Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon: Grantiau, bwrsarïau a Benthyciadau Myfyrwyr

Os ydych chi'n dilyn cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (ITT) amser llawn ar gyfer israddedigion, gallwch wneud cais am yr un Benthyciadau Myfyrwyr, grantiau a bwrsarïau sydd ar gael i fyfyrwyr eraill sy'n dilyn eu cwrs addysg uwch cyntaf. Fel arfer, nid yw'r pecyn cymorth hwn ar gael ar gyfer cyrsiau rhan-amser neu gyrsiau ôl-radd – ond mae cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon rhan-amser ac ar gyfer graddedigion yn eithriadau.

Cymorth sydd ar gael i israddedigion ac ôl-raddedigion

Mae'r dudalen hon yn amlinellu beth sydd ar gael i fyfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon o Loegr a gychwynnodd eu cwrs yn ystod mis Medi 2006 neu ar ôl hynny.

Gall myfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon is-raddedig sy'n astudio ar sail amser llawn wneud cais am grantiau, bwrsarïau a Benthyciadau Myfyrwyr ar yr un telerau â myfyrwyr amser llawn eraill sy'n dilyn eu cwrs addysg uwch cyntaf.

Nid yw'r pecyn cymorth ariannol hwn ar gael fel arfer i fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-radd. Ond byddwch yn gymwys ar gyfer elfennau ohono os ydych yn dilyn cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon – p'un ai a ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser neu amser llawn, a p'un ai a ydych chi'n fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig

Cyllid ar gyfer cyrsiau amser llawn

Benthyciadau Myfyrwyr

Os ydych chi'n dilyn cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon amser llawn, gallwch wneud cais am Fenthyciadau Myfyrwyr ar yr un telerau â myfyrwyr addysg uwch amser llawn eraill.

Gallwch gael Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Ffioedd Dysgu i dalu am eich ffioedd yn llawn (hyd at £3,145 yn 2008/2009 neu £3,070 yn 2007/2008). Byddwch hefyd yn gallu cael Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth i helpu â'ch costau llety a'ch costau byw.

Grant Cynhaliaeth neu Grant Cymorth Arbennig

Efallai y gallwch gael Grant Cynhaliaeth neu Grant Cymorth Arbennig o hyd at £2,835 ar gyfer 2008/2009, neu hyd at £2,765 ar gyfer 2007/2008. Os ydych chi'n dilyn cwrs ôl-radd amser llawn, byddwch yn sicr o gael cyfran o hyn - cewch o leiaf £1,260 ar gyfer 2008/2009 neu £1,230 ar gyfer 2007/2008, ni waeth beth yw incwm eich

Bwrsarïau

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael bwrsari gan eich prifysgol neu'ch coleg

Cyllid ar gyfer cyrsiau rhan-amser

Efallai y bydd gennych hawl i'r grantiau a'r Benthyciadau Myfyrwyr a anelir at fyfyrwyr amser llawn os ydych chi'n dilyn cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon rhan-amser, cyn belled

  • nad yw'n cymryd mwy na dwywaith yn hirach i'w gwblhau na'r cwrs amser llawn cyfatebol, neu
  • nad yw'n cael ei ystyried yn gwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon hyblyg i ôl-raddedigion

Cymorth gyda ffioedd dysgu

Yn gyffredinol, nid oes uchafswm ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau rhan-amser nad ydynt yn gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, ond mae'r rheolau'n wahanol ar gyfer rhai cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon rhan-amser. Ceir uchafswm o £1,570 ar gyfer 2008/2009 neu £1,535 ar gyfer 2007/2008 os yw'ch cwrs yn golygu astudio ar sail amser llawn am gyfanswm o lai na deg wythnos yn y flwyddyn academaidd.

Gallwch gael Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Ffioedd Dysgu i dalu am eich ffioedd dysgu'n llawn.

Cymorth gyda chostau byw

Bydd yr uchafswm y gallwch ei gael drwy'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth - ac a gewch chi'r grant ai peidio - yn dibynnu ar nifer yr wythnosau a dreuliwch yn astudio ar sail amser llawn ac yn gwneud ymarfer dysgu amser llawn yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bydd faint yn union o gymorth y mae gennych hawl iddo yn dibynnu ar asesiad incwm, ac ar rai ffactorau eraill, gan gynnwys ble byddwch

Cymorth gyda chostau byw: os byddwch yn mynychu'ch cwrs amser llawn am chwech i ddeg wythnos

Os byddwch yn treulio chwe wythnos neu fwy (ond llai na deg wythnos) yn astudio ar sail amser llawn ac yn ymgymryd ag ymarfer dysgu ar sail amser llawn, gallech gael:

  • Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth o hyd at £6,475 ar gyfer 2008/2009, neu hyd at £6,315 ar gyfer 2007/2008
  • Grant Cynhaliaeth neu Grant Cymorth Arbennig

Os ydych chi'n dilyn cwrs ôl-radd, byddwch yn sicr o gael cyfran o'r Grant Cynhaliaeth neu'r Grant Cymorth Arbennig - cewch o leiaf £630 ar gyfer 2008/2009 neu £615 ar gyfer 2007/2008, ni waeth beth yw incwm eich cartref

Cymorth gyda chostau byw: os byddwch yn mynychu'ch cwrs amser llawn am gyfnod sy'n llai na chwe wythnos

Os byddwch yn treulio llai na chwe wythnos ar astudiaeth amser llawn ac ymarfer dysgu amser llawn, gallech gael Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth o hyd at £3,235 ar gyfer 2008/2009, neu hyd at £3,100 ar gyfer 2007/2008. Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer Grant Cynhaliaeth neu Grant Cymorth Arbennig

Mwy am grantiau, bwrsarïau a Benthyciadau Myfyrwyr

Gallwch gael gwybod mwy am grantiau, bwrsarïau a Benthyciadau Myfyrwyr drwy ddilyn y dolenni isod.

Sut mae gwneud cais am grantiau a Benthyciadau Myfyrwyr

P'un ai ar sail amser llawn ynteu ran amser yr ydych yn astudio, a ph'un ai cwrs i israddedigion ynteu ôl-raddedigion yr ydych yn astudio arno, gallwch wneud cais am grantiau a Benthyciadau Myfyrwyr yn yr un ffordd â myfyrwyr sy'n dilyn eu cwrs addysg uwch amser llawn cyntaf. Dilynwch y ddolen isod i weld beth sy'n berthnasol i chi.

Cymorth ychwanegol

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu penodol.

Os ydych chi ar incwm isel ac yn wynebu anawsterau ariannol, efallai y bydd cymorth ychwanegol ar gael i chi drwy Gronfa Mynediad at Ddysgu eich prifysgol neu goleg.

Efallai y bydd modd i chi hefyd gael y Grant Gofal Plant, y Lwfans Dysgu i Rieni ac/neu y Grant Oedolion Dibynnol. Nid yw'r grantiau a'r lwfansau hyn ar gael fel arfer ar gyfer cyrsiau rhan-amser, ond efallai y byddwch yn gymwys fel myfyriwr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon rhan-amser, cyn belled â'ch bod yn treulio o leiaf chwe wythnos ar astudiaeth amser llawn ac ymarfer dysgu amser llawn yn ystod y flwyddyn academaidd.

Mynd yn ôl i brif dudalen ‘Cyllid ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon’

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU