennych gynnig lle cyn i chi gyflwyno'ch cais am arian.

Cyfweliadau a chynigion

Bydd y prosbectws ôl-radd yn dweud wrthych pa bryd rydych chi'n debygol o gael ymateb. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi fynd am gyfweliad neu mae'n bosib y cynigir lle i chi ar sail eich cais ysgrifenedig.

Ceir dau fath o gynnig, diamod ac amodol. Cynnig diamod yw cynnig cadarn, tra bo cynnig amodol yn dibynnu ar ennill graddau neu gymwysterau penodol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU