Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyllid myfyrwyr ar ôl eich blwyddyn gyntaf (cyrsiau'n dechrau cyn Medi 2006)

Fel myfyriwr, bydd angen i chi wneud cais am gymorth ariannol ar gyfer pob blwyddyn o'ch cwrs. Mae'r math o gyllid y gallech ei gael yn dibynnu ar ba flwyddyn academaidd yr ydych yn gwneud cais amdani, a sut yr ydych yn astudio - rhan-amser ynteu amser llawn.

Cyllid ar gyfer myfyrwyr amser llawn

Mae'r dudalen hon yn berthnasol:

  • os ydych yn fyfyriwr amser llawn; ac
  • os dechreuoch ar eich cwrs cyn mis Medi 2006

Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser sy'n parhau â'ch cwrs, mae rheolau gwahanol yn berthnasol. Gweler 'Cyllid ar gyfer myfyrwyr rhan-amser' i gael gwybod mwy.

Gwneud cais bob blwyddyn o'ch cwrs

Mae gofyn i chi gyflwyno cais am gyllid myfyrwyr am bob blwyddyn y byddwch yn astudio. Os cychwynnoch eich cwrs ar ôl 1998 a'ch bod wedi gwneud cais am gyllid mewn blwyddyn academaidd flaenorol, cysylltir â chi'n awtomatig gyda manylion ynghylch sut i wneud cais. Ewch i 'Gwneud cais am gyllid myfyrwyr - ar ôl eich blwyddyn gyntaf' i gael mwy o wybodaeth.

Y cymorth ariannol sydd ar gael

Ni fydd yn rhaid i chi dalu'r ffioedd newidiol o hyd at £3,070 y flwyddyn (yn 2007/2008) sy'n berthnasol i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau o fis Medi 2006.

Gallwch wneud cais am y mathau canlynol o gymorth:

Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth

Mae'r swm y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar ble rydych yn astudio, a ydych yn eich blwyddyn olaf ac a ydych yn byw gartref. Gallwch gael 75 y cant o'r benthyciad sy'n berthnasol i chi waeth beth fo incwm eich cartref. Gall myfyrwyr o gartrefi lle mae incwm y cartref yn is wneud cais am y 25 y cant sy'n weddill.

I gael gwybod mwy, gan gynnwys faint sydd ar gael, gweler 'Taflen ffeithiau - Benthyciadau Myfyrwyr'.

Grant Addysg Uwch a grant Ffioedd dysgu

Gall myfyrwyr o deuluoedd sydd ag incwm isel a gychwynnodd yn 2004/2005 neu 2005/2006 hefyd gael Grant Addysg Uwch o hyd at £1,000 y flwyddyn i helpu gyda chostau byw. Nid oes rhaid i chi dalu'r cymorth ariannol hwn yn ôl.

Gall y grant ffioedd Dysgu dalu am rywfaint neu'r cyfan o'ch cyfraniad chi at eich ffioedd dysgu: hyd at £1,200 yn 2006/2007 a hyd at £1,225 yn 2007/2008.

Am fwy o wybodaeth gweler 'Taflen ffeithiau - Grant Addysg Uwch a grant ffioedd dysgu'.

Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Ffioedd

Gall bob myfyriwr addysg uwch amser llawn gymryd Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Ffioedd i dalu unrhyw ffioedd dysgu nad yw'r Grant ffioedd dysgu yn talu amdanynt.

Cymorth ariannol ychwanegol

Yn ogystal â'r pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol, mae cymorth ariannol ychwanegol ar gael ar gyfer grwpiau neilltuol o fyfyrwyr. Efallai eich bod eisoes wedi bod yn cael hwn, neu efallai bod eich amgylchiadau wedi newid a bod angen arian ychwanegol arnoch erbyn hyn.

Mae cymorth ar gael ar gyfer:

  • myfyrwyr sydd ag anableddau neu anawsterau dysgu penodol (megis dyslecsia)
  • myfyrwyr sydd â phlant (yn enwedig rhieni unigol)
  • myfyrwyr sydd ag oedolion yn ddibynnol arnynt
  • myfyrwyr sydd â phroblemau ariannol (mae help ar gael o'ch prifysgol neu'ch coleg)

Os ydych yn gymwys, bydd angen i chi wneud cais am y cymorth ychwanegol hwn ar gyfer pob blwyddyn o'ch cwrs.

I gael gwybod mwy, gweler y tudalennau isod.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, mae'n bwysig i chi ddweud wrth eich awdurdod lleol mor fuan â phosib. Os na wnewch chi, gallai hyn effeithio ar faint o help yr ydych yn gymwys i'w dderbyn, neu gallai arwain at oedi gyda'ch taliadau ariannol.

Tra'ch bod yn fyfyriwr, gall eich amgylchiadau newid mewn sawl ffordd. Am fwy o wybodaeth gweler 'Os bydd eich amgylchiadau'n newid tra'ch bod yn astudio'.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU