Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mwy o gyllid i fyfyrwyr sy'n dechrau astudio o hydref 2008 ymlaen

Bydd mwy o gymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr newydd sy'n mynd i addysg uwch o fis Medi 2008 ymlaen - gan gynnwys y rheini sy'n cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Beth yw'r newidiadau?

Gallai un ym mhob tri myfyriwr amser llawn newydd fod yn gymwys ar gyfer grant llawn: sy'n werth hyd at £2,835

Bydd mwy o fyfyrwyr yn gymwys ar gyfer y Grant Cynhaliaeth

O fis Medi 2008 ymlaen, disgwylir y bydd gan oddeutu un rhan o dair o fyfyrwyr newydd hawl i gael Grant Cynhaliaeth llawn o hyd at £2,835. Disgwylir y bydd oddeutu traean arall yn gymwys i gael rhan o'r Grant Cynhaliaeth. Bydd faint gewch chi'n dibynnu ar incwm eich cartref - a'r newyddion da yw na fydd yn rhaid i chi dalu ceiniog ohono'n ôl. 

Gwyliau rhag ad-dalu Benthyciad Myfyrwyr

Os ydych chi i fod i ddechrau ad-dalu'ch Benthyciad Myfyrwyr ar ôl 1 Ebrill 2012, rhoddir cynnig i chi ohirio eich ad-daliadau am hyd at gyfanswm o bum mlynedd. Gallai hyn eich helpu i gadw'ch arian ar gyfer y pethau angenrheidiol yn eich bywyd ar y pryd - i brynu tŷ er enghraifft, neu i ddechrau teulu.

Ydych chi'n cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg? Cymorth ariannol os ydych yn mynd i'r brifysgol

Os ydych chi'n cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar hyn o bryd, rydych chi hefyd yn debygol o fod yn gymwys i gael grant lefelau uwch i'ch helpu i dalu am eich costau byw os byddwch yn mynd yn eich blaen i addysg uwch. Nid oes yn rhaid ad-dalu'r grantiau hyn.

Gall myfyrwyr sy'n dechrau cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg o fis Medi 2008 ymlaen gael cynnig pendant o'r grant uchaf posibl os byddant yn mynd ymlaen i addysg uwch.

I bwy y bydd y trefniadau hyn yn berthnasol?

Does dim angen i chi ad-dalu grantiau a bwrsarïau myfyrwyr!

Bydd y gwelliannau hyn yn berthnasol i chi os ydych yn fyfyriwr yn byw yn Lloegr (neu'n fyfyriwr yr UE cymwys) ac yn dechrau cwrs addysg uwch amser llawn unrhyw le yn y DU o fis Medi 2008. Os ydych eisoes mewn addysg uwch, byddwch yn parhau i gael budd o'r pecyn presennol o gymorth ariannol.

Beth yw'r pecyn cyllid myfyrwyr presennol?

Mae'r pecyn cyllid myfyrwyr yn cynnwys Benthyciadau Myfyrwyr ar gyfer Ffioedd Dysgu a Benthyciadau Myfyrwyr ar gyfer costau byw, cymorth nad oes angen ei ad-dalu ar ffurf Grant Cynhaliaeth, a bwrsarïau gan brifysgolion a cholegau.

Os ydych chi'n anabl, os oes gennych gyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, neu os ydych chi'n fyfyriwr gyda phlant neu oedolion sy'n ddibynnol arnoch, gallech hefyd fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol nad oes angen ei ad-dalu.

Cliciwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU