Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyllid ar gyfer myfyrwyr amser llawn - dechrau arni

Os ydych yn mynd i addysg uwch, mae arian ar gael i'ch helpu gyda'r costau. Ni fydd yn rhaid i chi dalu dim yn ôl nes eich bod wedi gorffen eich cwrs a'ch bod yn ennill cyflog – ac efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cymorth nad oes angen ei dalu'n ôl o gwbl.

Astudio'n gyntaf, talu'n ôl pan fyddwch yn ennill

Mae pecyn cyllid myfyrwyr ar gael i helpu â chostau addysg uwch. Dyma'r prif ffynonellau cymorth ar gyfer myfyrwyr amser llawn:

  • Benthyciadau Myfyrwyr a grantiau gan y llywodraeth
  • bwrsarïau gan brifysgolion a cholegau

Os byddwch yn cael Benthyciad Myfyrwyr gan y llywodraeth, ni fydd angen i chi ddechrau ei dalu'n ôl nes i chi orffen eich cwrs a'ch bod yn ennill mwy na £15,000 y flwyddyn.

Ac ni fydd angen talu'n ôl unrhyw gymorth a gewch drwy gyfrwng grant neu fwrsari.

I bwy mae'r wybodaeth hon yn berthnasol?

Mae'r tudalennau hyn yn amlinellu'r cymorth sydd ar gael:

  • os ydych yn byw yn Lloegr, ac
  • os ydych yn fyfyriwr newydd - neu os dechreuoch ddilyn cwrs yn 2006/2007

Bydd y pecyn cymorth ariannol sydd ar gael yn wahanol os ydych chi'n byw y tu allan i Loegr. Bydd hefyd yn wahanol i fyfyrwyr a ddechreuodd yn 2005/2006 neu cyn hynny - ac i rai myfyrwyr a ddechreuodd yn 2006/2007 ar ôl cymryd blwyddyn fwlch.

Benthyciadau Myfyrwyr gan y llywodraeth

ni fydd angen i chi ddechrau talu Benthyciadau Myfyrwyr yn ôl nes i chi ennill £15K

Gallai myfyrwyr amser llawn newydd sydd mewn addysg uwch - a'r rheini a ddechreuodd yn 2006/2007 - fod yn gymwys i gael y canlynol:

  • Benthyciad Myfyrwyr i dalu am gostau ffioedd dysgu (hyd at £3,145 ar gyfer 2008/2009 neu £3,070 ar gyfer 2007/2008
  • Benthyciad Myfyrwyr i helpu i dalu am gostau llety a chostau byw eraill (hyd at £6,475 ar gyfer 2008/2009 neu £6,315 ar gyfer 2007/2008)

Bydd y llog y byddwch yn ei dalu'n gysylltiedig â chwyddiant, felly, mewn termau real, bydd y swm y byddwch yn ei dalu'n ôl yn fras yr un fath â'r swm a fenthyciwyd gennych.

Grantiau i helpu â chostau llety a chostau byw eraill

Yn ogystal â Benthyciadau Myfyrwyr, gallech hefyd fod yn gymwys i gael Grant Cynhaliaeth neu Grant Cymorth Arbennig i roi cymorth ychwanegol i chi gyda'ch costau llety a chostau byw eraill. Ni fydd angen i chi dalu hwn yn ôl.

Mae grantiau o hyd at £2,835 ar gael ar gyfer 2008/2009 – neu hyd at £2,765 ar gyfer 2007/2008. Edrychir ar eich incwm chi - ac ar incwm eich cartref - er mwyn penderfynu a allwch chi gael un ai peidio.

Bwrsarïau, ysgoloriaethau a dyfarniadau

Bwrsarïau

Efallai y bydd modd i chi gael cymorth ychwanegol drwy fwrsari - cymorth ariannol ychwanegol gan eich prifysgol neu'ch coleg. Gellir darparu bwrsarïau mewn amrywiaeth o ffyrdd - er enghraifft, fel taliadau i'ch cyfrif banc neu fel gostyngiad ar eich costau llety.

Does dim rhaid i chi dalu bwrsarïau'n ôl.

Mae'n rhaid i brifysgolion sy'n cael arian cyhoeddus ac sy'n codi'r ffioedd dysgu llawn (£3, 145 ar gyfer 2008/2009 neu £3,070 ar gyfer 2007/2008) roi bwrsari i chi os ydych chi'n cael y Grant Cymorth Arbennig neu'r Grant Cynhaliaeth yn llawn.

Mae nifer o brifysgolion a cholegau yn cynnig cryn lawer mwy na’r lleiafswm: yn 2007/2008 roedd y bwrsari nodweddiadol i fyfyriwr a oedd yn derbyn y Grant Cynhaliaeth lawn ar gwrs yn costi’r ffioedd dysgu llawn £3,070 yn £1,000.

Ysgoloriaethau a dyfarniadau

Mae rhai prifysgolion a cholegau'n cynnig ysgoloriaethau. Gellir seilio'r rhain ar eich incwm, ar eich canlyniadau lefel A neu ar feini prawf eraill – holwch i weld beth sydd ar gael.

Ceir rhai elusennau ac ymddiriedolaethau addysgol a fydd, o bosib, yn fodlon rhoi cymorth ariannol ychwanegol i chi.

Ni fydd angen i chi ad-dalu unrhyw arian a gewch drwy fwrsari, ysgoloriaeth neu ddyfarniad.

Cymorth ychwanegol

Mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr a chanddynt anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, ac ar gyfer myfyrwyr â phlant neu oedolion dibynnol.

Gall y Gronfa Mynediad at Ddysgu ddarparu cymorth i fyfyrwyr sydd ar incwm is neu fyfyrwyr y mae angen cymorth ariannol ychwanegol arnynt.

Sut ydych chi'n gwybod eich bod yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr?’

Nid pawb sy'n gymwys am y math yma o gymorth ariannol a ddisgrifiwyd ar y dudalen hon.

Mae'n rhaid i chi a'ch cwrs fodloni gofynion penodol - er enghraifft, rhaid i chi fodloni rhai gofynion o ran preswylio, a rhaid i'ch cwrs arwain at gymhwyster addysg uwch cydnabyddedig.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys cyn gwneud cais.

Cyfrifo'r cyfan: cyfrifiannell grantiau a Benthyciadau Myfyrwyr

Os ydych yn fyfyriwr newydd yn dechrau yn 2008/2009, y ffordd fwyaf hwylus o gael syniad beth yw cyfanswm y cymorth ariannol sydd ar gael drwy Benthyciadau Myfyrwyr yw defnyddio'r cyfrifiannell grantiau a Benthyciadau Myfyrwyr.

Sut mae gwneud cais am gyllid myfyrwyr?

Y ffordd gyflymaf a'r fwyaf hwylus o wneud cais yw ar-lein. Neu gallech gael ffurflen bapur, ei llenwi, a'i hanfon at eich awdurdod lleol. Defnyddiwch y ddolen berthnasol isod i gael mwy o fanylion.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU