Mae cyfrineiriau a rhifau adnabod ar gyfer cyllid myfyrwyr yn helpu i gadw gwybodaeth yn ddiogel, p'un ai eich bod yn gwneud cais ar bapur neu ar-lein
Pan fyddwch chi'n gwneud cais am gyllid myfyrwyr, boed hynny ar-lein neu ar bapur, byddwch yn derbyn y canlynol:
Rhif yn cynnwys un ar ddeg digid yw eich ART ID sy'n unigryw i'ch cyfrif cyllid myfyrwyr personol.
Bydd ei angen arnoch bob tro y byddwch chi'n cyflwyno'ch hun i'ch cyfrif ar-lein neu wrth gysylltu â Student Finance Direct dros y ffôn.
Fe gewch chi ART ID pan fyddwch chi'n gwneud cais am fenthyciad neu grant i fyfyrwyr am y tro cyntaf.
Argreffir eich ART ID ar yr holl ohebiaeth sy'n berthnasol i'ch cais am gyllid myfyrwyr.
Os ydych chi'n gwybod eich cyfrinair a'ch ateb cyfrinachol ond nad yw eich ART ID yn eich meddiant, gallwch weld eich ART ID ar-lein drwy glicio 'Wedi anghofio eich manylion?' wrth i chi gyflwyno'ch hun i'ch cyfrif cyllid myfyrwyr.
Bydd eich cyfrinair a'ch ateb cyfrinachol yn helpu i ddatgelu pwy ydych chi pan fyddwch chi'n ceisio cael gwybodaeth am eich cyfrif cyllid myfyrwyr, naill ai ar-lein neu dros y ffôn.
Os byddwch chi'n cofrestru neu'n gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar-lein, gofynnir i chi ddewis eich cyfrinair a'ch ateb cyfrinachol eich hun.
Os byddwch chi'n gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar bapur, crëir cyfrinair ac ateb cyfrinachol yn awtomatig a'u hanfon atoch. Pan fyddwch chi'n logio i mewn i'ch cyfrif cyllid myfyrwyr ar-lein am y tro cyntaf, gofynnir i chi newid eich cyfrinair a'ch ateb cyfrinachol i rywbeth sy'n haws ei gofio.
Rhaid i'ch cyfrinair gynnwys o leiaf 8 nod a dim mwy na 16 nod, gydag un ohonynt o leiaf yn ddigid (0-9).
Gallwch chi newid eich Cyfrinair a'ch Ateb Cyfrinachol unrhyw bryd o'ch cyfrif ar-lein.
Defnyddiwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.
Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair neu eich ateb cyfrinachol, ond bod eich ART ID yn eich meddiant, gellir anfon manylion diogelwch newydd i'ch cyfeiriad e-bost drwy glicio 'Wedi anghofio eich manylion?' ar y dudalen cyflwyno'ch hun yn eich cyfrif cyllid myfyrwyr.
Os nad oes gennych chi eich ART ID neu eich manylion diogelwch yn eich meddiant, gallwch eu derbyn drwy gysylltu â Student Finance Direct.
Gofynnir i chi newid eich cyfrinair a'ch ateb cyfrinachol i rywbeth sy'n haws ei gofio y tro cyntaf i chi ddefnyddio eich cyfrif ar-lein gyda'ch manylion newydd.