Efallai y bydd modd i fyfyrwyr sy'n dilyn cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ôl-radd (fel Tystysgrif Addysg i Raddedigion) gael bwrsari hyfforddi yn ogystal â grantiau neu Fenthyciadau Myfyrwyr. Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion y cymorth ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig o Loegr a gychwynnodd ym mis Medi 2006 neu ar ôl hynny – a gwybodaeth am y 'taliadau croeso' sydd ar gael i raddedigion sy'n hyfforddi i ddysgu rhai pynciau 'blaenoriaeth'.
Gall graddedigion gymhwyso fel athrawon drwy ddilyn y llwybrau canlynol:
Yn wahanol i fyfyrwyr ôl-raddedig eraill, gall myfyrwyr sy'n dilyn cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ôl-radd wneud cais am becyn cyllid myfyrwyr safonol, sef y grantiau a'r Benthyciadau Myfyrwyr sydd fel arfer ond ar gael i fyfyrwyr amser llawn sy'n dilyn eu cwrs addysg uwch cyntaf.
Yn ogystal â hyn, mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ôl-raddedig.
Gall myfyrwyr ôl-radd wneud cais am fwrsari hyfforddi gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion (TDA).
Mae bwrsarïau hyfforddi'n amrywio o £4,000 (£100 yr wythnos) i £9,000 (£225 yr wythnos), yn dibynnu ar y pwnc y byddwch yn cael eich hyfforddi i'w addysgu a phryd y byddwch yn dechrau ar eich cwrs. Mae bwrsari ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu mathemateg, ffiseg neu gemeg mewn ysgol uwchradd drwy'r Tystysgrif Addysg i Raddedigion estynedig newydd.
Mae bwrsarïau hyfforddi'n ddi-dreth i fyfyrwyr amser llawn. Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser, efallai y bydd yn drethadwy - mae hyn yn dibynnu ar eich incwm.
Caiff bwrsari hyfforddi'r TDA ei weinyddu gan eich darparwr hyfforddiant (eich prifysgol, eich coleg neu ddarparwr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Mewn Ysgol) ar ran y TDA. Byddwch fel arfer yn gwneud cais am y bwrsari fel rhan o'r broses gynefino ar gyfer eich cwrs, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch a ydych yn gymwys ai peidio, gallwch gysylltu â'r llinell gwybodaeth am addysgu ar 08450 6000 991 - neu holi'ch darparwr hyfforddiant.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am fwrsari hyfforddi'r Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu.
Efallai y bydd gan fyfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi eu hyfforddi i addysgu rhai pynciau ar lefel uwchradd hawl i fonws trethadwy a roddir unwaith yn unig a elwir yn 'daliad croeso', ar ôl iddynt gwblhau'u blwyddyn sefydlu.
Mae taliadau croeso ar gael i athrawon sydd newydd gymhwyso sy'n derbyn swydd mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yn Lloegr ar ôl cael eu hyfforddi i addysgu un o'r pynciau blaenoriaeth mewn ysgol uwchradd. Dyma'r pynciau:
Mae mathemateg a gwyddoniaeth yn denu £5,000, a'r holl bynciau blaenoriaeth eraill yn denu £2,500.