Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyllid myfyrwyr: byw y tu allan i Loegr

Mae'r adran cyllid myfyrwyr yn darparu gwybodaeth i fyfyrwyr o Loegr lle bynnag maent yn astudio o fewn y DU. Os ydych fel arfer yn byw mewn rhan arall o'r DU, neu'r tu allan i'r DU, bydd rheolau gwahanol yn berthnasol ichi.

Cyllid myfyrwyr - ble i gael gwybodaeth

Mae'r adran cyllid myfyrwyr yn darparu gwybodaeth ar gyfer y canlynol:

  • myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn Lloegr ond sy'n astudio yn unrhyw le o fewn y DU
  • rhieni, gŵr, gwraig neu bartner myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn Lloegr
  • cyn-fyfyrwyr sydd erbyn hyn yn ad-dalu benthyciadau myfyrwyr ac sy'n byw yn unrhyw le o fewn y DU

Os ydych fel arfer yn byw y tu allan i Loegr ac yn astudio cwrs addysg uwch yn unrhyw le o fewn y DU, cyrff gwahanol sy'n delio â cheisiadau am gyllid myfyrwyr.

Myfyrwyr o Gymru, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, ac yn astudio yn unrhyw le o fewn y DU, yr awdurdodau yn eich rhanbarth fydd yn delio â'ch cais am gyllid myfyrwyr.

Dilynwch y dolenni isod i gyrraedd y wefan briodol.

Myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd (UE)

Os ydych o wlad arall yn yr UE ac yn astudio - neu'n bwriadu astudio - o fewn y DU, ymwelwch â'r adran ar wefan Directgov sy'n sôn am gyllid i fyfyrwyr o'r UE i weld faint allwch chi ei dderbyn, a sut i wneud cais.

Mae gan yr adran hon hefyd wybodaeth ar y cymorth y mae’n bosib fydd ar gael i chi os ydych yn weithiwr mudol o un o wledydd yr UE neu'r Swistir, aelod teulu i rywun sydd yn, neu’n blentyn o weithiwr Twrcaidd yn y DU.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Os ydych fel arfer yn byw y tu allan i'r DU, yr UE neu'r AEE, fe'ch ystyrir chi'n 'fyfyriwr rhyngwladol'.

Am fwy o wybodaeth am ffioedd, fisas a chyllid, ymwelwch â gwefan Cyngor y DU dros Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU