Cam cyntaf llunio cyllideb ar gyfer bywyd myfyriwr yw cyfrifo faint fydd addysg uwch yn ei gostio. Bydd angen i chi ystyried ffioedd dysgu, costau llety a chostau byw.
Byddwch yn wynebu dau fath o gostau mewn addysg uwch, sef:
Mae ffioedd dysgu yn helpu i dalu am gostau cynnal prifysgol neu goleg - cyflogau i staff addysgu, cynnal a chadw'r adeiladau ac yn y blaen.
Os byddwch chi'n dilyn cwrs amser llawn, mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fydd uchafswm cost y ffioedd dysgu a godir arnoch. Mae faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu yn dibynnu i ba brifysgol neu goleg y byddwch yn mynd, pa gwrs fyddwch yn ei ddilyn, a ble yn y DU fyddwch chi'n astudio.
Bydd uchafswm y ffioedd dysgu hefyd yn amrywio i fyfyrwyr a ddechreuodd gyrsiau cyn mis Medi 2006 yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol.
Os dechreuodd eich cwrs yn ystod neu ar ôl mis Medi 2006 - neu os nad yw wedi dechrau eto - yr uchafswm y gellir ei godi arnoch am ffioedd dysgu ar gyfer 2008/2009 yw £3,145. Ar gyfer 2007/2008, yr uchafswm yw £3,070.
I fyfyrwyr a ddechreuodd cyn mis Medi 2006 - ac i nifer a ddechreuodd ym mis Medi 2006 ar ôl cymryd blwyddyn fwlch yn 2005/2006 - y cyfraniad mwyaf tuag at eu ffioedd dysgu fydd £1,255 yn 2008/2009 a £1,225 yn 2007/2008.
Gallwch gael gwybodaeth am ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau unigol trwy wefan UCAS.
Does dim rheoliadau sy'n nodi faint y gall prifysgolion godi am ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau rhan-amser. Holwch gyda'ch prifysgol neu'ch coleg faint fyddant yn ei godi - mae'n werth holi hefyd faint fydd y ffioedd yn debygol o gynyddu drwy gydol eich cwrs.
Mae nifer o bethau i'w hystyried pan fyddwch yn cyfrifo eich costau byw. Bydd eich costau yn uwch os byddwch chi'n byw oddi cartref, ac yn uwch fyth os fyddwch chi'n byw ac yn astudio yn Llundain.
Mae costau byw i fyfyrwyr amser llawn yn cynnwys:
Mae cymorth ariannol ar gael i'ch helpu gyda'ch ffioedd dysgu, ac mae'n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth tuag at eich costau llety a'ch costau byw. Dilynwch y ddolen berthnasol isod i gael gwybod faint y gallwch ei gael.
Pan fyddwch wedi cyfrifo faint fydd addysg uwch yn ei gostio i chi, a faint o help allwch chi ei gael, byddwch yn barod i lunio cyllideb:
Defnyddiwch y dolenni isod i gael mwy o gyngor am gyllidebu.