Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Os bydd eich amgylchiadau'n newid tra'ch bod yn astudio

Os bydd eich amgylchiadau'n newid tra'ch bod yn astudio - er enghraifft, os byddwch yn priodi neu'n newid eich cwrs - rhaid i chi roi gwybod i'ch awdurdod lleol cyn gynted â phosib gan y gallai hyn effeithio ar eich hawl i dderbyn cymorth ariannol.

Newidiadau yn eich amgylchiadau tra'ch bod yn astudio

Os bydd eich manylion yn newid tra'ch bod yn astudio, mae'n bwysig rhoi gwybod i'r bobl berthnasol.

Dyma'r prif fathau o newid:

  • newidiadau i amgylchiadau eich cartref, eich statws priodasol neu'ch statws ariannol
  • newidiadau i'ch cwrs neu i'ch man astudio

Yn y rhan fwyaf o achosion, dylech roi gwybod i'ch awdurdod lleol gyntaf.

Os bydd eich amgylchiadau priodasol, ariannol neu gartref yn newid

Os bydd unrhyw newidiadau i'ch amgylchiadau personol neu ariannol tra'ch bod yn astudio, rhaid i chi roi gwybod i'ch awdurdod lleol cyn gynted â phosib gan y gallai effeithio ar faint o gymorth ariannol a gewch fel myfyriwr.

Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • priodi, neu sefydlu partneriaeth sifil
  • gwahanu neu ysgaru
  • cael plant
  • eich rhieni'n cael mwy o blant
  • mynd yn wael neu'n anabl
  • incwm eich cartref yn cynyddu neu'n gostwng

Gall eich awdurdod lleol eich cynghori yn dibynnu ar ba newidiadau sydd wedi digwydd.

Gallwch hefyd lwytho a llenwi ffurflen 'newid mewn amgylchiadau', a'i hanfon at eich awdurdod lleol unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn academaidd.

Newidiadau i'ch cwrs

Os bydd unrhyw newidiadau i'ch cwrs neu i'ch man astudio, bydd y camau y dylech eu cymryd yn dibynnu ar y newid hwnnw.

Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • newid cwrs neu fan astudio
  • ail-wneud blwyddyn o'ch cwrs neu ohirio'ch astudiaethau
  • gadael eich cwrs yn gynnar
  • dychwelyd i gwrs ar ôl egwyl

Newid i gwrs newydd neu fan astudio

Os ydych am newid eich prifysgol, eich coleg, neu'ch cwrs, bydd modd i chi drosglwyddo'r cymorth ariannol a gewch mewn rhai amgylchiadau. Eich cam cyntaf fydd siarad gyda'ch man astudio a'ch awdurdod lleol i drafod yr effaith ariannol.

Os bydd eich man astudio newydd yn cymeradwyo'ch cais i drosglwyddo, bydd yn anfon ffurflen 'Hysbysiad Trosglwyddo Myfyriwr' at eich awdurdod lleol, a byddan nhw'n ailasesu'ch sefyllfa ar eich rhan.

Ail-wneud blwyddyn o'ch cwrs neu ohirio'ch astudiaethau

Os ydych am ail-wneud blwyddyn o'ch cwrs, neu am ohirio'ch astudiaethau, dylech drafod eich rhesymau gyda'ch man astudio a'ch awdurdod lleol yn gyntaf. Yna, byddan nhw'n rhoi gwybod i chi sut y gallai hynny effeithio ar eich cymorth ariannol.

Os byddwch yn gohirio neu'n ail-wneud blwyddyn o ganlyniad i amgylchiadau sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth, efallai y cewch gefnogaeth lawn.

Os bydd eich prifysgol neu'ch coleg yn cymeradwyo'ch cais i ail-wneud cyfnod neu i ohirio, byddant yn rhoi gwybod i'ch awdurdod lleol, a fydd yna'n penderfynu a fyddwch chi'n parhau i dderbyn cymorth ariannol llawn ai peidio.

Os byddwch yn gohirio cychwyn eich cwrs o 2005 tan 2006, bydd angen i'ch awdurdod lleol weld llythyr o gadarnhad gan eich man astudio, wedi'i ddyddio cyn 1 Awst 2005.

Gadael eich cwrs yn gynnar

Os byddwch yn gadael eich cwrs yn gynnar, gall hyn effeithio ar eich hawl i dderbyn cymorth ariannol os byddwch yn dychwelyd i addysg uwch yn y dyfodol. Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy siarad â'ch awdurdod lleol a'ch man astudio.

Dechreuir ad-dalu'ch benthyciad myfyriwr yn y mis Ebrill cyntaf ar ôl y dyddiad diwethaf i chi fynychu'r cwrs, cyn belled ag y byddwch yn ennill mwy na £15,000 y flwyddyn. I gael mwy o wybodaeth am ad-dalu, gweler 'Ad-dalu benthyciadau myfyrwyr (cyrsiau'n cychwyn ar ôl 1998)'.

Dychwelyd i gwrs newydd ar ôl egwyl

Os byddwch yn dychwelyd i addysg uwch ar ôl egwyl yn eich astudiaethau, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol.

Byddwch chi'n dal i allu gwneud cais am fenthyciad myfyriwr, ond efallai na fydd hawl gennych i dderbyn cymorth ariannol tuag at eich ffioedd dysgu na grant addysg uwch os ydych eisoes wedi derbyn cymorth ariannol gan y llywodraeth unwaith.

Fodd bynnag, ceir rhai eithriadau i hyn, ac fe ystyrir eich amgylchiadau personol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU