Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grant Addysg Uwch a grant ffioedd dysgu

*

Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn a ddechreuodd ar eich cwrs ym mis Medi 2004 neu ar ôl hynny, ond cyn mis Medi 2006, gallwch fod â'r hawl i dderbyn Grant Addysg Uwch o hyd at £1,000 y flwyddyn - a grant i'ch helpu â'ch ffioedd dysgu hefyd.

Ydych chi'n gymwys ar gyfer Grant Addysg Uwch a Grant Ffioedd Dysgu?

Os dechreuoch ar eich cwrs ym mis Medi 2004 neu ar ôl hynny, ond cyn mis Medi 2006, efallai y gallwch gael cymorth ariannol drwy'r Grant Addysg Uwch a'r grant ffioedd dysgu.

Mae'r grantiau hyn hefyd ar gael i rai myfyrwyr a ddechreuodd yn fwy diweddar na hyn – er enghraifft, efallai y gallwch eu cael os dechreuoch yn 2006/2007 ar ôl cymryd blwyddyn fwlch.

Does dim rhaid i chi eu talu'n ôl. Os ydych yn gymwys, byddwch yn parhau i fod yn gymwys am y math hwn o gymorth ariannol drwy gydol eich cwrs.

Ydych chi'n gymwys?

Grant Addysg Uwch

Mae'r Grant Addysg Uwch ar gael i helpu â chostau llety a chostau byw eraill. Mae ar gael i fyfyrwyr addysg uwch amser llawn o gartrefi ar incwm is.

Grant ffioedd dysgu

Arian a delir gan y llywodraeth i'ch prifysgol neu'ch coleg yw'r grant ffioedd dysgu i helpu i dalu am gostau eich ffioedd dysgu. Gallai dalu'r cyfan neu ran o gyfraniad eich ffioedd dysgu, gan ddibynnu ar eich incwm ac ar incwm eich cartref.

Grant Addysg Uwch: faint o arian y gallwch chi ei gael?

Bydd y swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref. Ar gyfer 2008/2009 a 2007/2008, £1,000 yw uchafswm y Grant Addysg Uwch.

Grant Addysg Uwch 2008/2009

Incwm eich cartref Faint o Grant Addysg Uwch gewch chi

£16,750 neu lai

Grant llawn (£1,000)

£16,751-£22,735

Grant rhannol (o leiaf £50)

Yn £22,736 neu fwy

Dim grant

Grant Addysg Uwch 2007/2008

Incwm eich cartref

Faint o Grant Addysg Uwch gewch chi

£16,340 neu lai

Grant llawn (£1,000)

£16,341-£22,325

Grant rhannol (o leiaf £50)

Yn £22,326 neu fwy

Dim grant


 

Y grant ffioedd dysgu: faint o arian y gallwch chi ei gael?

Yn dibynnu ar eich incwm, gallai'r grant ffioedd dysgu dalu am rywfaint o gyfraniad eich ffioedd dysgu neu'r cyfan ohonynt. Yr uchafsymiau yw:

  • 2008/2009: £1,255 y flwyddyn
  • 2007/2008: £1,225 y flwyddyn

Os byddwch yn cael uchafswm y grant ffioedd dysgu, ni fydd angen i chi dalu dim o'ch ffioedd dysgu. Os nad ydych yn cael uchafswm y grant, gallwch godi Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Ffioedd i dalu am y gwahaniaeth.

Bydd myfyrwyr sengl, annibynnol, yn cael y grant ffioedd dysgu llawn os yw eu hincwm yn llai na £11,020 ar gyfer 2008/2009, neu lai na £10,750 ar gyfer 2007/2008..

Mae'r uchafswm y bydd yn rhaid i chi ei gyfrannu tuag at eich ffioedd dysgu yn cynrychioli tua chwarter gwir gost cwrs addysg uwch cyffredin. Telir gweddill y gost yn awtomatig gan y llywodraeth.,


Sut mae'r help hwn yn cael ei dalu?

Telir y grant ffioedd dysgu yn syth i'ch coleg neu'ch prifysgol gan Student Finance Direct.

Telir y Grant Addysg Uwch i chi gan Student Finance Direct ar ddechrau pob tymor - fel arfer yn syth i'ch cyfrif banc.



Yr effaith ar fathau eraill o gymorth ariannol

Ni fydd unrhyw arian a gewch drwy'r Grant Addysg Uwch neu'r grant ffioedd dysgu yn cael ei ystyried yn incwm wrth gyfrifo'ch hawl i fudd-daliadau neu gredydau treth.


Mynd yn ôl i brif dudalen ‘Cyllid myfyrwyr ar ôl eich blwyddyn gyntaf: wedi dechrau cyn mis Medi 2006?’

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU