Er mwyn i chi lenwi cais am gyllid myfyrwyr yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i chi wybod ymlaen llaw pa dystiolaeth y mae'n rhaid i chi ei chyflwyno, a sut mae cyfrifo incwm eich cartref a'ch statws fel myfyriwr.
Wrth lenwi'ch cais, sicrhewch eich bod yn ymwybodol o'r canlynol:
I gael gwybod mwy a chael gwybodaeth am ymgeisio ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, ewch i 'Gwneud cais am fenthyciadau, grantiau a bwrsarïau i fyfyrwyr'.
P'un ai eich bod yn gwneud cais ar bapur neu ar-lein, bydd yn rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth benodol gyda'ch cais. Rhoddir manylion y rhain ar eich cais. Os na fyddwch chi'n darparu'r wybodaeth ofynnol, bydd oedi wrth dalu eich cymorth ariannol.
Os cawsoch eich geni yn y DU
Os cawsoch eich geni yn y DU, gofynnir i chi gyflwyno eich pasport.
Os nad oes pasport gennych gallwch anfon eich tystysgrif geni wreiddiol (neu dystysgrif mabwysiadu). Os anfonwch unrhyw un o’r dogfennau hyn, rhaid cynnwys ffurflen gyda nhw i gadarnhau pwy ydych chi.
Os cawsoch eich geni tu allan i’r DU
Os cawsoch eich geni dramor, gofynnir i chi gyflwyno naill ai:
Ar y ffurflen gais papur a'r ffurflen gais ar-lein, rhoddir manylion y dystiolaeth ategol sydd ei hangen gennych chi a'ch teulu. Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn gofyn am dystiolaeth bellach gennych chi
Pan fyddwch chi'n gwneud cais am gymorth ariannol, bydd yn rhaid i chi nodi'r canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i 'Sut mae asesu incwm yn gweithio'.
Os ydych chi'n ddibynnol ar riant, gofalwr neu bartner am gymorth ariannol, bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd gyflwyno eu manylion.
Os ydych chi wedi gwneud cais ar-lein, gallan nhw gyflwyno eu manylion ar-lein hefyd. Fel arall, gallan nhw lenwi ffurflen gais bapur.
Bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd anfon tystiolaeth benodol at eich awdurdod lleol.
Gall myfyrwyr anabl wneud cais am sawl grant a ffynhonnell ychwanegol o gymorth ariannol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i 'Lwfansau Myfyrwyr Anabl – sut i wneud cais'.
Os oes gennych chi blant neu os oes oedolion sy'n dibynnu arnoch chi, cewch wneud cais am gymorth ychwanegol gyda'ch costau ar yr un pryd ag y byddwch chi'n gwneud cais am fenthyciad i fyfyrwyr.
Nodwch ar eich cais os hoffech chi wneud cais am gymorth ychwanegol, ac fe gewch chi ffurflen i roi gwybodaeth am eich anghenion.
Efallai y gofynnir i chi anfon derbynebau am ofal plant gawsoch chi at eich awdurdod lleol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw tystiolaeth o daliadau trwy gydol y flwyddyn neu dros gyfnod y gofal plant.
Os ydych chi'n gwneud cais ar bapur, anfonwch eich ffurflen gais ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol (fel y gofynnwyd i chi ei wneud) i'ch awdurdod lleol. Mewn rhai ardaloedd, mae Student Finance Direct yn delio gyda cheisiadau ar ran awdurdodau lleol – i gael gwybod am ble i wneud cais, dilyn y ddolen ‘Cysylltu â’ch awdurdod lleol (ceisiadau am gyllid myfyrwyr)’ isod.
Os ydych chi'n gwneud cais ar-lein, anfonwch eich tystiolaeth gyda'ch 'ART ID' (cyfeirnod unigryw a grëir i chi) i'ch awdurdod lleol.
Gwnewch yn hollol siŵr eich bod wedi cynnwys yr holl dystiolaeth ofynnol - os na wnewch chi hyn, gall arwain at oedi wrth brosesu'ch cais.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid mewn unrhyw fodd a allai, yn eich barn chi, effeithio ar eich hawl i gael cymorth, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu llenwch y ffurflen 'newid yn eich amgylchiadau' a'i dychwelyd.