Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais am gyllid myfyrwyr - ar ôl eich blwyddyn gyntaf

Bydd angen i chi gwblhau cais newydd am gyllid myfyrwyr ar gyfer pob blwyddyn o'ch cwrs yn eich prifysgol neu'ch coleg - gellir gwneud ceisiadau ar-lein neu ar bapur.

Sut i wneud cais am gyllid ar ôl eich blwyddyn gyntaf

Rhaid i chi gyflwyno cais ar wahân am gyllid myfyrwyr am bob blwyddyn y byddwch mewn addysg uwch.

Bydd Student Finance Direct yn anfon gwybodaeth atoch am sut i wneud cais ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn awtomatig, felly sicrhewch eich bod yn diweddaru'ch manylion cyswllt.

Os na fyddwch yn cael eich gwaith papur, cysylltwch â Student Finance Direct a gofynnwch iddynt anfon ffurflen newydd atoch.

Mae’n well gwneud cais mor gynted â phosib – ond gallwch wneud cais i fyny at naw mis o ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd.

Yn wahanol i'r tro cyntaf y gwnaethoch eich cais, ni fydd rhaid i chi anfon mwy o dystiolaeth ddogfennol, oni bai bod eich amgylchiadau wedi newid - er enghraifft, bod incwm eich cartref neu'ch statws priodasol wedi newid.

Myfyrwyr amser llawn: gwneud cais am gyllid myfyrwyr

Ceisiadau ar-lein

Gall myfyrwyr amser llawn arbed amser drwy wneud cais am fenthyciad myfyrwyr ar-lein. Bydd yr holl wybodaeth berthnasol o’ch cais blaenorol ar gael ar-lein, hyd yn oed os mai ar bapur y gwnaethoch eich cais blaenorol.

Gallwch gwneud cais ar-lein am gyllid am y flwyddyn academaidd 2007/2008 yn bresennol.

Ceisiadau ar bapur

Gallwch hefyd lwytho ffurflen cais PR1 i gwblhau ar bapur. Am rai mathau o gefnogaeth ychwanegol, bydd angen i chi gwblhau ffurflen arall ar bapur.

Mae ffurflenni ar gael nawr am y blynyddoedd academaidd 2007/2008 a 2006/2007 – dilynwch y ddolen isod.

Myfyrwyr rhan amser

Os ydych chi'n astudio'n rhan amser, bydd angen i chi wneud cais am gymorth ariannol bob blwyddyn o'ch cwrs.

I wneud hyn, llenwch y ffurflen gais ar gyfer cyllid myfyrwyr rhan-amser (PTG1) a mynd â hi i'ch prifysgol neu'ch coleg pan fyddwch chi'n dechrau eich cwrs. Bydd y ffurflen gais ar gyfer cyllid myfyrwyr rhan-amser (PTG1) am y flwyddyn academaidd 2007/2008 ar gael yn Awst.

Bydd swyddfa weinyddol y coleg yn llenwi gweddill y ffurflen. Dylech wedyn ei hanfon at eich awdurdod lleol.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid tra'ch bod yn astudio

Gall newid i'ch amgylchiadau tra'ch bod yn astudio effeithio ar faint o gymorth ariannol y gallwch ei gael.

Rhaid i chi roi gwybod i'ch awdurdod lleol cyn gynted â phosib:

  • os bydd eich statws priodasol neu'ch statws ariannol yn newid
  • os byddwch yn newid eich cwrs neu'ch sefydliad
  • os byddwch yn ail-wneud neu ohirio blwyddyn o'ch cwrs
  • os byddwch yn gadael eich cwrs yn gynnar

Am fwy o wybodaeth, gweler 'Os bydd eich amgylchiadau'n newid tra'ch bod yn astudio'.

Beth fydd yn digwydd i'ch cais

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch cais, bydd yn dilyn yr un math o broses a'ch cais gwreiddiol am gymorth ariannol, er y bydd fel arfer yn symlach gan i chi fod drwy'r broses o'r blaen.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU