Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais am eich Benthyciad Myfyrwyr ar-lein - ac ennill iPod!

Os ydych chi’n dechrau – neu’n mynd yn ôl i – gwrs prifysgol yr hydref hwn, gwnewch gais ar-lein am eich benthyciadau a grantiau myfyriwr erbyn 23 Medi, a bydd eich enw’n cael ei roi yn yr het yn awtomatig, gan roi cyfle i chi ennill ipod gan Student Finance Direct.

Os byddwch chi'n gwneud cais am fenthyciadau a grantiau myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2007/2008 ar-lein erbyn 23 Medi, bydd eich enw'n cael ei roi yn yr het yn awtomatig, gan roi cyfle i chi ennill iPod gan Student Finance Direct.

Cyfle i ennill iPod!

Pan yr ydych yn gwneud cais ar-lein, gall rhoi’r cyfle i chi ennill iPod newydd sbon!P'un ai'ch bod yn fyfyriwr llawn amser newydd ynteu'n fyfyriwr sy'n dychwelyd at gwrs yr ydych eisoes wedi dechrau arno, bydd eich enw'n cael ei roi yn yr het yn y gystadleuaeth ffantastig hon. Bydd y 15 enillydd cyntaf yn cael iPod Fideo 30Gb! Ond yn ogystal â hyn, bydd y 15 enw nesaf i ddod allan o'r het yn cael iPod Nano 2Gb!

Nid yw'n costio dim i gymryd rhan, ac mae'n awtomatig – yr unig beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn cael cyfle i ennill yw gwneud cais ar-lein erbyn 23 Medi 2007. I weld y telerau a'r amodau'n llawn, dilynwch y ddolen isod.

Beth allech chi ei gael, a sut i'w gael

Cyn gwneud cais am eich benthyciad a'ch grant ar-lein, sicrhewch:

  • eich bod wedi cael gwybod am y gwahanol fathau o gymorth ariannol y gallech eu cael
  • eich bod wedi edrych ar sut a phryd i wneud cais am y cymorth y mae gennych hawl iddo – yn enwedig, bwrsarïau ac ysgoloriaethau

Ar ôl eich blwyddyn gyntaf, bydd gwneud ceisiadau ar-lein hyd yn oed yn haws - bydd yr holl wybodaeth berthnasol a roddwyd gennych yn ystod y flwyddyn flaenorol yn cael ei throsglwyddo, hyd yn oed os mai ar bapur y gwnaethoch eich cais.

Gwneud cais ar-lein yn awr!

Dim ond y cwestiynau sy'n berthnasol i chi'n bersonol fydd yn cael eu gofyn wrth i chi wneud cais ar-lein.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, gallwch logio i mewn i'ch cyfrif eto er mwyn diweddaru'ch manylion, a chael gwybod pryd fyddwch chi'n cael eich arian

Rhiant, partner, gŵr neu wraig i fyfyriwr?

Os oes angen i chi gefnogi cais am gyllid myfyrwyr, gallwch wneud hyn ar-lein hefyd. Yn ogystal â bod yn gynt ac yn haws, byddwn hefyd yn rhoi eich enw mewn het er mwyn i chi gael cyfle i ennill un o bump o dalebau gwyliau gwerth £200! I gael y manylion yn llawn, lawrlwythwch y telerau a'r amodau ar gyfer y gystadleuaeth talebau gwyliau

Cefnogi cais ar-lein

Sut i gofrestru neu logio i mewn i gefnogi cais am gyllid myfyrwyr ar-lein.

Cael gwybod mwy am eich rôl

Yma, cewch wybod sut i gefnogi cais am gyllid myfyrwyr, a chanfod beth yw'ch cyfrifoldebau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU