Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grant Cynhaliaeth a Grant Cymorth Arbennig: cyfraddau i fyfyrwyr newydd 2008/2009

Os byddwch chi'n fyfyriwr newydd mewn addysg uwch yn 2008/2009, bydd y dudalen hon yn eich helpu i gyfrifo faint y gallwch ei gael drwy'r Grant Cynhaliaeth neu'r Grant Cymorth Arbennig. Bydd hefyd yn rhoi syniad ichi o gyfanswm y cymorth y gallwch ei gael gyda chostau byw drwy gyfuno'r Grant Cynhaliaeth a'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth.

Myfyrwyr newydd yn 2008/2009: a fyddwch chi'n cael y grant yn llawn?

Y grant mwyaf yw £2,835. Bydd y grant ar gael yn llawn i fyfyrwyr sy'n dilyn cwrs addysg uwch amser llawn ac yn:

  • fyfyrwyr newydd mewn addysg uwch yn 2008/2009, ac yn
  • dod o gartref sydd ag incwm o £25,000 neu lai


Cyfrifo faint gewch chi ar gyfer 2008/2009

Bydd myfyrwyr newydd y mae incwm eu cartrefi'n £60,005 neu lai yn cael y grant yn rhannol o leiaf. Bydd faint yn union sydd ar gael ichi yn dibynnu ar incwm eich cartref - edrychwch ar y tabl isod i gael syniad o faint gewch chi.

Incwm Cartref Swm y grant
 Hyd at £25,000  Grant llawn - £2,835
 £30,000  £2,002
 £35,450  £1,260
 £40,000  £998
 £50,000  £524
 £60,005  £50
 Dros £60,005 Dim grant


Grant Cynhaliaeth: yr effaith ar fathau eraill o gymorth ariannol

Os byddwch yn cael Grant Cynhaliaeth uchel, tybir na fydd angen ichi fenthyg cymaint drwy'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth. Er mwyn adlewyrchu hyn, telir peth o'r Grant Cynhaliaeth yn lle'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth.

Os bydd y Grant Cynhaliaeth a gewch yn £1,260 neu fwy, bydd £1,260 yn cael ei dynnu o'r swm y gallwch ei fenthyg.

Golyga hyn, os ydych chi'n fyfyriwr o gartref ar incwm is, y byddwch yn talu llai o fenthyciad pan fyddwch chi wedi gorffen astudio ac yn dechrau gweithio.

Ceir yn y tabl isod ffigurau enghreifftiol i roi syniad ichi faint o arian y gallech ei gael tuag at gostau llety a chostau byw eraill drwy'r Grant Cynhaliaeth a'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth.

Mae'r ffigurau'n seiliedig ar fyfyriwr newydd sy'n byw oddi cartref ac yn astudio y tu allan i Lundain yn 2008/2009.

Incwm eich cartref Grant Cynhaliaeth

Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth

Cyfanswm 2008/2009

£25,000 £2,835 £3,365 £6,200
£30,000 £2,002 £3,365 £5,367
£40,000 £998 £3,627 £4,625
£50,000 £524 £4,101 £4,625
£60,005 £50 £4,575 £4,625
£70,000 Dim grant £3,685 £3,685

Gallwch gael 75 y cant o uchafswm y Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth sydd ar gael ichi waeth beth yw incwm eich cartref. Bydd 'asesiad incwm' yn penderfynu a gewch chi'r 25 y cant sy'n weddill ai peidio.


Grant Cymorth Arbennig: yr effaith ar fathau eraill o gymorth ariannol

Yn wahanol i'r Grant Cynhaliaeth, ni fydd y swm y gallwch ei fenthyg drwy'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth yn lleihau os byddwch yn cael y Grant Cymorth Arbennig. Os yw incwm eich cartref yn £61,061 neu lai, byddwch yn gymwys i gael y Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth - waeth faint o Grant Cymorth Arbennig gewch chi.

Ni fydd unrhyw arian a gewch drwy'r Grant Cymorth Arbennig yn cael ei ystyried yn incwm wrth gyfrifo'ch hawl i fudd-daliadau neu gredydau treth.

Ei adio i fyny: Cyfrifiannell Benthyciadau a grantiau Myfyrwyr

Os ydych chi’n fyfyriwr newydd yn dechrau yn 2008/2009, gallwch ddefnyddio’r ‘Cyfrifiannell Benthyciadau a grantiau Myfyrwyr’ i gael syniad o faint gallwch gael trwy Fenthyciadau a grantiau Myfyrwyr.


Beth sydd ar gael i fyfyrwyr newydd yn 2008/2009?

Bydd lefel y grant fydd ar gael ar lefel incwm penodol yn wahanol i fyfyrwyr fydd yn dechrau eu hail, trydedd neu bedwaredd flwyddyn yn 2008/2009 - ond yr un faint fydd y grant mwyaf.

Dilynwch y ddolen isod i gael syniad o beth fydd ar gael ichi os byddwch chi'n parhau â'ch astudiaethau yn 2008/2009.


Mynd yn ôl i brif dudalen ‘Grant Cynhaliaeth: cymorth gyda chostau byw’

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU