Mae adran cyllid myfyrwyr Directgov yn rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn Lloegr neu yn yr UE ac sy'n astudio yn unrhyw le yn y DU. Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac yn astudio ar gwrs addysg uwch yn unrhyw le yn y DU, delir â'ch cais am gyllid myfyrwyr fel a ganlyn.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon fel arfer, a'ch bod yn astudio yn unrhyw le o fewn y DU, Student Finance NI fydd yn delio â'ch cais am gyllid myfyrwyr.
I gael gwybod mwy, ewch i wefan Student Finance NI.
Os ydych yn byw yn yr Alban fel arfer, a'ch bod yn astudio yn unrhyw le o fewn y DU, Asiantaeth Grantiau Myfyrwyr yr Alban (SAAS) fydd yn delio â'ch cais am gyllid myfyrwyr.
I gael gwybod mwy, ewch i wefan Asiantaeth Grantiau Myfyrwyr yr Alban.
Os ydych yn byw yng Nghymru fel arfer, a'ch bod yn astudio yn unrhyw le o fewn y DU, cewch wneud cais am gyllid drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.
I gael gwybod mwy, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.