Mae'n well gwneud cais am gyllid myfyrwyr cyn gynted ag y bo modd wedi i chi wneud eich cais am gwrs. Ar ben Benthyciadau Myfyrwyr a grantiau gan y llywodraeth, gallech hefyd gael bwrsari neu ysgoloriaeth gan eich man astudio.
Mae'r brif ffurflen gais am gyllid myfyrwyr yn eich galluogi i wneud cais am Fenthyciadau Myfyrwyr gan y llywodraeth - a hefyd, mewn sawl achos, am fwrsari gan eich prifysgol neu'ch coleg.
Bydd angen i chi lenwi un o nifer o wahanol ffurflenni i wneud eich prif gais am gyllid myfyrwyr. Mae pa un yn dibynnu ar:
Bydd gofyn i chi wneud cais newydd am bob blwyddyn y byddwch yn astudio.
Mae'n well gwneud cais cyn gynted ag y bo modd - ond bydd yn bosib i chi wneud cais hyd at naw mis ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd.
Gwneud cais ar-lein
Gall myfyrwyr amser llawn arbed amser drwy wneud cais ar-lein ar gyfer y flwyddyn academaidd 2008/2009.
Nid yw’n bosib rhagor i wneud cais ar-lein ar gyfer y flwyddyn academaidd 2007/2008 – ond gallwch dal wneud cais ar bapur.
Gwneud cais ar bapur
Lawrlwythwch ffurflen gais PN1 i gwblhau eich cais am gyllid myfyrwyr ar bapur. Ar gyfer rhai mathau o gymorth ychwanegol, bydd angen i chi gwblhau ffurflen ar bapur ychwanegol
Bydd rhaid ichi ddarparu rhai dogfennau i gefnogi'ch cais - prawf o bwy ydych chi, tystiolaeth o incwm eich cartref, ac yn y blaen.
Bydd y ffurflen yn rhoi'r cyfle i chi nodi os oes angen cymorth ychwanegol arnoch - er enghraifft, am eich bod yn anabl, neu am fod gennych blant neu ddibynyddion eraill.
I gael mwy o fanylion, ewch i 'Canllawiau ar gyfer llenwi’ch cais am gyllid myfyrwyr'.
Mae'n bosib y gallwch gael bwrsari neu ysgoloriaeth gan eich man astudio ar ben benthyciadau myfyrwyr a grantiau gan y llywodraeth.
Os ydych chi'n gymwys, dylech wneud cais cyn gynted ag y bydd lle wedi'i gadarnhau i chi ar eich cwrs.
Mae rhai prifysgolion a cholegau yn gweinyddu eu bwrsarïau ac ysgoloriaethau eu hunain - yn achos rhai eraill, mae Student Finance Direct yn delio â'r ceisiadau. Chwiliwch am eich prifysgol neu'ch coleg ar wefan UCAS i ganfod at bwy y dylech anfon eich cais.
Bydd y prif gais am gyllid myfyrwyr yn gofyn i chi roi eich caniatâd i Student Finance Direct rannu manylion eich cais gyda'ch prifysgol neu'ch coleg os bydd angen. Os yw'ch prifysgol neu'ch coleg yn delio â'u cynlluniau eu hunain, bydd rhoi eich caniatâd iddynt yn eu galluogi i ddefnyddio'r wybodaeth hon i asesu faint mae gennych hawl iddo.
Os nad ydych yn rhoi eich caniatâd, bydd angen i chi roi'r wybodaeth hon yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu'ch coleg.
Mae angen i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais am grant ffi a chwrs am bob blwyddyn o'r cwrs.
I wneud hyn, llenwch y ffurflen gais ar gyfer cyllid myfyrwyr rhan-amser (PTG1) a mynd â hi i'ch prifysgol neu'ch coleg pan fyddwch chi'n dechrau eich cwrs.
Ar ôl i chi fod ar eich cwrs am bythefnos, bydd swyddfa weinyddu'r coleg yn llenwi gweddill y ffurflen gan gadarnhau'r canlynol:
Ar ôl i'r ffurflen gael ei llenwi, anfonwch hi at eich awdurdod lleol.
Os ydych chi'n gwneud cais am le ar gwrs ymarfer dysgu, gwaith cymdeithasol neu ofal iechyd, neu os ydych chi'n dilyn cwrs gyda'r Brifysgol Agored, bydd y broses ymgeisio yn wahanol i'r un a ddisgrifiwyd uchod.
Gweler y dolenni isod am ragor o wybodaeth.
Os ydych chi'n fyfyriwr sydd yn parhau â'ch astudiaethau yn hytrach na myfyriwr newydd, mae'r broses ceisiadau yn wahanol. Dilynwch y ddolen isod i ganfod sut i wneud cais.