Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grant Cynhaliaeth a Grant Cymorth Arbennig: cyfraddau i fyfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau yn 2008/2009

Os byddwch chi'n parhau i ddilyn cwrs addysg uwch yn 2008/2009, bydd y dudalen hon yn eich helpu i gyfrifo faint y gallwch ei gael drwy'r Grant Cynhaliaeth neu'r Grant Cymorth Arbennig. Bydd hefyd yn rhoi syniad i chi o gyfanswm y cymorth y gallwch ei gael gyda chostau byw drwy gyfuno'r Grant Cynhaliaeth a'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth.

Myfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau yn 2008/2009: a fyddwch chi'n cael y grant yn llawn?

Y grant mwyaf yw £2,835. Bydd y grant ar gael yn llawn i fyfyrwyr sy'n parhau i ddilyn cwrs amser llawn yn 2008/2009, a chanddynt incwm cartref sy'n £18,360 neu lai.

Cyfrifo faint gewch chi ar gyfer 2008/2009

Byddwch yn gallu cael rhan o'r grant o leiaf os yw incwm eich cartref yn £39,305 neu lai.

Bydd faint yn union sydd ar gael ichi yn dibynnu ar incwm eich cartref - edrychwch ar y tabl isod i gael syniad o faint gewch chi.

 Incwm y Cartref Swm y grant
Hyd at £18,360 Grant llawn - £2,835
 £20,000  £2,562
 £25,000  £1,729
 £27,810  £1,260
 £30,000  £1,030
 £35,000  £504
 £39,305  £50
Dros £39,305 Dim grant


Grant Cynhaliaeth: yr effaith ar fathau eraill o gymorth ariannol

Os byddwch yn cael Grant Cynhaliaeth ar lefel uchel, tybir na fydd arnoch angen benthyg cymaint drwy'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth. Er mwyn adlewyrchu hyn, telir rhywfaint o'r Grant Cynhaliaeth yn lle'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth.

Os bydd y Grant Cynhaliaeth a gewch yn £1,260 neu fwy, bydd £1,260 yn cael ei dynnu o'r swm y gallwch ei fenthyg.

Felly, os ydych chi'n fyfyriwr o gartref sydd ar incwm is, byddwch yn talu llai o fenthyciad pan fyddwch chi wedi gorffen astudio ac yn dechrau gweithio.

Ceir yn y tabl isod ffigurau enghreifftiol i roi syniad i chi faint o arian y gallech ei gael tuag at gostau llety a chostau byw eraill drwy'r Grant Cynhaliaeth a'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth.

Mae'r ffigurau enghreifftiol yn seiliedig ar fyfyriwr nad yw yn ei flwyddyn neu ei blwyddyn olaf, sy'n byw oddi cartref ac yn astudio y tu allan i Lundain yn 2008/2009



 Incwm y Cartref Grant Cynhaliaeth Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth Cyfanswm 2008/2009
 £18,360  £2,835   £3,365  £6,200
 £20,000  £2,562  £3,365  £5,927
 £25,000  £1,729  £3,365  £5,094
 £30,000  £1,030  £3,595  £4,625
 £39,305  £50  £4,575  £4,625
 £40,000 Dim grant  £4,602  £4,602

Gallwch gael 75 y cant o uchafswm y Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth sydd ar gael i chi waeth beth yw incwm eich cartref. Bydd 'asesiad incwm' yn penderfynu a gewch chi'r 25 y cant sy'n weddill ai peidio.

Grant Cymorth Arbennig: yr effaith ar fathau eraill o gymorth ariannol

Yn wahanol i'r Grant Cynhaliaeth, ni fydd y swm y gallwch ei fenthyg drwy'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth yn lleihau os byddwch yn cael y Grant Cymorth Arbennig. Os yw incwm eich cartref yn £39,780 neu lai, byddwch yn gymwys i gael y Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth - waeth faint o Grant Cymorth Arbennig gewch chi.

Ni fydd unrhyw arian a gewch drwy'r Grant Cymorth Arbennig yn cael ei ystyried yn incwm wrth gyfrifo'ch hawl i fudd-daliadau neu gredydau treth.

Beth sydd ar gael i fyfyrwyr newydd yn 2008/2009?

The level of grant available at a particular level of income is different for students starting their first year in 2008/2009 – though the maximum grant is the same.

Follow the link below to get an idea of what’s available if you’re a new student in 2008/2009.

Mynd yn ôl i brif dudalen ‘Grant Cynhaliaeth: cymorth gyda chostau byw’

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU