Os ydych chi mewn caledi ariannol, a bod angen cymorth ariannol ychwanegol arnoch, gall prifysgolion a cholegau yn Lloegr ddarparu cymorth o'r fath drwy eu cronfeydd Mynediad at Ddysgu. Gallwch wneud cais os ydych yn fyfyriwr addysg uwch amser llawn neu ran-amser, neu'n gwneud cwrs i raddedigion.
Gall y Gronfa Mynediad at Ddysgu ddarparu cymorth ychwanegol os ydych mewn caledi ariannol a bod angen cymorth ariannol ychwanegol arnoch.
Bydd eich prifysgol neu'ch coleg yn edrych ar eich sefyllfa bersonol chi, ond gallech, er enghraifft, gael cymorth:
Mae'r Gronfa Mynediad at Ddysgu ar gael:
Gall myfyrwyr rhan-amser ar gyrsiau gradd neu ôl-radd hefyd fod yn gymwys, cyn belled â bod eu cwrs:
Os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu penodol sy'n golygu y bydd yn cymryd mwy na dwywaith yn hirach i gwblhau eich cwrs nag y byddai'n ei gymryd i gwblhau cwrs amser llawn cyfatebol, efallai y bydd dal yn bosib i chi wneud cais am gymorth o'r gronfa.
Mae gan brifysgolion a cholegau lais cryf mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â'r modd y telir arian o'r gronfa'n lleol. Byddant yn edrych ar eich sefyllfa bersonol chi, gan weld fel arfer a oes diffyg rhwng eich incwm a'ch costau. Ond y grwpiau canlynol sy'n cael blaenoriaeth ar gyfer cymorth:
Mae'r arian a delir o'r Gronfa Mynediad at Ddysgu yn ychwanegol i'r pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol. Ni fwriedir iddo gymryd lle'r pecyn hwnnw.
Disgwylir eich bod wedi gwneud cais am unrhyw Fenthyciadau Myfyrwyr, grantiau a bwrsarïau y mae gennych hawl iddynt cyn gwneud cais am gymorth o'r Gronfa Mynediad at Ddysgu.
Fel arfer, telir yr arian fel grant nad oes angen i chi ei ad-dalu. Weithiau fe'i telir fel benthyciad. Bydd eich coleg neu'ch prifysgol yn penderfynu a gewch eich talu gydag un swm o arian neu drwy randaliadau.
Byddwch fel arfer yn gwneud cais drwy adran gwasanaethau myfyrwyr eich prifysgol neu'ch coleg. Byddant yn dweud wrthych pa wybodaeth yn union y bydd angen i chi ei rhoi, ond byddwch yn barod i ddarparu:
Fel arfer byddwch yn gwneud cais wedi i chi ddechrau eich cwrs – erbyn hynny, byddwch yn gwybod faint o gyllid a gewch drwy'r pecyn cyllid myfyrwyr safonol. Ond os ydych chi'n gwybod y bydd arnoch angen cymorth ychwanegol, mae'n syniad da mynd at eich prifysgol neu'ch coleg cyn i'ch cwrs ddechrau.
Fel arfer, ni fydd unrhyw arian a gewch drwy'r Gronfa Mynediad at Ddysgu yn cyfrif fel incwm wrth gyfrifo'ch hawl i fudd-daliadau neu gredydau treth, onid ar gyfer costau byw o ddydd i ddydd y mae.
Dim ond os ydych chi'n astudio yn Lloegr y mae'r Gronfa Mynediad at Ddysgu ar gael. Ond efallai bod cymorth tebyg ar gael gan brifysgolion a cholegau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
I gael gwybod pa fath arall o gymorth allech chi ei gael, dilynwch y ddolen berthnasol isod.