Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Myfyrwyr amser llawn: sut mae asesu incwm yn gweithio

Mae gan bob myfyriwr amser llawn sy'n gymwys i gael cyllid myfyrwyr hawl i gael swm sylfaenol o gymorth ariannol. Gallwch gael benthyciad i dalu am eich ffioedd dysgu, faint bynnag yw incwm eich cartref. Fodd bynnag, bydd y cyfanswm y gallwch ei gael drwy grantiau a'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth yn seiliedig ar incwm eich cartref.

Asesiad o incwm cartrefi

Mae'r rheolau ynghylch sut caiff incwm cartref ei asesu yn gymhleth, a dim ond canllaw gyffredinol yw'r dudalen hon.

I gael gwybodaeth fanylach - neu os oes gennych gwestiynau am eich amgylchiadau personol chi - gweler yr adran isod o'r enw 'Myfyrwyr amser llawn: cael gwybod mwy am asesiad incwm.'

Asesu incwm - pam ei fod yn bwysig

Mae gan bob myfyriwr cymwys hawl i gael swm sylfaenol o gymorth ariannol. Fodd bynnag, bydd y cyfanswm sydd ar gael drwy grantiau a'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth yn seiliedig ar incwm eich cartref.

Yn gyffredinol, dim ond cymorth i dalu ffioedd dysgu y gall myfyrwyr o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd (UE) ei gael - er bod rhai eithriadau.

Os ydych chi'n byw gyda'ch rhieni, eich priod neu eich partner, efallai y gofynnir iddyn nhw gyfrannu tuag at eich cynnal chi fel myfyriwr.

Os na fyddwch chi - neu aelodau eraill o'ch cartref - yn cyflwyno gwybodaeth am incwm eich cartref, efallai na fyddwch yn derbyn yr holl gymorth y byddwch yn ei gael fel arall.

Fodd bynnag, os ydych chi'n gymwys i gael y Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Ffioedd Dysgu, byddwch yn ei gael waeth faint yw incwm eich cartref - nid yw'n seiliedig ar asesiad o gwbl.

I gael gweld os ydych chi a'ch cwrs yn gymwys i gael cymorth ariannol, gweler 'Ydych chi'n gymwys i gael cyllid myfyrwyr?'

Sut mae asesu incwm yn gweithio?

Bydd eich awdurdod lleol yn gofyn i chi gyflwyno gwybodaeth ynghylch incwm eich cartref yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

Yna, ychwanegir neu didynnir arian gan ddibynnu ar sefyllfaoedd penodol, er enghraifft, plant dibynnol. Cyfeirir at y swm sy'n weddill fel 'incwm eich cartref' neu 'incwm dros ben' ac fe'i defnyddir i benderfynu faint o gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo.

Incwm pwy fydd yn cael ei gyfrif?

Bydd awdurdodau lleol yn cyfrif eich incwm eich hun bob tro. Bydd hyn yn cynnwys incwm na chafodd ei ennill, megis llog ar gynilion, ond nid enillion achlysurol neu ran-amser yn ystod eich cwrs.

Mae'n bosibl y byddant hefyd yn cyfrif incwm eich rhieni neu'ch partner. Bydd penderfynu incwm pa berson a gaiff ei gyfrif yn dibynnu ar ba un ai myfyriwr 'dibynnol' ynteu 'annibynnol' ydych chi.

Mae'r wybodaeth isod yn dweud wrthoch chi beth sy'n cael ei gyfrif wrth gategoreiddio myfyrwyr - ond nid yw'n nodi'r holl amgylchiadau. Gweler yr adran isod o'r enw 'Myfyrwyr amser llawn: cael gwybod mwy am asesiad incwm.' i gael canllawiau manylach.

Myfyrwyr dibynnol

Yn gyffredinol, fe gewch eich galw'n fyfyriwr dibynnol os ydych chi dan 25 oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd yr ydych yn gwneud cais am gymorth ynddi, a'ch bod yn ddibynnol yn ariannol ar un o'ch rhieni neu'r ddau (hyd yn oed os nad ydych yn byw gyda nhw).

Os ydych chi'n fyfyriwr dibynnol, bydd eich awdurdod lleol yn cyfrif incwm eich rhieni neu'ch rhieni mabwysiadol ar ben eich incwm chi eich hun.

Os yw eich rhieni wedi ysgaru neu wedi gwahanu, a chithau wedi dechrau eich cwrs yn ystod neu ar ôl mis Medi 2004, bydd yr awdurdod lleol yn asesu incwm un rhiant yn unig, yn hytrach na'r ddau - pa bynnag un sy'n ymddangos yn briodol iddyn nhw dan yr amgylchiadau. Byddant yn anwybyddu incwm y rhiant arall, ond yn ystyried incwm priod neu bartner sifil y rhiant a ddewisir, neu incwm partner sy'n cyd-fyw â'r rhiant hwnnw (gall hyn gynnwys partner o'r un rhyw os dechreuoch ddilyn eich cwrs ym mis Medi 2005 neu'n hwyrach).

Myfyrwyr annibynnol

Nid yw'r rhestrau isod yn gynhwysfawr, ond maent yn rhoi canllawiau cyffredinol ar gyfer pan fyddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr annibynnol

Fel arfer cewch eich ystyried yn annibynnol os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd rydych yn gwneud cais am gymorth:

  • eich bod yn gofalu am blentyn neu berson ifanc dan 18 oed
  • eich bod yn 25 neu’n hŷn
  • nid oes yr un o'ch rhieni'n dal yn fyw

Yn gyffredinol, cewch eich ystyried yn annibynnol hefyd os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd rydych yn gwneud cais am gymorth:

  • eich bod ar hyn o bryd, neu'n arfer bod, yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • eich bod yn cynnal eich hun ers o leiaf dair blynedd

Os ydych chi’n fyfyriwr annibynnol, dim ond eich incwm chi ac incwm eich partner y bydd eich awdurdod lleol yn ei ystyried.

Gall hyn olygu eich priod, eich partner sifil neu:

  • os dechreuoch ddilyn eich cwrs yn ystod neu ar ôl mis Medi 2001, unrhyw bartner o'r rhyw arall sy'n cyd-fyw â chi
  • os dechreuoch ddilyn eich cwrs yn ystod neu ar ôl mis Medi 2005 a'ch bod yn 25 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd yr ydych chi'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer, unrhyw bartner o'r un rhyw sy'n cyd-fyw â chi

Incwm y cartref - sut mae'n effeithio ar gymorth ariannol

Bydd eich awdurdod lleol yn defnyddio eich 'incwm dros ben' i gyfrifo faint y bydd disgwyl i'ch cartref gyfrannu at eich cynnal tra byddwch yn astudio, a faint o gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo.

Mae faint o gymorth ariannol allwch chi ei gael yn dibynnu ar y canlynol:

  • a ydych chi'n astudio yn Llundain ynteu yn rhywle arall
  • a ydych chi'n byw gartref
  • a ydych chi ar eich blwyddyn olaf yn astudio

Os yw incwm eich cartref o dan lefel benodol, fe gewch chi'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth yn llawn, ynghyd â grant i helpu gyda chostau byw.

Os ydych o gartref sydd ag incwm uchel, cymerir yn ganiataol y bydd eich rhieni, eich priod neu'ch partner yn gwneud cyfraniad mwy tuag at eich cynnal tra byddwch yn astudio - ond fe fyddwch yn dal i allu cael o leiaf 75 y cant o uchafswm y Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth.

Myfyrwyr amser llawn a ddechreuodd yn ystod neu ar ôl mis Medi 2006

Dilynwch y dolenni isod i gael gwell syniad o'r help sydd ar gael drwy Fenthyciadau Myfyrwyr a grantiau.

Myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr a ddechreuodd cyn mis Medi 2006

Mae'r cymorth sydd ar gael yn wahanol os ydych chi'n astudio'n rhan-amser neu'n fyfyriwr amser llawn a ddechreuodd cyn mis Medi 2006 - a cheir system asesu incwm wahanol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser.

Myfyrwyr amser llawn: cael gwybod mwy am asesiad incwm

I gael gwybod mwy am sut y mae myfyrwyr amser llawn yn cael eu hasesu ar gyfer 2007/2008, gweler 'Cyllid i Fyfyrwyr mewn Addysg Uwch: sut cewch chi eich asesu a'ch talu'.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch a gewch chi eich ystyried yn ddibynnol ynteu'n annibynnol, holwch eich awdurdod lleol. Ar gyfer rhai myfyrwyr, y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr sydd yn delio â cheisiadau. Os yw hyn yn berthnasol i chi, dylech holi'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Bydd y ddolen isod yn gadael i chi ddod o hyd i fanylion cyswllt eich awdurdod lleol - neu'n dweud wrthych os oes angen i chi gysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU