Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth fydd yn digwydd i'ch cais am gyllid myfyrwyr

I fyfyrwyr newydd, mae sawl cam i'r broses o asesu a thalu eich cymorth ariannol. Efallai y gall fod o fudd i chi ddeall pwy sy'n delio â'ch cais ym mha gam, a pha mor hir y gallwch chi ddisgwyl i'r broses gymryd.

Dilyn hynt eich cais

Ceir pum prif gam i'ch cais am gyllid myfyrwyr. Amlinellir y rhain isod.

Gallwch hefyd ddilyn hynt eich cais drwy gofrestru a logio i mewn i gyfrif cyllid myfyrwyr ar-lein.

Cam un: cyflwyno'ch cais am gyllid myfyrwyr

Fe ddylech wneud cais am gymorth ariannol cyn gynted ag y bo modd ar ôl i chi wneud cais am eich cwrs.

Unwaith i chi lenwi'ch manylion, gall eich rhiant, eich partner neu eich priod lenwi manylion eu hincwm.

Os bydd eich manylion yn newid wedyn, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol i roi gwybod iddyn nhw am hyn.

Cam dau: eich awdurdod lleol yn asesu eich cais

Bydd eich awdurdod lleol yn adolygu'r wybodaeth ar eich ffurflen gais ac yn penderfynu ar y swm o gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo.

Cam tri: cadarnhau'r cymorth a pharatoi i'w dalu

Unwaith i'ch awdurdod lleol benderfynu faint o gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo, byddan nhw'n anfon y wybodaeth hon at Student Finance Direct.

Yna bydd Student Finance Direct yn ysgrifennu atoch i gadarnhau'r symiau arian a delir i chi a phryd.

Mae'r dyddiadau a roddir yn yr ohebiaeth hon yn dibynnu arnoch chi'n cofrestru ar eich cwrs mewn pryd, a sicrhau bod gan Student Finance Direct manlyion diweddaraf eich cyfrif banc.

Os ydych chi wedi cyflwyno'r holl wybodaeth angenrheidiol gyda'ch cais, gallwch ddisgwyl clywed am eich hawl i gael cymorth rhwng chwech ac wyth wythnos ar ôl i chi ei gyflwyno.

Cam pedwar: cofrestru ar eich cwrs

Pan fyddwch chi'n cofrestru ar eich cwrs, cofiwch fynd â'r canlynol gyda chi:

  • eich Asesiad Ariannol (a anfonwyd atoch gan eich awdurdod lleol)
  • eich Llythyr yn nodi'r Amserlen Talu (a anfonwyd atoch gan Student Finance Direct)

Yna, bydd eich man astudio yn anfon neges at Student Finance Direct ar yr un diwrnod yn cadarnhau eich presenoldeb.

Yna bydd Student Finance Direct yn rhyddhau'r rhandaliad cyntaf o'ch benthyciad a/neu grant.

Cam pump: talu eich cymorth ariannol

Rhyddheir y taliad yn awtomatig pan dderbynnir y cadarnhad o'ch presenoldeb.

Fel arfer, bydd yn cael ei glirio o fewn tri i bum niwrnod gwaith.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU