Ydych chi'n dechrau ar gwrs ym mis Medi? Os ydych chi'n 16, 17 neu 18 oed, gall Lwfans Cynhaliaeth Addysg fod o gymorth i chi'n ariannol. Ac os byddwch yn mynd ymlaen i'r brifysgol wedyn, ceir cynlluniau i warantu y cewch y grant uchaf i helpu â'ch costau byw. Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am rai o delerau ac amodau'r gwarantiad hwn. Bydd angen i chi hefyd fodloni'r rheolau cymhwysedd ar gyfer cymorth ariannol mewn addysg uwch.
Os ydych chi'n 16, 17 neu 18 oed ac yn bwriadu dechrau ar gwrs ym mis Medi, gall Lwfans Cynhaliaeth Addysg eich helpu gydag unrhyw broblemau ariannol tra byddwch yn dysgu. Os byddwch yn gymwys, cewch hyd at £30 yr wythnos mewn taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Gall cael trefn ar ochr ariannol dysgu wneud gwahaniaeth gwirioneddol - a'ch caniatau i ganolbwyntio ar eich cwrs ac ar wneud yn dda.
Ac os byddwch chi'n penderfynu mynd â'ch addysg i'r lefel nesaf, mae'n debygol y cewch lefelau grant uwch pan fyddwch yn y brifysgol. Yn fwy na hynny, ceir cynlluniau ar gyfer myfyrwyr a fydd yn dechrau cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg o fis Medi 2008 ymlaen i gynnig gwarantiad er mwyn iddynt wybod yn union beth yw eu sefyllfa ariannol os byddan nhw'n symud ymlaen i addysg uwch.
Mae llawer o fyfyrwyr addysg uwch yn cael help gyda'u costau byw drwy'r Grant Cynhaliaeth neu'r Grant Cymorth Arbennig. Does dim rhaid talu'r rhain yn ôl.
Bydd faint yn union a gewch fel arfer yn dibynnu ar incwm eich cartref. Ond os byddwch yn dechrau cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg o fis Medi 2008 ymlaen, gallech fod yn gymwys i gael Gwarantiad Cymorth i Fyfyrwyr Addysg Uwch.
Ar yr amod bod y Senedd yn ei gymeradwyo, bydd y gwarantiad yn golygu y gallai myfyrwyr sy'n dechrau cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg o fis Medi 2008 ymlaen ac yna'n mynd ymlaen i'r brifysgol fod yn gymwys ar gyfer lefel uchaf y grant waeth beth yw incwm eu cartref - cyn belled â'u bod yn bodloni'r telerau a'r amodau.
Os bydd y Senedd yn ei gymeradwyo, bydd y gwarantiad yn berthnasol i fyfyrwyr amser llawn sydd mewn addysg uwch ac:
Bydd angen i chi hefyd fodloni'r rheolau cymhwysedd ar gyfer cymorth ariannol mewn addysg uwch. Gweler 'Ydych chi'n gymwys i gael cyllid myfyrwyr?' i gael gwybodaeth am gymhwysedd.
Os caiff y gwarantiad ei gadarnhau, y cynharaf y gallwch 'elwa' ohono fydd 1 Medi 2010 - a bydd angen i chi wneud hyn o fewn y terfyn amser.
Bydd gennych chi dair blynedd o'r flwyddyn y rhoddir y gwarantiad i chi i'w ddefnyddio. Felly, os rhoddwyd y gwarantiad i chi yn ystod 2008/2009, byddai angen i chi ei ddefnyddio yn 2011/2012 neu cyn hynny.
Cyn belled â'ch bod yn defnyddio'r gwarantiad ar amser, bydd yn para drwy gydol gweddill eich cwrs - ond ni fydd yn berthnasol os byddwch yn dechrau ar gwrs gwahanol.
Gwyliau rhag ad-dalu Benthyciad Myfyrwyr
Mae gwyliau rhag ad-dalu Benthyciad Myfyrwyr yn eich galluogi i gymryd seibiant oddi wrth ad-dalu'ch Benthyciad Myfyrwyr.
Bydd gwyliau rhag ad-dalu am hyd at bum mlynedd ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu cyrsiau ac i fod i ddechrau ad-dalu eu Benthyciadau Myfyrwyr o fis Ebrill 2012.
Gall hyn eich helpu i gadw'ch arian ar gyfer y pethau angenrheidiol yn eich bywyd ar y pryd - i brynu tŷ er enghraifft, neu i ddechrau teulu
Dim ond un math o gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr addysg uwch sy'n dilyn cyrsiau amser llawn yw grantiau.
Ceir dau fath o Fenthyciad Myfyrwyr.
Mae'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Ffioedd Dysgu yn talu ffioedd dysgu'n llawn.
Ar ben hynny, gellir cael Benthyciad Myfyrwyr i'ch helpu i dalu am lety a chostau byw eraill. Gall myfyrwyr sy'n byw oddi cartref yn ystod y tymor gael hyd at £4,625 ar gyfer 2008/2009 - a mwy os ydyn nhw'n astudio yn Llundain.
Mae colegau a phrifysgolion yn cynnig bwrsarïau hefyd. Does dim rhaid talu'r rhain yn ôl. Bydd myfyrwyr sy'n gymwys yn cael o leiaf £310 ar gyfer 2008/2009 - ond mae bwrsarïau'n aml yn werth mwy na hynny o lawer. Y bwrsari nodweddiadol y llynedd oedd £1000.
Ar ben hyn i gyd, mae'n bosib y bydd cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd â phlant, neu i fyfyrwyr sydd ag oedolion sy'n dibynnu'n ariannol arnynt. Gall myfyrwyr sydd ag anabledd neu'r rheini sy'n wynebu caledi ariannol hefyd fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol.
Bwriad y Gwarantiad Cymorth i Fyfyrwyr Addysg Uwch yw gwarantu cymorth ariannol, nid gwarantu lle mewn prifysgol - bydd angen i chi ennill y cymwysterau priodol a gwneud cais yn y ffordd arferol.
Ond ceir ystod eang iawn o gyrsiau y gallech eu dilyn er mwyn mynd i addysg uwch. Nid yw addysg uwch o anghenraid yn ymwneud ag ennill Safon Uwch – gallwch astudio i gael cymwysterau cysylltiedig â gwaith neu ddewis gwneud Prentisiaeth.