Bydd angen i chi gyflwyno cais am gyllid myfyrwyr am bob blwyddyn y byddwch yn astudio. Mae'r math o help y gallwch ei gael yn dibynnu a ydych chi'n astudio ar sail amser llawn ynteu ran-amser, a phryd ddechreuodd eich cwrs. Canllaw yw'r dudalen hon i'r hyn sydd ar gael i chi os dechreuodd eich cwrs cyn mis Medi 2006.
Mae'r dudalen hon yn amlinellu'r prif ffynonellau cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr amser llawn o Loegr sy'n gymwys amdanynt. Dyma nhw:
Bydd angen i chi wneud cais ar wahân am bob blwyddyn y byddwch yn astudio.
Ni fydd yn rhaid i chi dalu eich benthyciad myfyrwyr yn ôl nes y byddwch wedi gorffen eich cwrs ac yn ennill £15,000 neu fwy y flwyddyn. Nid oes yn rhaid talu bwrsarïau yn ôl o gwbl.
Mae'r dudalen hon yn amlinellu beth sydd ar gael os dechreuodd eich cwrs cyn mis Medi 2006, neu fel arall byddwch yn gymwys dan reolau cyllid myfyrwyr 2005/2006. Os nad ydych yn siŵr, edrychwch ar yr adran isod o'r enw 'Ydy'r wybodaeth ar y dudalen hon yn berthnasol i chi?'.
Mae'r swm y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich cartref, ble rydych yn astudio, a ydych yn byw gartref ac a ydych yn eich blwyddyn olaf.
Yr uchafswm ar gyfer 2008/09 yw £6,475. Ar gyfer 2007/2008, £6,315 fydd y ffigur. Gallwch gael 75 y cant o'r uchafswm waeth beth yw incwm eich cartref - gall myfyrwyr o gartrefi sydd ar incwm isel wneud cais am y 25 y cant sy'n weddill.
Gweler 'Benthyciadau Myfyrwyr' i gael gwybod mwy.
Gall bob myfyriwr addysg uwch amser llawn gael Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Ffioedd Dysgu i dalu unrhyw ffioedd dysgu nad yw'r Grant ffioedd dysgu yn talu amdanynt.
Mae cymorth ychwanegol ar gael i grwpiau penodol o fyfyrwyr ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol. Efallai eich bod eisoes wedi bod yn cael hwn - neu efallai fod eich amgylchiadau wedi newid a'ch bod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol erbyn hyn.
Mae cymorth ar gael ar gyfer:
Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, mae'n bwysig i chi ddweud wrth eich awdurdod lleol mor fuan â phosib. Os na wnewch chi, gallai hyn effeithio ar faint o help y mae hawl gennych i'w gael, neu gallai arwain at oedi gyda'ch taliadau.
Am fwy o wybodaeth, gweler 'Os bydd eich amgylchiadau'n newid'.
Gallwch wneud cais hyd yn oed os na wnaethoch gais am gyllid myfyrwyr yn gynharach yn ystod eich cwrs.
Os ydych eisoes wedi gwneud cais, os nad yw'ch amgylchiadau wedi newid, ni fydd rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth eto.
Canllaw yw'r dudalen hon i'r cymorth ariannol sydd ar gael os dechreuodd eich cwrs cyn mis Medi 2006, neu os ydych fel arall yn gymwys dan reolau cyllid myfyrwyr 2005/2006.
Mae'n bosib eich bod yn gymwys dan y rheolau ar gyfer 2005/2006 os yw'r canlynol yn wir:
Os nad ydych chi'n siŵr pa reolau sy'n berthnasol i chi, dilynwch y ddolen isod i gael gwybod.
Bydd y cymorth ariannol ar gael i chi yn wahanol os nad ydych chi'n dod o Loegr neu os ydych chi'n dilyn cwrs rhan-amser.