Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyllid myfyrwyr: cymhwysedd personol

Os ydych chi'n byw yn Lloegr ac yn dilyn cwrs addysg uwch yn y DU, bydd gofyn eich bod chi'n bersonol yn gallu diwallu amodau penodol i fod yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr. Defnyddiwch y dudalen hon i gadarnhau eich cymhwysedd personol – yna gwnewch yn siŵr bod y sefydliad yr ydych yn astudio ynddo a'ch cwrs yn gymwys.

Gweld a ydych chi eich hun yn gymwys

Mae'r rheolau sy'n gysylltiedig â chymhwysedd yn gymhleth, ond, yn gyffredinol, bydd eich cymhwysedd personol yn dibynnu ar y canlynol:

  • ble'r ydych chi ‘fel arfer yn byw’
  • a ydych chi wedi dilyn cwrs addysg uwch o'r blaen ai peidio
  • eich oedran

Preswyliaeth

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr fel myfyriwr o Loegr, fel arfer, bydd angen i chi fodloni pob un o'r tair amod preswyliaeth. Golyga hyn, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'ch cwrs yn dechrau ynddi, fel arfer:

  • rhaid i chi fod wedi 'preswylio'n arferol' yn y DU, ar Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am dair blynedd yn union cyn dechrau ar y cwrs (ac nid yn gyfan gwbl/yn bennaf at bwrpas derbyn addysg amser llawn)
  • rhaid i chi fod yn un o ddinasyddion y DU neu fod â 'statws ymgartrefu' yn y DU (dan delerau Deddf Mewnfudo 1971)
  • rhaid i chi fod yn 'preswylio'n arferol' yn Lloegr

Rydych chi'n 'preswylio'n arferol' yn rhywle os mai yno yr ydych chi'n byw fel arfer. Nid oes ots os ydych chi'n mynd o'r wlad dros dro o bryd i'w gilydd.

Golyga 'statws ymgartrefu' nad oes cyfyngiadau mewnfudo ynghylch pa mor hir y cewch aros yn y DU.

Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, mae'n bosib y byddwch dal yn gynnwys ar gyfer y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol. Gofynnwch i’ch awdurdod lleol, neu'ch prifysgol, am gyngor.

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, yn hytrach na'u hawdurdod lleol, fydd yn delio â cheisiadau rhai myfyrwyr. Bydd y ddolen isod yn rhoi manylion cyswllt eich awdurdod lleol i chi - neu'n dweud wrthych a oes angen i chi gysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am gyngor.

Astudiaeth flaenorol

Os ydych chi wedi bod yn astudio o'r blaen, gallai hyn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer cyllid myfyrwyr.
Efallai na fyddwch yn gallu cael cymorth ariannol os ydych chi wedi dilyn cwrs addysg uwch yn y gorffennol a naill ai:

  • eich bod wedi cael eich cyllid myfyrwyr gan y llywodraeth pan yr oeddech yn ei ddilyn
    neu:
  • bod y coleg neu'r brifysgol wedi cael nawdd gan y llywodraeth

Yn gyffredinol, bydd gennych hawl i gael cymorth ariannol drwy gydol eich cwrs – ynghyd â chymorth am flwyddyn ychwanegol os bydd angen talu am bethau megis oedi wrth gychwyn, a newid coleg neu gwrs.

Os nad ydych chi'n siŵr a ydy'ch astudiaeth flaenorol yn effeithio ar eich hawl i gael cyllid myfyrwyr ai peidio, siaradwch â'ch awdurdod lleol, eich coleg neu'ch prifysgol.

Eich oedran

I fod yn gymwys ar gyfer Benthyciad Myfyrwyr i helpu â chostau llety a chostau byw (a elwir yn ‘Fenthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth’), mae angen i chi fod yn iau na 60 pan fyddwch yn dechrau'ch cwrs.

Nid oes uchafswm oedran ar grantiau a Benthyciadau Myfyrwyr ar gyfer Ffioedd Dysgu.

Y cam nesaf: gwneud yn siŵr bod eich cwrs a'ch sefydliad yn gymwys

Mae cymhwysedd ar gyfer cyllid myfyrwyr yn dibynnu ar y cwrs y byddwch yn ei ddilyn ac ar y coleg neu'r brifysgol y byddwch yn ei mynychu, yn ogystal â'ch sefyllfa bersonol.

Dilynwch y ddolen isod i gadarnhau bod eich cwrs a'ch sefydliad yn gymwys.

Mynd yn ôl i ‘Ydych chi'n gymwys i gael cyllid myfyrwyr?’

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU