Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ydych chi'n gymwys i gael cyllid myfyrwyr?

Er mwyn cael cyllid myfyrwyr, mae'n rhaid i chi a'ch cwrs fod yn 'gymwys'. Mae hyn yn golygu bodloni rhai amodau penodol – yn seiliedig, er enghraifft, ar lle rydych chi'n byw fel arfer ac a ydych chi wedi astudio cwrs addysg uwch o'r blaen ai peidio.

Cymhwysedd ar gyfer cymorth ariannol

Cyn i chi wneud cais am gyllid myfyrwyr, rhaid i chi weld a ydych chi a'ch cwrs yn gymwys. Gall y rheolau ar gymhwysedd fod yn gymhleth, ac nid yw'r wybodaeth ar y dudalen hon yn ymdrin â phob amgylchiadau.

Ond mae'n cynnig canllaw cyffredinol i'ch cymhwysedd ar gyfer cyllid myfyrwyr os ydych chi:

  • yn dilyn cwrs addysg uwch – fel gradd gyntaf neu 'israddedig' – neu gwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ôl-radd
  • yn byw yn Lloegr fel arfer, ac
  • yn astudio yn unrhyw le yn y DU

Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, ceir rheolau gwahanol o ran cymhwysedd – gweler 'Beth os nad yw'r rheolau cymhwysedd hyn yn berthnasol i chi?' isod.

Gweld a ydych chi'n gymwys

I fod yn gymwys i dderbyn pecyn cyllid myfyrwyr safonol y llywodraeth, rhaid i chi fodloni rhai amodau penodol – yn seiliedig ar lle'r ydych yn byw, y math o gwrs yr ydych yn ei wneud, a nifer o ffactorau eraill.

Mae dau gam i gadarnhau eich bod yn gymwys i dderbyn cyllid myfyrwyr. Bydd angen i chi sicrhau:

  • eich bod chi eich hun yn gymwys
  • bod eich cwrs a'r man yr ydych yn astudio ynddo yn gymwys

Cam un: sicrhau eich bod chi eich hun yn gymwys

Cam dau: sicrhau bod eich cwrs a'r man yr ydych yn astudio ynddo yn gymwys

Os oes arnoch angen mwy o gymorth neu gyngor am gwestiynau manwl am gymhwysedd, ffoniwch y Llinell Gymorth Myfyrwyr ar 0845 602 0583.

Beth os nad yw'r rheolau hyn am gymhwysedd yn berthnasol i chi?

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol os yw unrhyw un o'r canlynol yn wir:

  • rydych chi'n byw y tu allan i Loegr fel arfer
  • rydych chi'n dilyn eich cwrs y tu allan i'r DU
  • rydych chi'n dilyn cwrs ôl-radd (ac eithrio cwrs Hyfforddi Athrawon Cychwynnol)

Os byddwch yn dod o dan un o'r grwpiau hyn, dilynwch y ddolen berthnasol isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU