Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Myfyrwyr amser llawn: gweld pa becyn cyllid myfyrwyr sydd ar gael i chi

Ceir dau becyn cyllid safonol ar gyfer myfyrwyr amser llawn sy'n parhau â'u hastudiaethau. Fel rheol gyffredinol, mae un ar gael i fyfyrwyr a ddechreuodd ym mis Medi 2006 neu ar ôl hynny, ac mae'r llall ar gyfer y rheini a ddechreuodd cyn hynny. Ond ceir rhai eithriadau – defnyddiwch y dudalen hon i weld pa un sydd ar gael i chi.

Pa becyn cymorth ariannol ydych chi'n gymwys ar ei gyfer?

Ceir dau becyn cymorth ariannol gwahanol ar gyfer myfyrwyr addysg uwch amser llawn. Fel rheol gyffredinol, bydd yr un sydd ar gael i chi yn dibynnu ar yr adeg y gwnaethoch ddechrau ar eich cwrs:

  • ym mis Medi 2006 neu ar ôl hynny, neu
  • cyn Medi 2006

Ond ceir rhai amgylchiadau lle byddwch yn cael eich trin yn yr un ffordd â myfyriwr a gychwynnodd ar gwrs ym mlwyddyn academaidd 2005/2006, hyd yn oed os mai yn 2006/2007 y gwnaethoch chi ddechrau ar eich cwrs.

I bwy mae rheolau cyllid myfyrwyr 2005/2006 yn berthnasol

Bydd rheolau cyllid myfyrwyr 2005/2006 yn berthnasol:

  • os gwnaethoch ddechrau ar eich cwrs cyn mis Medi 2006
  • os gwnaethoch gymryd lle wedi'i ohirio ym mis Medi 2006 ar ôl cymryd blwyddyn fwlch ym mlwyddyn academaidd 2005/2006
  • os gwnaethoch newid o gwrs a ddechreuodd cyn mis Medi 2006
  • os nad oedd modd i chi dderbyn eich lle mewn prifysgol neu goleg yn 2005/2006 oherwydd eich canlyniadau lefel A, a'ch bod wedi apelio'n llwyddiannus ac wedi dechrau yn 2006/2007 yn lle hynny
  • os gwnaethoch ddechrau ar gwrs gradd 'dilyn-ymlaen' ('end-on') yn 2006/2007 ar ôl cwblhau cwrs Gradd Sylfaen, cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch, cwrs Diploma Genedlaethol Uwch, neu gwrs Diploma Addysg Uwch yn 2005/2006

Os cymeroch flwyddyn fwlch yn 2005/2006

Bydd rheolau cyllid myfyrwyr 2005/2006 yn berthnasol i chi os cymeroch flwyddyn fwlch wedi'i chymeradwyo yn 2005/2006, y cawsoch eich eithrio, ac y dechreuasoch astudio yn 2006/2007.

I gymhwyso fel myfyriwr blwyddyn fwlch wedi'i eithrio, rhaid bod eich prifysgol neu'ch coleg wedi cadarnhau bod eich lle wedi cael ei ohirio erbyn 1 Awst 2005.

Os ydych chi'n newid o gwrs a ddechreuodd yn 2005/2006 neu cyn hynny

Os byddwch yn newid o gwrs a oedd yn dechrau cyn mis Medi 2006, bydd rheolau cyllid myfyrwyr 2005/2006 yn dal i fod yn berthnasol i chi.

Fodd bynnag, dylech siarad â'ch prifysgol neu'ch coleg i gael gwybod faint o ffioedd dysgu y bydd angen i chi eu talu i ddilyn eich cwrs newydd.

Pa fath o gymorth ariannol allwch chi ei gael?

Os yw rheolau 2005/2006 yn berthnasol i chi, gweler ‘Ar ôl eich blwyddyn gyntaf: wedi dechrau cyn 2006?’ i gael canllaw am y cymorth ariannol sydd ar gael.

Fel arall, y rheolau ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau ym mis medi 2006 neu ar ôl hynny fydd yn berthnasol. Gweler ‘Ar ôl eich blwyddyn gyntaf: wedi dechrau ar ôl 2006?’.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU