Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth fydd yn digwydd i'ch cais am gyllid myfyrwyr - ar ôl eich blwyddyn gyntaf o astudio

Bydd eich ceisiadau am gyllid myfyrwyr ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn dilyn yr un math o broses ag o'r blaen - bydd eich awdurdod lleol yn penderfynu faint o gymorth ariannol gewch chi, yna'n anfon y manylion ymlaen at Student Finance Direct i'w dalu.

Dilyn hynt eich cais

Mae chwe cham i'ch cais am gyllid myfyrwyr, fel a ddisgrifir isod.

Ar ôl i chi gofrestru am gyllid myfyrwyr ar-lein, gallwch fynd i mewn i'ch cyfrif unrhyw bryd a dilyn hynt eich cais ar-lein.

Cam un: cyflwyno'ch cais

Rhaid i chi gyflwyno cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer pob blwyddyn yr ydych chi mewn addysg uwch.

Dylech sicrhau eich bod yn nodi ar eich ffurflen gais ar-lein neu ar y ffurflen PR1 os yw eich amgylchiadau wedi newid - er enghraifft, newidiadau yn incwm eich aelwyd neu'n eich statws priodasol. Os yw eich amgylchiadau wedi newid, efallai y bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol i ategu hynny.

I gael gwybod sut i lenwi eich cais, gweler 'Gwneud cais am gyllid myfyrwyr - ar ôl eich blwyddyn gyntaf'.

Cam dau: mae eich rhiant, partner neu briod yn cefnogi'ch cais

Os ydych yn derbyn cymorth ariannol gan riant, priod neu bartner, rhaid iddyn nhw gadarnhau a yw eu hincwm neu eu hamgylchiadau wedi newid ers i chi gyflwyno'ch cais diwethaf - os ydynt, efallai y bydd angen iddyn nhw gyflwyno tystiolaeth i'ch awdurdod lleol.

Caiff hyn ei egluro pan fyddan nhw'n llenwi eu rhan hwy o'r cais ar-lein neu ar gopi caled.

Cam tri: mae eich awdurdod lleol yn asesu'ch cais

Bydd eich awdurdod lleol yn adolygu'r wybodaeth a roesoch chi ac eraill, ac yn penderfynu ar y swm o fenthyciadau myfyrwyr a chymorth ariannol arall y mae gennych hawl iddynt.

Pan fydd eich awdurdod lleol wedi dod i benderfyniad am eich hawl i dderbyn cymorth ariannol, byddan nhw'n anfon y wybodaeth hon at Student Finance Direct.

Byddan nhw hefyd yn anfon llythyr Asesiad Ariannol atoch sy'n cynnwys y wybodaeth hon.

Cam pedwar: cadarnhau'ch cymorth a pharatoi i'w dalu

Bydd Student Finance Direct yn anfon Llythyr yn nodi'r Amserlen Talu i gadarnhau'r symiau arian a delir i chi a phryd.

Mae'r dyddiadau talu hyn yn dibynnu arnoch chi'n cofrestru ar eich cwrs mewn pryd, a sicrhau bod gan Student Finance Direct fanylion diweddaraf eich cyfrif banc.

Os ydych wedi newid eich manylion banc ond nid ydych wedi hysbysu Student Finance Direct, mae'n bosib y bydd yr arian yr ydych yn dibynnu arno yn cael ei dalu i'r cyfrif banc anghywir, gan olygu oedi cyn y byddwch chi'n derbyn yr arian.

Os ydych chi wedi cyflwyno'r holl wybodaeth angenrheidiol gyda'ch cais, gallwch ddisgwyl clywed am eich hawl i gael cymorth rhwng chwech ac wyth wythnos ar ôl i chi ei gyflwyno.

Cam pump: cofrestru ar eich cwrs

Pan fyddwch chi'n cofrestru ar eich cwrs, dylech fynd â'r canlynol gyda chi:

  • eich llythyr Asesiad Ariannol (a anfonwyd atoch gan eich awdurdod lleol)
  • eich Llythyr yn nodi'r Amserlen Talu (a anfonwyd atoch gan Student Finance Direct)

Bydd eich man astudio yn anfon neges at Student Finance Direct ar yr un diwrnod yn cadarnhau eich presenoldeb.

Cam chwech: talu eich cymorth ariannol

Cyn gynted ag y bydd Student Finance Direct yn derbyn cadarnhâd eich bod wedi cofrestru, caiff y taliad ei ryddhau'n awtomatig.

Fel arfer, caiff y taliad ei glirio yn eich cyfrif banc o fewn tri i bum niwrnod gwaith.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU