Os ydych yn astudio ar gwrs addysg uwch amser llawn yn Lloegr, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol gan eich prifysgol neu'ch coleg ar ffurf bwrsari. Mae rhai prifysgolion yn cynnig ysgoloriaethau hefyd - a cheir rhai elusennau ac ymddiriedolaethau addysgol a allai fod yn barod i ddyfarnu cymorth ariannol ychwanegol i chi.
Mae bwrsarïau ac ysgoloriaethau'n ffynonellau ychwanegol sy'n cynnig cymorth ariannol. Cânt eu rhoi gan golegau a phrifysgolion. Fe'u telir ar ben unrhyw Fenthyciadau Myfyrwyr neu grantiau y gallech eu cael.
Nid oes angen talu bwrsarïau ac ysgoloriaethau yn ôl.
Y prifysgolion a'r colegau sy'n penderfynu faint sydd ar gael, ond mae'n rhaid i'r rheini sydd yn Lloegr gynnig isafswm i fyfyrwyr:
Bydd yr isafswm yn dibynnu ar y ffioedd dysgu a godir gan y brifysgol neu'r coleg – ond ar gyfer 2007/2008, bydd yn £305 o leiaf.
Mae llawer o brifysgolion a cholegau'n cynnig cryn dipyn yn fwy na’r isafswm: yn 2007/08 roedd y bwrsari debygol i fyfyriwr yn derbyn y Grant Cynhawliaeth Llawn ar gwrs yn costi’r swm llawn £3, 070 yn £1,000.
Mae bwrsarïau'n rhan o becyn cyllid ‘newydd’ ar gyfer myfyrwyr. Yn gyffredinol, maent ar gael i fyfyrwyr a ddechreuodd astudio ym mis Medi 2006 neu ar ôl hynny.
Ond mae rheolau cyllid 2005/2006 yn dal i fod yn berthnasol i rai myfyrwyr a ddechreuodd astudio ym mis Medi 2006 - dilynwch y ddolen isod os nad ydych yn sicr pa reolau sy'n berthnasol i chi.
Mae llawer o golegau a phrifysgolion yn cynnig ysgoloriaethau hefyd. Gall yr ysgoloriaethau sydd ar gael fod yn seiliedig ar nifer o ffactorau - megis eich graddau lefel A, y pynciau y bu i chi eu hastudio, neu ble'r ydych yn byw.
Gallwch weld beth sydd ar gael ar wefan eich prifysgol neu'ch coleg, neu gan eu swyddfa cymorth myfyrwyr.
Fel arfer, byddwch yn cael taliad uniongyrchol gan eich coleg neu'ch prifysgol. Ond mae rhai'n rhoi cymorth ymarferol, fel:
Yma, cewch wybod sut i wneud cais gan eich prifysgol neu'ch coleg. Bydd rhai'n gweinyddu eu cynlluniau eu hunain, tra bydd Student Finance Direct yn delio â cheisiadau a thaliadau i eraill.
Bydd y prif gais am gyllid myfyrwyr yn gofyn i chi roi eich caniatâd i Student Finance Direct rannu manylion eich cais gyda'ch prifysgol neu'ch coleg os bydd angen. Os yw'ch prifysgol neu'ch coleg yn delio â'u cynlluniau eu hunain, bydd rhoi eich caniatâd iddynt yn eu galluogi i ddefnyddio'r wybodaeth hon i asesu faint mae gennych hawl iddo.
Os nad ydych yn rhoi eich caniatâd, bydd angen i chi roi'r wybodaeth hon yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu'ch coleg.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid - er enghraifft, os bydd incwm eich cartref yn cynyddu neu'n gostwng - dylech gysylltu â swyddfa cymorth myfyrwyr eich prifysgol neu'ch coleg.
Ceir nifer o ymddiriedolaethau ac elusennau sy'n rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch. Gallech gael dyfarniad gan un o'r sefydliadau hyn ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr a ddarparir gan y llywodraeth.
Gallwch gael cymorth i ddod o hyd i'r math yma o gymorth gan y Gwasanaeth Ymgynghorol Grantiau Addysgol (EGAS). Mae EGAS yn rhoi canllawiau arbenigol i fyfyrwyr ar gael arian ar gyfer addysg a hyfforddiant - yn arbennig i'r rheini sy'n dod o gefndir difreintiedig.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth hefyd yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd cyhoeddus. Dyma rai cyhoeddiadau defnyddiol:
Bydd cynghorydd myfyrwyr yn eich coleg neu'ch prifysgol yn gallu dweud mwy wrthych hefyd.
Fel rhan o raglen astudio Ewropeaidd Socrates-Erasmus, mae grantiau symudedd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n dymuno dilyn rhan o'u cwrs addysg uwch yn un o'r 31 gwlad sy'n rhan o'r cynllun.
I gael gwybodaeth am fathau eraill o gymorth ariannol y gallech eu cael - gan gynnwys grantiau a Benthyciadau - gweler 'Myfyrwyr amser llawn - dechrau arni'.