Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grant Cynhaliaeth: cymorth gyda chostau byw

Os ydych chi'n dilyn cwrs addysg uwch amser llawn, efallai y gallwch gael grant i gynorthwyo â chostau llety a chostau byw eraill. Bydd a ydych chi'n gymwys ai peidio yn dibynnu ar incwm eich cartref. Os ydych chi'n fyfyriwr newydd – ac, yn y rhan fwyaf o achosion, os dechreuoch ddilyn y cwrs yn 2006/2007 – y grantiau y gallwch wneud cais amdanynt yw'r ‘Grant Cynhaliaeth’ a'r ‘Grant Cymorth Arbennig’.

Grant Cynhaliaeth a Grant Cymorth Arbennig

Os ydych chi'n dod o Loegr ac yn dilyn cwrs addysg uwch amser llawn yn y DU, efallai y gallwch gael help gyda chostau llety a chostau byw eraill drwy gyfrwng y Grant Cynhaliaeth neu'r Grant Cymorth Arbennig. Bydd a ydych chi'n gymwys ai peidio - a faint o grant gewch chi - yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Nid oes angen i chi eu talu'n ôl, a gallwch wneud cais amdanynt yr un pryd ag yr ydych yn gwneud cais am Fenthyciadau Myfyrwyr gan y llywodraeth - drwy'r brif ffurflen gais am gyllid myfyrwyr.

Os ydych chi'n fyfyriwr newydd - neu os dechreuoch ddilyn cwrs yn 2006/2007

Mae'n bosibl y bydd myfyrwyr newydd, a mwyafrif y rheini a ddechreuodd ddilyn cyrsiau yn 2006/2007, yn gymwys i gael y Grant Cynhaliaeth neu'r Grant Cymorth Arbennig Os ydych chi'n gymwys, byddwch yn derbyn un neu'r llall - ond nid y ddau.

Os dechreuoch ar eich cwrs cyn mis Medi 2006

Ni fydd y Grant Cynhaliaeth na'r Grant Cymorth Arbennig ar gael os dechreuoch eich cwrs cyn mis Medi 2006 - neu os ystyrir i chi ddechrau bryd hynny oherwydd, er enghraifft, i chi gymryd blwyddyn fwlch yn 2005/2006.

Ond gallech fod yn gymwys i wneud cais am y Grant Addysg Uwch yn lle hynny. Gweler ‘Cyllid myfyrwyr ar ôl eich blwyddyn gyntaf: wedi dechrau cyn mis Medi 2006?’ am fanylion.

Faint o arian y gallwch ei gael ar gyfer 2008/2009

Gallech gael hyd at £2,835 drwy'r Grant Cynhaliaeth neu'r Grant Cymorth Arbennig, gan ddibynnu ar incwm eich cartref.

Fodd bynnag, gan amlaf bydd y gyfradd sydd ar gael ar lefel incwm cartref benodol yn wahanol i:

  • myfyrwyr a fydd yn dechrau ar eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol neu'r coleg yn 2008/2009
  • y rheini a fydd yn parhau ag ail, trydedd neu bedwaredd flwyddyn eu cwrs yn 2008/2009

Dilynwch y ddolen isod sy'n berthnasol i chi i gael gwell syniad faint y byddwch yn debygol o'i gael. Ceir gwybodaeth hefyd am y modd y gall y Grant Cynhaliaeth effeithio ar yr hawl i gael Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth.

Faint o arian y gallwch ei gael ar gyfer 2007/2008

Gallech gael hyd at £2,765 drwy'r Grant Cynhaliaeth neu'r Grant Cymorth Arbennig, gan ddibynnu ar incwm eich cartref.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwell syniad am yr hyn y mae gennych hawl iddo. Fe welwch hefyd wybodaeth am y modd y gall y Grant Cynhaliaeth effeithio ar yr hawl i gael Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth.

Grant Cynhaliaeth a Grant Cymorth Arbennig: am ba un y dylech wneud cais?

Grant Cynhaliaeth

Yr un faint o gymorth y gallwch ei gael drwy'r Grant Cynhaliaeth a'r Grant Cymorth Arbennig. Ond os byddwch chi'n cael y Grant Cynhaliaeth, telir peth ohono yn lle'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth. Mewn geiriau eraill, bydd yn lleihau'r swm y gallwch ei gael drwy'r Benthyciadau Myfyrwyr.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae hyn yn gweithio, dilynwch y ddolen sy'n berthnasol i chi yn yr adranau uchod ar 'Faint o arian y gallwch ei gael ar gyfer 2008/2009' neu 'Faint o arian y gallwch ei gael ar gyfer 2007/2008'.

Grant Cymorth Arbennig

Rhoddir y Grant Cymorth Arbennig yn lle'r Grant Cynhaliaeth i grwpiau penodol o fyfyrwyr sy'n dechrau ar addysg uwch yn 2006/2007, 2007/2008 neu 2008/09.

Os byddwch yn cael y Grant Cymorth Arbennig, ni fydd yn effeithio ar faint y gallwch ei gael drwy'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth - ac ni fydd yn cael ei ystyried yn incwm wrth gyfrifo'ch hawl i fudd-daliadau ar sail incwm na chredydau treth.

Byddwch yn gymwys ar gyfer Grant Cymorth Arbennig os byddwch, yn ystod y flwyddyn academaidd, yn bodloni'r amodau o fod yn ‘berson rhagnodedig’ dan y Rheoliadau Budd-dal Tai neu Dreth Incwm. Mae'r myfyrwyr sy'n debygol o fod yn gymwys yn cynnwys:

  • rhieni sengl
  • myfyrwyr eraill sy'n rhieni os oes ganddynt bartner sydd hefyd yn fyfyriwr
  • myfyrwyr gydag anableddau penodol

Ond mae myfyrwyr eraill a all fod yn gymwys i gael y Grant Cymorth Arbennig. Nid ydych, o anghenraid, yn gorfod derbyn Cymhorthdal Incwm na Budd-dal Tai, ac nid oes raid i chi fod wedi gwneud cais amdanynt hyd yn oed.

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol os nad ydych yn siŵr pa grant i wneud cais amdano. Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr fydd yn delio â cheisiadau rhai myfyrwyr. Bydd y ddolen isod yn rhoi manylion cyswllt eich awdurdod lleol chi, neu'n dweud wrthych a oes angen ichi gysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Sut i wneud cais

Byddwch chi'n gwneud cais am y ddau fath o grant drwy'r brif ffurflen gais am gyllid myfyrwyr.

Mae'n syniad da gwneud cais cyn i'ch cwrs ddechrau, ond bydd yn bosib i chi wneud cais hyd at naw mis ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd.

Sut mae’r grantiau'n cael eu talu?

Telir y Grant Cynhaliaeth a'r Grant Cymorth Arbennig i chi gan Student Finance Direct ar ddechrau pob tymor - yn syth i'ch cyfrif banc fel arfer.

Fe gewch y grant ar yr un pryd ag unrhyw Fenthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, er enghraifft, os bydd incwm eich cartref yn codi neu'n disgyn - mae'n bwysig i chi roi gwybod i'ch awdurdod lleol.

Pa fath arall o gymorth allech chi ei gael?

I gael gweld pa fathau eraill o gymorth y gallech eu cael - gan gynnwys cymorth gyda chostau byw drwy'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth - gweler 'Myfyrwyr amser llawn - dechrau arni'.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU