I chi fod yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr, rhaid i'ch cwrs a'ch prifysgol neu'ch coleg fodloni meini prawf penodol. Mae'r dudalen hon yn amlinellu'r amodau perthnasol os ydych chi'n dod o Loegr ac yn dilyn cwrs addysg uwch yn y DU.
Gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr os yw eich cwrs yn gwrs amser llawn (gan gynnwys cyrsiau rhyngosod) neu'n gwrs rhan-amser. Ond mae'r cymorth sydd ar gael yn wahanol i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr amser llawn, ac mae'r cymorth ar gyfer cyrsiau dysgu o bell amser llawn yn wahanol eto.
Mae'r rheolau sy'n ymwneud â chymhwysedd yn gymhleth. Ond yn gyffredinol, i fod yn gymwys i gael cyllid fel myfyriwr amser llawn, dylai'ch cwrs arwain at un o'r cymwysterau canlynol:
Byddwch hefyd yn gymwys fel arfer os yw'ch cwrs yn un:
Dylai cyrsiau rhan-amser bara am flwyddyn o leiaf, ac ni ddylent gymryd mwy na dwywaith yn hirach i'w cwblhau na chwrs amser llawn cyfatebol.
Nid yw cyrsiau addysg bellach a chyrsiau ôl-radd yn gymwys ar gyfer y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol - ar wahân i gyrsiau ôl-radd mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.
Fel arfer, gallwch hawlio cyllid myfyrwyr os bydd eich cwrs yn cael ei gynnal: