Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grant Oedolion Dibynnol

Os ydych chi'n fyfyriwr mewn addysg uwch amser llawn a bod gennych oedolyn sy'n dibynnu arnoch yn ariannol, efallai fod gennych hawl i gymorth ariannol ychwanegol drwy'r Grant Oedolion Dibynnol.

Cymorth i fyfyrwyr a chanddynt oedolion sy'n ddibynnol arnynt

Gallai'r Grant Oedolion Dibynnol ddarparu cymorth ariannol ychwanegol os ydych yn fyfyriwr addysg uwch amser llawn a bod gennych oedolyn yn dibynnu arnoch yn ariannol.

Nid oes rhaid i chi dalu'r cymorth ariannol hwn yn ôl.

Pwy sy'n cyfrif fel oedolyn dibynnol?

Gall oedolyn dibynnol fod yn bartner (gan gynnwys partner o'r un rhyw os dechreuodd eich cwrs ym mis Medi 2005 neu ar ôl hynny), neu'n oedolyn arall sy'n dibynnu arnoch yn ariannol.

Aelod o'ch teulu fydd hwn fel arfer, ond ni ellir cyfrif meibion a merched sydd wedi tyfu i fyny fel oedolion dibynnol.

Faint o arian allwch chi ei gael?

Bydd y swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich incwm ac ar incwm eich dibynyddion.

Yr uchafswm ar gyfer 2007/2008 yw £2,510.

Cyfrifo'ch hawl

Mae adran yn y llyfryn 'Grant Gofal Plant a mathau eraill o gefnogaeth ar gyfer rhieni sy'n fyfyrwyr amser llawn mewn addysg uwch' a all fod o gymorth i chi amcangyfrif faint yn ychwanegol y gallech ei gael ar gyfer eich dibynyddion.

Gallwch lwytho copi o'r llyfryn isod oddi ar y we, neu ofyn i'ch awdurdod lleol anfon un atoch chi. Mae'n cynnwys gwybodaeth ynghylch y Grant Oedolion Dibynnol yn ogystal â mathau eraill o gymorth.

Sut mae’r arian yn cael ei dalu?

Telir y Grant Oedolion Dibynnol mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau pob tymor.

Bydd Student Finance Direct yn talu'r grant i chi yr un pryd ag unrhyw fenthyciad myfyrwyr neu unrhyw grantiau eraill y byddwch yn eu derbyn.

Sut mae gwneud cais?

Gallwch wneud cais cyn neu yn ystod eich cwrs. Ar y brif ffurflen gais i fyfyrwyr, llenwch yr adran sy'n holi ynghylch gwneud cais am gymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd ag oedolion sy'n ddibynnol arnynt.

Yr effaith ar fathau eraill o gymorth ariannol

Bydd unrhyw Grant Oedolion Dibynnol a gewch yn cael ei ystyried yn incwm wrth gyfrifo'ch hawl i dderbyn budd-daliadau.

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Os bydd eich amgylchiadau'n newid – er enghraifft, os bydd incwm eich cartref yn cynyddu neu'n gostwng, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau eich bod yn cael lefel y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Pa fath arall o gymorth allwch chi ei gael?

Telir y Grant Oedolion Dibynnol ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol.

I gael gwybod pa fathau eraill o gymorth ariannol y gallech chi eu cael, dilynwch un o'r dolenni isod. Os ydych chi'n fyfyriwr newydd, neu os dechreuoch eich cwrs o fis Medi 2006, gweler ‘Myfyrwyr amser llawn: dechrau arni’. Fel arall, gweler ‘Cyllid myfyrwyr: wedi dechrau cyn 2006?’.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU