Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ffurflenni a chanllawiau am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2008/2009

Yn ogystal â gwneud cais ar-lein, gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2008/2009 drwy lenwi ffurflen ar bapur. Isod, gallwch lwytho'r ffurflen a'r nodiadau cyfarwyddo perthnasol.

Myfyrwyr amser llawn

Cadarnhau pwy ydych chi

Rydym ni'n argymell fod myfyrwyr newydd sy'n gwneud cais am gymorth yn 2008/2009 yn cyflwyno'r pasport fel prawf o bwy ydynt. Os nad oes gennych chi basport gallwch gyflwyno'ch Tystysgrif Geni neu Dystysgrif Mabwysiadu, ond bydd raid i chi hefyd lenwi'r 'ffurflen datganiad tystysgrif geni/mabwysiadu' a'i dychwelyd.

Mae'r ffurflen hon yn cynnwys dau ddatganiad gwahanol. Rhaid i chi (y myfyriwr) arwyddo 'Datganiad Hunaniaeth yr Ymgeisydd'. Defnyddir y 'Ffurflen Cadarnhau Hunaniaeth' i gadarnhau pwy ydych chi, a rhaid iddi gael ei llenwi gan berson a chanddynt enw da yn y gymuned sy'n eich adnabod ers dwy flynedd, o leiaf.

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU