Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cwestiynau poblogaidd - cyllid myfyrwyr

Pan fydd ymgynghorwyr cwsmeriaid Student Finance Direct yn ateb galwadau ffôn am geisiadau cyllid myfyrwyr, bydd rhai cwestiynau'n cael eu gofyn yn amlach nag eraill.

Mae'r dudalen hon yn rhestru'r cwestiynau a ofynnir amlaf, ac yn rhoi cyfarwyddyd i chi ynghylch lle mae dod o hyd i'r atebion.

Sut mae ceisiadau am gyllid myfyrwyr yn cael eu hasesu

1. Beth mae 'ar sail asesiad incwm' a 'heb asesiad incwm' yn ei olygu?

Mae rhai mathau o gyllid myfyrwyr yn dibynnu ar eich incwm chi neu ar incwm eich cartref. Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am y ffynonellau incwm hyn pan fyddwch yn gwneud cais am gymorth sy'n cael ei asesu ar sail incwm.

2. Beth a olygir wrth fyfyrwyr 'dibynnol' a myfyrwyr 'annibynnol'?

Pan wneir cais am gyllid myfyrwyr sy'n cael ei asesu ar sail incwm, cymerir incwm rhieni myfyrwyr 'dibynnol' i ystyriaeth, ond ni wneir hyn gyda myfyrwyr 'annibynnol'.

3. Beth a olygir wrth fyfyrwyr yr 'hen system' a myfyrwyr y 'system newydd'?

O fis Medi 2006 ymlaen bydd y system cyllido myfyrwyr yn newid.

  • bydd y mwyafrif o fyfyrwyr a fydd yn cychwyn o fis Medi 2006 ymlaen yn fyfyrwyr y 'system newydd' - fodd bynnag, bydd rhai eithriadau, er enghraifft os ydych wedi cymryd blwyddyn fwlch
  • os cychwynnoch eich cwrs cyn Medi 2006, byddwch yn fyfyriwr yr 'hen system'

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pha fathau o gymorth rydych chi'n gymwys i'w derbyn, gweler yr erthyglau canlynol.

Sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr

1. Gewch chi wneud cais am fenthyciad myfyrwyr os ydych wedi astudio mewn addysg uwch yn y gorffennol?

Os ydych eisoes wedi astudio mewn addysg uwch, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am fenthyciad ar gyfer cynhaliaeth gyffredinol ond nid i dalu am y ffioedd dysgu ar gyfer eich cwrs. Bydd eich awdurdod lleol yn dweud wrthych a ydych yn gymwys i wneud cais am fenthyciad unwaith eto.

2. Pwy sy'n asesu ceisiadau am gyllid myfyrwyr?

Yn y rhan fwyaf o achosion, awdurdod lleol yr ardal rydych yn byw ynddi fydd yn ystyried eich cais, hyd yn oed os byddwch yn astudio y tu allan i'r ardal honno.

3. Sut all dinasyddion o'r Undeb Ewropeaidd gael gwybod am y cymorth ariannol sydd ar gael i astudio yn Lloegr?

Edrychwch ar adran 'Myfyrwyr o wledydd eraill yr UE' er mwyn cael manylion llawn am y gefnogaeth sydd ar gael.

4. Beth yw ART IDs, cyfrineiriau ac atebion cyfrinachol?

Bydd eich ART ID unigryw yn mynd â chi at eich cyfrif cyllid myfyrwyr personol. Bydd ei angen arnoch bob tro y byddwch yn logio i mewn i'ch cyfrif ar-lein neu'n cysylltu â Student Finance Direct dros y ffôn.

Bydd eich cyfrinair a'ch ateb cyfrinachol yn helpu i brofi pwy ydych chi pan fyddwch yn ceisio cael mynediad at wybodaeth am eich cyfrif.
Gweler 'Gwneud cais am gyllid myfyrwyr - Cyfrineiriau a rhifau adnabod' er mwyn cael mwy o wybodaeth am gael, newid, defnyddio ac adfer eich ART ID, eich cyfrinair a'ch ateb cyfrinachol.

5. Rwyf eisiau astudio'n rhan-amser, pa gefnogaeth alla i ei chael?

Os ydych chi'n astudio'n rhan-amser efallai y gallwch dderbyn grant ffioedd a help gyda chostau'r cwrs, yn dibynnu ar incwm eich cartref a'r cwrs yr ydych yn ei wneud.

Efallai y gallwch hefyd dderbyn cymorth drwy'r coleg gyda'r Gronfa Mynediad at Addysg a'r Cynllun Cymorth Ychwanegol ar gyfer Ffioedd.

Mae'n bosib y bydd cefnogaeth ychwanegol ar gael i chi os ydych ar incwm isel, neu'n fyfyriwr sydd ag anabledd neu anhawster dysgu penodol.

6. Byddaf yn cychwyn ar gwrs ôl-radd, oes gen i hawl i dderbyn cymorth?

Yn gyffredinol, nid oes cefnogaeth orfodol ar gyfer cyrsiau ôl-radd a ariennir yn ganolog gan y DfES i fyfyrwyr yn Lloegr. Mae astudiaethau TAR ar gyfer y sawl sy'n dymuno bod yn athrawon yn eithriad i hyn.

Sut i ddiweddaru'ch manylion

1. Sut ydych chi'n diweddaru'ch manylion cyswllt neu'ch manylion banc?

Gallwch ddiweddaru'ch manylion personol a'ch manylion banc (gan gynnwys y dull gorau o gysylltu â chi, cyfeiriad eich cartref, eich cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn) ar-lein, drwy gysylltu â Student Finance Direct, neu drwy lenwi ffurflen Newid mewn Amgylchiadau.

2. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'cyfeiriad cyswllt dewisol' a 'chyfeiriad cartref parhaol'?

Eich cyfeiriad cyswllt dewisol (neu gyfeiriad gohebu) yw lle byddwch fel arfer yn byw pan fyddwch yn astudio yn y coleg, megis neuadd breswyl. I'r cyfeiriad hwn y bydd Student Finance Direct yn anfon y rhan fwyaf o'ch llythyrau.

Lle byddwch yn byw pan na fyddwch yn astudio yn y coleg, megis cartref eich rhieni, yw'ch cyfeiriad cartref parhaol. Y cyfeiriad hwn a ddefnyddir i gyfeirio'ch achos at eich awdurdod lleol priodol.

Derbyn taliadau cyllid myfyrwyr

1. Beth ydy Llythyr Amserlen Talu a pham fod ei angen arnoch?

Bydd y llythyr hwn yn amlinellu faint o gymorth ariannol fydd yn cael ei dalu ac ar ba ddyddiadau.

2. Os byddwch yn newid eich manylion banc, fyddwch chi'n derbyn Llythyr Amserlen Talu newydd?

Chewch chi ddim Llythyr yn nodi Amserlen Talu newydd os ydych wedi newid eich manylion banc.

3. Fedrwch chi newid dyddiadau talu rhandaliadau'ch benthyciad?

Na, fedrwch chi ddim newid dyddiadau talu rhandaliadau'ch benthyciad. Cyn belled â'ch bod wedi rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i Student Finance Direct a'ch bod yn cofrestru i fynd ar eich cwrs, gwneir y taliadau bob amser ar ddechrau bob tymor. Eich prifysgol neu'ch coleg fydd yn nodi'r dyddiadau hyn.

4. Beth mae'r neges 'Disgwyl Cadarnhad' yn ei olygu ar gyfrif cyllid myfyrwyr ar-lein?

Mae'n golygu bod Student Finance Direct yn dal i aros i'ch prifysgol neu goleg gadarnhau eich bod am fynychu cyrsiau yno. I gael hwn, ewch â'ch Llythyr yn nodi'r Amserlen Talu i'ch prifysgol neu'ch coleg. Unwaith y cadarnheir eich bod yn mynychu'r brifysgol neu'r coleg byddwch yn derbyn taliad cyntaf eich benthyciad.

5. Fyddwch chi'n derbyn cyfriflen yn dangos balans eich benthyciad myfyrwyr?

Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn anfon cyfriflen flynyddol yn dangos balans eich benthyciad myfyrwyr i chi bob mis Medi nes eich bod yn dechrau ad-dalu'ch benthyciad.

6. Os penderfynwch beidio â pharhau â'ch cwrs, fyddwch chi'n gymwys i gael cymorth ariannol yn y dyfodol?

Gallai gadael eich cwrs yn fuan effeithio ar eich hawl i gael cyllid myfyrwyr os penderfynwch ddilyn cwrs arall yn y dyfodol.

Cwestiynau gan rieni, partneriaid, gwŷr a gwragedd

1. Pryd ydw i'n darparu manylion ariannol i gefnogi cais myfyriwr ar-lein?

Rhaid bod y myfyriwr wedi llenwi eu rhan nhw o'r cais ar-lein cyn y gallwch chi roi'r manylion ariannol y gofynnir amdanynt.

2. Beth yw Alias ID?

Rhif adnabod unigryw yw'r Alias ID a defnyddir ef i gysylltu cais ar-lein y myfyriwr gyda'r wybodaeth a ddarparwyd gan eu noddwyr. Allwch chi ddim rhoi eu gwybodaeth ar-lein heb yr Alias ID hwn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU